Dr William Stiles: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.


Negeseuon i’w cofio:

  • Gall cynyddu’r cyfoeth o rywogaethau o blanhigion gynyddu bioamrywiaeth tir amaethyddol a chynnig lefelau cynnyrch addas ar gyfer anifeiliaid sy’n pori neu i gynhyrchu gwair.
  • Gall lleihau dwyster rheoli glaswelltir leihau faint o garbon a gollir o’r pridd a gwella strwythur y pridd.
  • Gallai’r dull hwn gynnig cyfrwng i leihau effaith amgylcheddol a chost cynhyrchu i’r ffermwr.

Mae cynyddu bioamrywiaeth mewn tir amaethyddol yn her a chyfle mawr i’r diwydiant amaeth, a all gynnig manteision o ran lleihau effaith amgylcheddol a gwella canfyddiad y cyhoedd o amaethyddiaeth, a sut y mae pobl yn ymwneud â ffermwyr a’r diwydiant amaethyddol yn ei gyfanrwydd. Mae’r rhesymau pam bod bioamrywiaeth yn cael ei golli yn yr ecosystem amaethyddol wedi eu cofnodi yn fanwl ac yn nodweddiadol maent yn ymwneud â chynyddu dwyster yr arferion rheoli yn hanner olaf yr ugeinfed ganrif. Yn y dirwedd amaethyddol heddiw mae systemau symlach wedi cymryd lle cymunedau mwy amrywiol, fel y gwelir mewn systemau glaswelltir lle mae gwndwn yn cynnwys 1-3 rhywogaeth yn cael ei sefydlu yn hytrach na’r porfeydd llawn rhywogaethau mwy traddodiadol. Yn nodweddiadol mae cymunedau glaswelltir llawn rhywogaethau yn cynnwys nifer o rywogaethau o blanhigion (gan gynnwys rhywogaethau glaswellt, hesg a pherlysiau), sydd yn eu tro yn cefnogi grwpiau o rywogaethau cysylltiedig mwy amrywiol gan gynnwys anifeiliaid di-asgwrn-cefn, adar a mamaliaid. 

blodau melyn 1
Er bod cadwraeth bioamrywiaeth yn eithriadol o bwysig, rhaid i hyn gael ei dafoli ag anghenion y busnes fferm a gofynion cynhyrchu bwyd i sicrhau diogelwch bwyd. Mae tystiolaeth ar gael sy’n profi potensial dulliau ar sail porfeydd llawn rhywogaethau i gyflawni nifer o fanteision i’r ffermwr, fel llai o fewnbwn o ran deunyddiau drud fel gwrtaith, ac i gymunedau o rywogaethau ehangach trwy ddarparu ar gyfer ecosystem ehangach. Ond mae angen i’r dull hwn gael ei brofi ymhellach ar ffermydd i ddangos y potensial ar gyfer ei weithredu yng Nghymru.

Effeithiau ar Gynnyrch:

Gall y dulliau ffermio glaswelltir presennol greu llawer o gynnyrch o ran cynnwys sych trwy feithrin rhywogaethau cynhyrchiol iawn gan roi llawer o wrtaith arnynt. Derbynnir mai’r dull hwn sy’n creu’r cyfraddau cynhyrchu uchaf o ran da byw, ond gall gael effaith niweidiol ar fioamrywiaeth ac o ran darparu ar gyfer ecosystem. Ond, efallai ei bod yn bosibl lleihau’r effaith amgylcheddol hwn trwy adfer glaswelltir traddodiadol, llawn rhywogaethau, a oedd unwaith yn un o nodweddion eiconig tirwedd Prydain.

