30 Tachwedd 2021
Mae mesur gorchudd glaswellt bob wythnos yn holl bwysig i gael y cynhyrchiant llaeth gorau o laswellt ar un o’r ffermydd sychaf yng Nghymru.
Mae Maesllwch Home Farm yn Nyffryn Gwy yn lwcus i gael 860mm (34 modfedd) o law mewn blwyddyn, ond drwy ddulliau rheoli glaswellt ardderchog, mae’r ffermwr llaeth Andrew Giles a’i dîm yn tyfu 13tDM/ha ar gyfartaledd bob blwyddyn ac yn cynhyrchu 5,795 litr y fuwch o laeth a werthir gyda mewnbwn dwysfwyd o ddim ond 800kg y fuwch.
Dywedodd Mr Giles, sy’n rhannu ei ddata tyfu glaswellt drwy Brosiect Porfa Cymru Cyswllt Ffermio, fod y wybodaeth hon yn helpu’r busnes i gynllunio ar gyfer adeg pan fo glaswellt yn brin yn y tymor tyfu, ac i ddelio â’r sefyllfa mor fuan â phosibl.
“Y funud y mae’r gyfradd dyfu yn syrthio islaw’r hyn byddem yn tybio sy’n gyfradd gyfartalog ar gyfer yr adeg honno o’r flwyddyn – yn enwedig os nad oes dim glaw yn rhagolygon y tywydd – rydyn ni’n dechrau rhoi pethau ar waith.
“I ddechrau oll, byddem yn ymestyn hyd y cylch pori ac, os ydym yn mynd mewn i gyfnod sych, byddem yn rhoi mwy o ddwysfwyd i ddechrau ac, os oes angen, yn bwydo silwair yn y padog am ben tamaid ffres er mwyn addasu’r galw am laswellt.”
Yn y sefyllfa honno, byddem yn dwyn yr holl badogau i mewn i’r cylchdro ac yn gohirio gwneud silwair.
“Rydyn ni’n ceisio osgoi torri llawer iawn o erwau o silwair ar y tro, oherwydd fe all hyn greu sychdwr yr ydyn ni ein hunain yn ei achosi,” eglurodd Mr Giles.
Mae’r cyfuniad hwn o gamau yn bwysig oherwydd fe all wneud “gwahaniaeth aruthrol” i’r effaith a gaiff sychdwr ar y glaswellt sydd ar gael, a faint o laeth a gynhyrchir, meddai.
Ar 2300kgDM/ha drwy’r prif dymor tyfu, mae’r gorchudd cyfartalog ar y fferm yn ychydig uwch na’r lefel a gysylltir fwyaf â systemau pori gwartheg llaeth, i helpu i gadw lleithder yn y pridd.
Mae cynllunydd cylchdro hydref yn allweddol er mwyn cael gorchuddion cychwynnol da a gallu dibynnu llai ar wrtaith a brynir i mewn yn y gwanwyn. Dywedodd Mr Giles fod 2021 wedi dangos pa mor bwysig yw’r cynllunydd hwnnw.
“Fe wnaethom ddechrau gyda thwf eithriadol o dda ym mis Awst, ar adeg pan fyddem fel arfer yn rhoi silwair i ychwanegu at y gorchudd, ond ddechrau mis Medi, pan nad oeddem wedi cael glaw ers tipyn, fe wnaeth ein twf rhagamcanol o 60kg DM/ha syrthio tua 30kgDM, a chafodd hynny effaith ar y cynllunydd hydref.”
Cafodd silwair ychwanegol ei fwydo i’r gwartheg er mwyn delio â hyn.
“Os gallwch weld prinder glaswellt yn dod, drwy fesur ac os yw’r data hwnnw gennych chi, fe allwch fynd i’r afael â’r sefyllfa,” meddai Mr Giles.
“Byddai’n anodd iawn rheoli trefn bori’r hydref a bod yn hyderus y ceid digon o laswellt yn y gwanwyn pe na fyddem yn defnyddio cynllunydd cylchdro.”
Mae’n anelu at orchuddion terfynol cymharol uchel o 2350-2400kgDM/ha oherwydd, yn ogystal â bod yn sych, mae’r fferm yn cael tywydd oer yn y gaeaf; yn 2021, roedd y gwartheg i mewn yn ystod y dydd ar 16 Hydref a byddant i mewn yn gyfan gwbl ar 23 Tachwedd.
“Pan symudon ni gyntaf i’r Clas-ar-Wy o Sir Benfro, roedden ni’n defnyddio’r ffigurau gorchudd terfynol y byddem wedi’u defnyddio yno – ond gan fod yr amodau’n wahanol iawn yma, gwelsom nad oedd gennym ddigon o laswellt yn y gwanwyn, felly roedd angen inni fanwl-gywreinio ein cynllun dogni porthiant,” meddai Mr Giles.
Mae gan y padogau cyntaf a gaiff eu pori yn y gwanwyn orchuddion cychwynnol o 3500kgDM/ha, ond mae gorchudd cyfartalog y fferm yn o leiaf 2200kgDM/ha.
“Bydd gorchuddion uchel yn gaeafu’n dda, cyn belled â’ch bod yn ei bori’n lân yn yr hydref; mae gennyn ni wedyn borfa las, ffres, nid deunydd marw,” meddai Mr Giles.
Mae gwrtaith yn cael ei daenu ar gyfradd o 190kg/ha/flwyddyn.
Mae’r fuches yn lloia dros 11 wythnos o wythnos olaf Ionawr ymlaen; maen nhw’n cael eu troi allan yn ystod y dydd ar ôl i 30 o anifeiliaid loia. Mae pob padog 3-6ha yn cael ei bori 10-11 gwaith y flwyddyn ar gyfartaledd; mae’r fferm yn bennaf yn taro’r ‘diwrnod hud’ yn ystod wythnos gyntaf Ebrill.
Defnyddir silwair a dwysfwydydd i unioni’r prinder porfa – caiff dwysfwydydd eu bwydo ar gyfradd o 800kg/buwch/blwyddyn; caiff y grawn a brynwn ei felino gan felin symudol a’i gymysgu â blawd rêp a mwynau. Yn 2020, roedd hyn yn gweithio allan ar bris cyfartalog o £160/t.
Caiff deg y cant o’r fferm ei hail-hadu yn flynyddol gyda chymysgeddau hadau arbennig sy’n seiliedig ar waith treialon pori.
“Dywedwyd wrthyf unwaith ei bod yn cymryd rhwng pump a 10 mlynedd i newid geneteg buchod, ond blwyddyn yn unig i newid geneteg glaswellt, a gall hynny’n bendant fod yn wir drwy ail-hadu,” meddai Mr Giles.
Daeth yn fferm fonitro i Brosiect Porfa Cymru gan ei fod wedi creu busnes llwyddiannus drwy rannu gwybodaeth a syniadau, ac roedd eisiau rhoi cyfle tebyg i eraill.
“Roeddwn eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i ddiwydiant sydd wedi bod yn dda iawn wrthyf fi, er mwyn annog mwy o bobl i edrych ar yr hyn rydyn ni’n ei wneud fel ffermwyr, ac ystyried a fyddai’r diwydiant hwn yn addas iddyn nhw.”
Caiff y gwaith mesur glaswellt a chofnodi data ei wneud bob dydd Llun gan reolwr y fuches John Thomas; caiff y data ei brosesu gan ddefnyddio Agri-net i roi darlun cywir o orchuddion a thwf y glaswellt. Caiff y data hwnnw ei drafod mewn cyfarfod tîm rhwng Mr Giles, Mr Thomas, fforman y fferm, Tom Williams, a rheolwr cynorthwyol y fuches, Tom Freeman.
Mae pawb â’i ffocws ar ba mor bwysig yw glaswellt i’r busnes, meddai Mr Giles – ac roedd e’n annog ffermwyr eraill i fabwysiadu’r agwedd honno:
“Mae angen i ffermwyr dderbyn bod angen mesur y glaswellt yn wythnosol yn ddi-ffael.
“Rhaid bod rheswm eithriadol i John beidio â mesur ar ddydd Llun ac, os nad yw’n gwneud, bydd yn mesur ar y dydd Mawrth.
“Rydym yn gwneud ein penderfyniadau dyddiol, ac wythnosol o amgylch hyn gyda’r nod o roi i’r fuches laswellt o ansawdd da bob dydd o’r tymor pori.”
Ar adeg pan fo prisiau mewnbynnau yn anwadal iawn, mae cynhyrchu llaeth ar laswellt yn gydnerth iawn, ychwanegodd:
“Mae prisiau porthiant sy’n mynd drwy’r to yn cael llai o effaith ar yr elw net pan rydych chi ond yn bwydo ychydig gannoedd o gilos ac rydych chi angen llai o silwair pan fo’r gwartheg dan do am gyfnodau byr.
“Yr her inni yn awr yw ceisio dibynnu llai ar nitrogen wedi’i weithgynhyrchu.”
Mae'r prosiect hwn wedi cael cyllid trwy Raglen Datblygu Gwledig – Cymunedau Gwledig 2014-2020 Llywodraeth Cymru, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.