Mae John a Meinir Thomas, ynghyd â’u mab, Gethin (21) yn ffermio ar fferm Cefnllanio, daliad ucheldir 500 erw ger Tregaron. Maent yn cadw buches o 65 o fuchod sugno Hereford croes yn bennaf, ynghyd ag oddeutu 1,000 o ddefaid Mynydd Cymreig a Miwl Cymreig.

 

thomas family john meinir gethin 2 1

John a Meinir yw’r ail genhedlaeth i ffermio ar fferm Cefnllanio, ac mae ganddynt dri o blant eraill sy’n iau. Maent yn credu bod datblygu sgiliau newydd o fewn yr uned deuluol yn eu cynorthwyo i ddiogelu dyfodol y fferm ar gyfer y genhedlaeth nesaf, gan wella systemau o ddydd i ddydd, a fydd yn eu  tro, yn eu cynorthwyo i ddatblygu cryfder a chynaliadwyedd.

Mae cwblhau Cynllun Datblygu Personol (PDP) Cyswllt Ffermio – adnodd ar lein newydd sy’n hwyluso datblygiad personol – wedi bod yn sbardun i John, Meinir a Gethin osod nodau personol a chychwyn ar gyrsiau hyfforddiant newydd, a fydd yn eu barn nhw’n eu cynorthwyo gyda’u gwaith o ddydd i ddydd.

Diolch i argymhelliad gan deulu o ffermwyr cyfagos a gwblhaodd Gynlluniau Datblygu Personol cyn gwneud cais llwyddiannus am hyfforddiant trwy Cyswllt Ffermio, penderfynodd Meinir  gysylltu ag Eleri Jewell, swyddog datblygu lleol Cyswllt Ffermio ar gyfer ardal Gogledd Ceredigion.

Roedd Eleri yn gallu cynnig arweiniad ar y broses o gwblhau’r PDP a chyfeirio’r teulu at hyfforddiant busnes a thechnegol trawnsnewidiol, yn ogystal â modiwlau e-ddysgu ar lein newydd Cyswllt Ffermio, sydd wedi’u hariannu’n llawn, gan egluro’r manteision y gallai bob un gynnig.

 “Nid yw cwblhau PDP yn broses gymhleth na hirfaith, ond mae’n golygu bod angen i chi edrych ar y sgiliau sydd eisoes ar gael o fewn y busnes. Unwaith y byddwch wedi adnabod eich cryfderau, mae’n gymharol rhywdd i weld unrhyw fylchau ac i weld pa sgiliau sydd angen i chi eu dysgu neu ddatblygu ymhellach er mwyn i’r busnes ddod yn fwy effeithlon,” meddai Eleri.

Yn ddiweddar, gwnaeth John gais llwyddiannus ar gyfer hyfforddiant plaladdwyr PA1 a PA2 sy’n golygu ei fod bellach yn cydymffurfio â rheoliadau presennol ac nad oes angen iddo brynu’r gwasanaeth i mewn mwyach.

Mae Meinir yn credu y bydd y elwa o gael gwell dealltwriaeth o systemau rheoli busnes a chyfrifeg sy’n mynd law yn llaw â rhedeg busnes llwyddiannus, ac mae’n gobeithio cwblhau cwrs undydd yn y dyfodol agos.

Mae Gethin, sy’n cneifio ar gytundeb ac yn brysur iawn yn yr ardal leol, wedi manteisio ar nifer o gyrsiau cymorthdaledig Cyswllt Ffermio yn y gorffennol, gan ddatblygu sgiliau gwerthfawr y mae’n eu defnyddio bob dydd megis trin a thrafod peiriannau ar yr adeg hon o’r flwyddyn, a chneifio. Wrth edrych i’r dyfodol, mae wedi gwneud cais llwyddiannus ar gyfer cyrsiau hyfforddiant coetir.

“Rydym yn awyddus i gynnal a chadw ein gwrychoedd a’n hardaloedd coetir ein hunain, ac mae potensial ar gyfer ffrwd incwm newydd o werthu coed oddi ar y fferm, felly fe ymgeisiais am hyfforddiant fydd yn fy ngalluogi i dorri a phrosesu coed hyd at 380mm o drwch a chwrs cynnal a chadw llif gadwyn,” meddai Gethin.

Mae Gethin hefyd yn bwriadu ymgeisio ar gyfer dilyn cwrs trimio traed gwartheg, ac mae’n gobeithio y bydd yn ei gynorthwyo i reoli cloffni yn ei fuches mewn modd diogel ac amserol.

“Mae cyngor ac arweiniad Eleri wedi bod yn werthfawr iawn i ni. Rhoddodd anogaeth i’r tri ohonom gwblhau ein Cynlluniau Datblygiad Personol ac mae hefyd wedi ein cyfeirio at nifer o wasanaethau a gweithgareddau trosglwyddo gwybodaeth Cyswllt Ffermio eraill yn ein ardal leol.

“Rydym bob amser wedi gwneud defnydd o gefngoaeth Cyswllt Ffermio ac wedi elwa o fynychu digwyddiadau trosglwyddo gwybodaeth, ond mae nifer o brosiectau newydd ar gael trwy’r rhaglen bresennol na fyddem wedi bod yn ymwybodol ohonynt.

“Os allwn ni fuddsoddi amser i ddysgu gan arbenigwyr, gallwn roi ein gwybodaeth a’n sgiliau newydd ar waith ar y fferm,” meddai Meinir.

Mae Cyswllt Ffermio yn darparu cefnogaeth i unigolion cymwys sydd angen arweiniad wrth gwblhau eu PDP. Am fwy o fanylion, cysylltwch â’ch swyddog datblygu lleol neu ewch i dudalen PDP ein gwefan.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Diadell o ddefaid mynydd sy’n rhan o Raglen Geneteg Defaid Cymru yn pesgi ŵyn bythefnos yn gynt na’r arfer
26 Mehefin 2024 Mae ŵyn a gynhyrchir gan ddiadell o ddefaid
Mentora yn rhoi dewrder i cyn newyddiadurwraig y BBC i gychwyn ar brosiectau amgylcheddol ar gyfer fferm ei theulu
24 Mehefin 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Cyllid Arbrofi Cyswllt Ffermio yn Helpu Ffermwyr i Wella Cynaliadwyedd a Pherfformiad Ŵyn
06 Mehefin 2024 Mae prosiect gan David & Will Lewis, Treforgan