dandelions 0
Dangosodd arbrofion bioamrywiaeth bod perthynas gadarnhaol rhwng cyfraddau cynhyrchiant a’r amrywiaeth o rywogaethau. Wrth gymharu setiau o blotiau glaswelltir wedi eu hau gyda gwahanol gyfraddau o rywogaethau, dangoswyd bod y cynnyrch yn uwch mewn glaswelltir llawn rhywogaethau na mewn rhai prin o rywogaethau, a bod yr effaith hwn yn parhau yn gyson yn y tymor hir (8 mlynedd). Mewn un astudiaeth yn cymharu cynhyrchiant mewn glaswelltir oedd yn cael ei reoli naill ai yn un llawn amrywiaeth (o blanhigion) ac ychydig o fewnbwn (gwrtaith) neu un gyda llawer o fewnbwn a llai o amrywiaeth, gwelwyd bod y cynhyrchiant yn cynyddu oherwydd yr amrywiaeth o blanhigion, oedd yn tafoli ag unrhyw gynnydd yn y cynnyrch o ychwanegu gwrtaith, gan arwain at gynnyrch tebyg o’r naill system a’r llall. Efallai nad yw prinder amrywiaeth o blanhigion yn yr astudiaeth hon o angenrheidrwydd yn cyfeirio at gaeau prin eu hamrywiaeth fel systemau glaswelltir dwys y Deyrnas Unedig, sy’n cynnwys dim ond ychydig o rywogaethau cynhyrchiol iawn. Fodd bynnag, o ran egwyddor o leiaf, gall cynyddu amrywiaeth y rhywogaethau mewn glaswelltir fod yn strategaeth reoli wahanol i gynhyrchu glaswelltir yn effeithiol, sy’n cynnig llai o effaith amgylcheddol a chostau cynhyrchu is.

Tadogwyd y cynnydd yn y cynnyrch gyda mwy o amrywiaeth o rywogaethau i ddylanwad rhannu adnoddau, uwch ben y ddaear ac yn y ddaear, oherwydd bod gwahanol blanhigion yn caniatáu i’r adnoddau, fel golau neu faetholion, gael eu defnyddio yn well. Gall hyn ganiatáu i blanhigion ddefnyddio adnoddau na fydd rhywogaeth yn eu hymyl yn gallu eu defnyddio (er enghraifft pan fydd planhigion gyda gwreiddiau gwahanol o ran hyd yn defnyddio maetholion ar lefelau gwahanol yn y pridd) gan leihau effaith y gystadleuaeth. Cyfeirir at hyn fel cyd-fodoli niche, (niche complementarity) lle mae rhyngweithio positif ymhlith rhywogaethau trwy gael nifer o wahanol rywogaethau o blanhigion gydag ystod eang o gylchedau bywyd. Yn ychwanegol, gall pensaernïaeth cymunedau mwy cymhleth o blanhigion, eto uwch ben a than ddaear, hefyd ganiatáu mwy o ddwyster o lystyfiant o ganlyniad i’r ffaith bod gwahanol ffurfiau o dyfiant yn gallu byw yn agos at ei gilydd.

Effeithiau carbon y pridd:

Gall cynyddu cyfoeth y rhywogaethau o blanhigion gynyddu dwyster y llystyfiant dan y ddaear trwy’r peirianwaith a nodir uchod. Cyflwynir carbon, ar ffurf deunydd organig, i’r pridd trwy dyfiant gwreiddiau planhigion neu’r deunydd a ddaw allan o wreiddiau. Gall chwalu gwrtaith gynyddu twf planhigion a all gynyddu’r mewnbwn o ddeunydd organig i’r pridd trwy’r peirianwaith hwn, ond gall ychwanegu gwrtaith hefyd gynyddu gweithgarwch organebau microbaidd, a all gyflymu cyfraddau pydru sy’n arwain at golli carbon. Dangosodd ymchwil diweddar fod rheolaeth ddwys ar laswelltir wedi lleihau’r stoc o garbon yn y pridd mewn safleoedd ar draws Lloegr a bod yr effaith hwn yn weladwy, ac yn sylweddol, ar ddyfnder llawer mwy nag oedd yn cael ei gydnabod yn y gorffennol. Mewn astudiaeth oedd yn ystyried glaswelltir ar draws y gwahanol raddau o ddwyster rheoli (o reolaeth draddodiadol, dwyster isel gydag ychydig o wrtaith yn cael ei ychwanegu ac amrywiaeth mawr o blanhigion, i reolaeth fwy dwys, gyda mewnbwn gwrtaith uchel (>100 kg nitrogen yr hectar y flwyddyn) ac ychydig o rywogaethau cynhyrchiol iawn), dangoswyd bod gan briddoedd oedd yn cael eu rheoli yn llai dwys gydag amrywiaeth mawr o rywogaethau lawer mwy o garbon na’r rhai oedd yn cael eu rheoli’n ddwys.

Mae’n ddiddorol nodi, bod y lefelau uchaf o garbon yn y pridd wedi eu cofnodi yn yr astudiaeth hon mewn priddoedd oedd yn cael eu rheoli yn ganolig (a oedd â mewnbwn nodweddiadol o ~ 25 – 50 kg o nitrogen i bob hectar y flwyddyn a lefelau canolig o ran dwyster y planhigion). Mae hyn yn dilyn y rhagfynegiadau oedd yn bodoli o ran cronni carbon yn y pridd, lle mae cyfanswm y maetholion a ychwanegir yn ffactor allweddol a all ysgogi mewnbwn carbon i’r pridd, o ganlyniad i’r cynnydd yn nhyfiant y planhigion, ond hefyd, ar yr un pryd, gyfraddau pydru. Felly, gellir defnyddio rheol enillion lleihaol: mae swm penodol o wrtaith sy’n fuddiol, ond gall unrhyw fewnbwn tu hwnt i hynny gael effaith negyddol ar garbon yn y pridd. Yn ychwanegol, roedd y pridd oedd yn cael ei reoli yn llai dwys â chyfraddau dwyster pridd is, y gellid ei ystyried yn fuddiol o ran cyfraddau ymdreiddiad dŵr, sy’n bwysig i leihau’r potensial o ran llifogydd.

Crynodeb:

blodau erthygl 1

Mae’r ddadl dros gynnal y lefelau cynnyrch presennol trwy gynyddu’r amrywiaeth o rywogaethau o blanhigion (a thrwy hynny gyfoeth y rhywogaethau ffawna cysylltiedig) yn un gref. Gallai hyn gynnig model i leihau’r mewnbwn economaidd angenrheidiol, gan gynyddu bioamrywiaeth a chyflawni gwasanaethau eraill i’r ecosystem, gan gynnwys y potensial ar gyfer storio carbon yn well. Ond, rhaid rhoi rhagor o ystyriaeth cyn plannu cymysgedd llawn rhywogaethau os gwneir hynny, gan y gall y safle a’r pridd ei gwneud hi’n ofynnol i baratoi ymlaen llaw cyn i gymysgedd llawn rhywogaethau gael ei hau er mwyn iddo fod yn llwyddiannus. Ceir llawer o ddeunydd am ddulliau effeithiol i adfer glaswelltir llawn rhywogaethau ar-lein.

Fel gwlad lle mae amaeth glaswelltir mor amlwg, mae Cymru mewn sefyllfa dda iawn i arwain ar gynlluniau fel hyn, a allai gynyddu effeithlonrwydd busnes. Os profir bod y dull hwn yn effeithiol, gall gynnig system i ddiogelu tirwedd Cymru at y dyfodol rhag y dylanwad a ragwelir oherwydd newid amgylcheddol, i leihau’r colli carbon o bridd Cymru (yn ogystal â chynyddu’r carbon sy’n cael ei storio dros amser), y cyfan gan gynnal y cynnyrch amaethyddol presennol a lleihau gofynion gwrtaith ac felly’r costau rheoli.

 

hinsawdd
 

Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffytoleddfu: Rôl Planhigion i Buro Dŵr Gwastraff Amaethyddol
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth, Prifysgol
Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr