6 Mai 2022

 

Dr David Cutress: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.

 

  • Mae gwaredu clafr defaid yn hanfodol gan fod yr afiechyd yn effeithio ar sector defaid y Deyrnas Unedig trwy golledion economaidd anferth ac mae’n bryder o bwys o ran llesiant
  • Byddai ei reoli yn cael budd o weld pwyslais ar y cyd gan grwpiau rhanbarthol o ffermwyr ochr yn ochr ag arbenigwyr milfeddygol
  • Dylai profion newydd a dewisiadau brechu, yn ogystal â phrosiectau wedi eu hariannu gan y llywodraeth, gynnig cyfleoedd da i weithio eto tuag at waredu’r clafr yn genedlaethol

 

Y broblem

Clafr defaid, sy’n cael ei achosi gan y gwiddon Psoroptes ovis, yw’r rhywogaeth ectobarasitig (parasit allanol) pwysicaf yn y Deyrnas Unedig. Mae’n endemig ac yn achosi afiechyd niweidiol ar draws y sector defaid i gyd. Yn y gorffennol, mae’r clafr wedi cael ei daclo’n effeithiol trwy ddeddfwriaeth a rheolaeth gan arwain at ei waredu yn Lloegr, yr Alban a Chymru. Er gwaethaf hyn, mae wedi ailymddangos ac ers hynny wedi gweld newidiadau o fod yn cael ei ystyried yn afiechyd hysbysadwy ac anhysbysadwy ar adegau gwahanol. Credir bod dadreoleiddio’r dulliau rheoli, ar sail ei statws, wedi arwain at ei amlygrwydd cynyddol ar ôl ei waredu. Mae adroddiadau’n cofnodi bod baich economaidd y clafr yn nefaid y Deyrnas Unedig tua £8 miliwn y flwyddyn, er bod darn barn gwyddonol gan arbenigwyr yn VetRecord  yn awgrymu bod y ffigyrau blaenorol yma, ar sail data wedi dyddio o 2005, yn awr mewn gwirionedd yn nes at £78 - £202 miliwn y flwyddyn. Hyd yn oed ar y pen isaf, mae’r effaith economaidd bron yn 1% o’r diwydiant £1.3 biliwn, ond os bydd y tanamcangyfrifon yn wir gall hyn amrywio mor uchel â 15% o golledion o gyfanswm gwerth cynhyrchu defaid yn y Deyrnas Unedig. Ochr yn ochr â’r colledion economaidd, mae’r clafr yn cael effaith sylweddol ar lesiant defaid a’u cysur ac fel y cyfryw mae’n broblem glir i’r sector ac amaethyddiaeth y Deyrnas Unedig yn ei gyfanrwydd. Awgryma llythyrau diweddar at The Veterinary Record  y gall yr achosion o glafr fod yn uwch yn y Deyrnas Unedig nag sy’n cael ei sylweddoli ar hyn o bryd. I beri pryder, gall gwiddon P.ovis hefyd heintio rhywogaethau o wartheg, gyda thystiolaeth benodol bod bridiau bîff Belgian Blue yn agored iddo gan awgrymu cymhlethdodau cynyddol mewn rhai rhanbarthau pan fyddant yn cael eu ffermio yn agos at ddefaid neu ochr yn ochr â nhw. Mae llawer o’r effeithiau, diagnosis a thriniaethau milfeddygol ar gyfer yr ectobarasitiaid yma wedi aros yn gymharol ddigyfnewid dros amser, fel y cyfryw mae ein herthygl flaenorol ar y pwnc yn dal i roi cefndir defnyddiol i’r rhai sy’n llai cyfarwydd ag o.

 

Gall unrhyw afiechyd sy’n seiliedig ar fector, boed hwnnw’n facterol, ffwngaidd, parasitig neu feiral, oherwydd eu natur, fod â risg y bydd gwrthedd yn datblygu dros amser. Yn yr un modd â llawer o afiechydon, mae gan y clafr hanes o dystiolaeth anecdotaidd o ddewisiadau trin yn cael fawr iawn neu ddim effaith. Ond bu’n rhaid aros tan 2018 pan ddaeth y cadarnhad gwyddonol cyntaf bod poblogaeth o glafr yng Ngorllewin Cymru, ffin Cymru/Lloegr a Llanllieni yn dangos arwyddion arwyddocaol o wrthedd i’r lacton macrocyclig (ML) moxidectin, un o’r ddwy brif driniaeth ar hyn o bryd ar gyfer atal clafr a drwyddedwyd yn y Deyrnas Unedig. Yn dilyn y cadarnhad gwreiddiol hwn, dangosodd adroddiad a gyhoeddwyd y flwyddyn ganlynol, bod gwrthedd niweidiol mewn poblogaethau yng Nghymru a de orllewin Lloegr i ML moxidectin ond hefyd ivermectin a doramectin. Mae hyn yn awgrymu bod gwrthedd i driniaethau trwyddedig ar gyfer yr afiechyd hwn ac afiechydon eraill (gan fod ivermectin yn cael ei ddefnyddio fel triniaeth lyngyr) yn broblem sylweddol fydd yn achosi pryder at y dyfodol. Mae gwrthedd i driniaethau yn broblem i’r Deyrnas Unedig i gyd, ond yn ychwanegol at hyn mae’n broblem wrth ystyried amlygrwydd afiechyd a’i ledaeniad mewn systemau ffermio organig. Mae ffermydd organig yn wynebu cyfyngiadau o ran dewisiadau triniaeth oherwydd eu harferion ffermio a gofynion achredu gyda chymdeithas y pridd â rheolau caeth am ddefnyddio cemegolion organoffosfforws (OP) a dip defaid. Fel y cyfryw, pan fydd ar ffermwyr organig angen trin y clafr mae hyn yn llawer mwy cymhleth a gall arwain at anallu i werthu defaid wedi eu trin a chael y premiwm organig, neu gall ei gwneud yn ofynnol i ffermwyr gadw at gyfnodau cilio cig sylweddol. Yn ychwanegol, mae defaid organig mewn mwy o berygl o ddioddef effeithiau unrhyw wrthedd oherwydd y gronfa gyfyngedig o ddewisiadau trin sydd ar gael iddyn nhw.

Mae clafr defaid yn broblem endemig ar raddfa fawr ac mae cludo anifeiliaid i farchnadoedd yn cael dylanwad ar ei ledaenu ac ail-stocio gyda stoc oddi ar y fferm heb ddigon o gyfleusterau cwarantîn. Ond, dangoswyd bod clafr hefyd yn digwydd mewn canolfannau cenedlaethol. Dengys hyn bod trosglwyddo heintiad yn lleol rhwng ffermydd cyfagos yn chwarae rhan allweddol yn yr afiechyd hwn. Am y rheswm hwn, ni ellir ystyried rheoli afiechyd clafr o fferm i fferm ond yn hytrach rhaid cael cydweithrediad rhwng ffermwyr cyfagos i geisio cael gwared ar unrhyw gronfeydd ail-heintio o ardal.

Wrth i amaethyddiaeth yn ei gyfanrwydd edrych tuag at well effeithiau amgylcheddol a chynaliadwyedd yna dylai llesiant anifeiliaid da fod yn bryder cynyddol. Pan fydd anifeiliaid yn dioddef afiechyd ac yn sâl nid ydynt yn perfformio cystal, ac maent angen mwy o fewnbwn (bwyd, gwellt oddi tanynt, dŵr ac ati) am gyfnod hwy o amser i gynhyrchu’r un allbwn, neu mae allbwn yn cael ei golli’n llwyr os bydd anifeiliaid yn gorfod cael eu difa. Gall y gostyngiad hwn mewn effeithlonrwydd gael ei ystyried yn uniongyrchol fel allyriadau carbon deuocsid cyfatebol uwch i bob kg o gig/llaeth a gynhyrchir ac ar sail yr effeithiau mawr ar draws y sector yn y Deyrnas Unedig gallai fod yn sylweddol (er na lwyddwyd i ddod o hyd i unrhyw astudiaethau cylched bywyd o glafr yn y Deyrnas Unedig). Yn ychwanegol, mae cynhyrchu triniaethau clafr cemegol eu hunain yn gysylltiedig ag ynni ac adnoddau sy’n cael effaith ar allyriadau byd-eang, tra bod gwaredu cemegolion dip defaid yn faes cyfarwydd sy’n peri pryder o ran llygru cyrsiau dŵr a bod yn wenwynig i bobl. Felly mae i reoli a gwaredu gwiddon P. ovis effeithiau amgylcheddol sylweddol hefyd.

 

Ystyriaethau rheoli

Ceir trafodaeth drylwyr ar ochr ymarferol ystyriaethau ar y fferm o ran rheoli clafr yn ein herthygl flaenorol  ac maent yn dal yn hollol berthnasol. Mae’r rhain yn sôn am allu’r gwiddon i fyw oddi ar anifail yn yr amgylchedd am 16-17 diwrnod gan wneud bioddiogelwch, trin anifeiliaid a hylendid yn flaenoriaeth amlwg. Mae’n hanfodol hefyd bod diagnosis cywir yn cael ei roi gan fod y clafr a llau yn dangos symptomau tebyg iawn ond mae arnynt angen trefn drin hollol wahanol. Felly mae samplo’r ddiadell gan filfeddyg, 12 anifail o bob diadell fel arfer (ar gyfer ELISA neu adnabod trwy ficrosgop), a thrafod y canlyniadau gyda’r milfeddyg yn allweddol cyn rhoi triniaeth. Fe nodwyd o’r blaen hefyd bod y Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid wedi comisiynu arolwg ar amlygrwydd clafr yng Nghymru yn 2016 gan ymchwilwyr Prifysgol Bryste. Er mai dim ond 14% o’r ymatebwyr posibl wnaeth lenwi’r arolwg, oherwydd ei natur wirfoddol, fe wnaeth atgyfnerthu rhai o’r prif bryderon. Roedd achosion yn cael eu gweld yn dymhorol gan ffermwyr ac mewn clystyrau yn rhanbarth Aberhonddu a Bangor, gyda thystiolaeth glir bod cyd-bori yn arwain at fwy o risg o glafr i ddefaid oherwydd y rhyngweithio amlycach rhwng anifeiliaid o fferm i fferm.

Cymerwyd o Chivers et al., (2018) – y raddfa’n cyfeirio at ddwyster yr adroddiadau clafr mae mwy o felyn yn golygu mwy o adroddiadau

 

Mae’n debyg bod canlyniadau arolygon o’r fath a chyngor arall gan arbenigwyr wedi arwain at AHWF a rhaglenni iechyd da byw ac anifeiliaid tuag at ddatblygu cynlluniau ar gyfer taclo’r afiechyd hwn. Nod cynlluniau yng Nghymru fel Stoc+ Hybu Cig Cymru a ‘For Flock’s Sake Let’s Stop Scab Together’ Rhaglen Ddatblygu Gwledig Lloegr yw helpu i roi cymhelliad i ffermwyr a rhoi gwybodaeth iddynt i waredu’r clafr unwaith eto o’r Deyrnas Unedig. Mae cynllun treialu, yn gysylltiedig â chynlluniau o’r fath, hefyd yn rhan o Bartneriaeth Arloesedd Ewrop (EIP) yng Nghymru ac yn defnyddio rhyngweithio gyda milfeddygon a phrofi cyson i roi gwybodaeth ar gyfer cynllunio triniaethau i helpu i ddangos strategaethau trin effeithiol a rhoi gwybodaeth i ffermwyr sy’n cymryd rhan yn y prosiect. Mae’n canolbwyntio ar ffermwyr mewn rhanbarth daearyddol tynn, yng Ngheredigion, sy’n gweithio gyda’i gilydd a chyfathrebu fel uned gyda chynghorwyr milfeddygol o ran strategaethau trin a rheoli eu grŵp. Rhoddir anogaeth yn aml i amseru tymhorol ar driniaeth clafr proffylactig trwy ddipio defaid gan gynlluniau rheoli ac mae wedi dangos ei fod yn effeithlon mewn llawer o astudiaethau. Er gwaethaf hyn, fe nodir, mewn traethawd yn 2020, yn economaidd, nad yw’n gost-effeithiol os nad oes rhyw fath o ostyngiad neu gymhorthdal o ran costau’r driniaeth. Os yw’r fferm dan sylw mewn ardal y mae’n hysbys bod y risg yn uchel yno mae hynny hefyd yn gwneud triniaeth yn gost-effeithiol. Yr awgrym sy’n deillio o hyn yw y gallai dulliau trefnus, cydweithredol ac wedi eu targedu gyda digon o gefnogaeth fynd ymhell iawn tuag at wella rheoli ac efallai yn y pen draw waredu gwiddon y clafr yn rhanbarthol.

 

Dewisiadau gwahanol ac ystyriaethau at y dyfodol

Felly, os cadarnhawyd bod gwrthedd beth yw’r dewisiadau wrth symud ymlaen? Wel, fel sy’n gyffredin ar draws rheoli afiechydon anifeiliaid, dylai’r nod eithaf bob amser fod yn ddiogelu ac atal yn hytrach na gwella. Mae dulliau rheoli yn hanfodol wrth weithredu’r diogeliad hwn ond yn y pen draw galluogi’r defaid eu hunain i wrthsefyll yr afiechyd yw’r dewis gorau. Gellid cyflawni hyn trwy strategaethau brechu neu o bosibl trwy fridio/addasiad genynnol i’r anifeiliaid eu hunain.

Roedd Pso o2, yr antigen a ddangosodd lawer o addewid am ei rôl yn rhoi diagnosis cywir o’r clafr mewn profion ELISA, hyd yn oed yn gallu rhoi diagnosis o lefelau isel iawn o widdon yn hynod o gywir. Mae’r prawf hwn yn cael ei gynnig hefyd fel rhan o’r diagnosis samplau gwaed am ddim yn y cynllun ‘For Flock’s Sake Let’s Stop Scab Together’ ac mae’n helpu i wella ein dealltwriaeth o’r afiechyd mewn mannau lle mae’n amlwg iawn. Hefyd, mae’r antigen Pso o2 wedi dangos addewid fel rhan o frechlyn cymysg. Yn y treialon cychwynnol mae’r gymysgedd hon yn achosi i faint briwiau sy’n gysylltiedig â’r clafr, ynghyd â nifer y gwiddon sy’n bresennol, i ostwng o dros 50%, gan gynnig cam ymlaen gwych tuag at ddiogelu’r defaid yn llwyr.

 

Er bod y cynnydd o ran brechlyn yn addawol o ran y dewisiadau posibl yn y dyfodol i ddiogelu defaid mae yn cael yr effaith negyddol o atal y prawf ELISA masnachol presennol rhag gweithredu fel diagnostig DIVA (Heintiad Gwahaniaethol o Anifail Wedi’i Frechu). Er mwyn gwrthweithio hyn mae sefydliad ymchwil Moredun, oedd yn rhan o ddatblygu’r brechlyn a datblygu ELISA ar y dechrau, wedi cynhyrchu dull diagnostig newydd gan ddefnyddio’r antigen Pso-EIP-1 na ddylai groes-ymateb i anifeiliaid sydd wedi eu trin â brechlyn, ond sy’n dal yn benodol a sensitif iawn fel offeryn diagnostig yn y dyfodol. Mae’n ddiddorol sylwi bod y fersiwn hwn o’r offeryn ELISA hefyd yn dangos gwell canlyniadau gan ddynodi heintiad clafr mewn bridiau nad ydynt o’r Deyrnas Unedig nad ydynt bob amser yn dod yn amlwg gyda’r prawf Pso o2. Mae hyn yn galonogol wrth feddwl am amser pan fydd brechlyn masnachol yn cael ei gynhyrchu ac i ffermwyr sy’n dymuno arallgyfeirio eu diadelloedd gyda bridiau nad ydynt o’r Deyrnas Unedig gydag allbynnau unigryw yn cynnwys cig, llaeth neu wlân o ansawdd gwell. 

Soniwyd am ddulliau rheoli gwahanol ar gyfer y clafr, mewn erthyglau ymchwil sy’n trafod rheoli ectobarasitiaid yn eu cyfanrwydd. Er bod rhyngweithio rhwng P. ovis a bacteria gwahanol wedi ei nodi fel rhai sy’n chwarae rhan bwysig o ran sut y mae’r parasit yn bwyta a heintio yn llwyddiannus, ychydig o ymchwil sydd wedi ei wneud hyd yn hyn i dargedu’r rhain. Os bydd brechlynnau’n profi’n llai effeithiol na’r disgwyl gall y rhyngweithio yma rhwng bacteria a pharasitiaid gynnig llwybrau i reoli’r afiechyd yn y dyfodol, sy’n wahanol, neu ar y cyd â’r triniaethau presennol lle mae gwrthedd yn digwydd. Hefyd, dangosodd cyfuniadau o olewau hanfodol (asid transcinnamig, asid usnig, geraniol, carvacrol, eugenol, thymol a L-menthol) rai llwyddiannau cynnar mewn astudiaethau labordy ar ladd gwiddon P. ovis.  Ystyriwyd hefyd reolaeth fiolegol naturiol trwy ffwng Beauveria bassiana neu Metarhizium anisopoliae a dangoswyd y gall y rhai heintio a lladd nifer o bryfed parasitig.

Fel dewis arall, mae cynhyrchu defaid â chaledwch genynnol i wahanol barasitiaid eisoes yn faes lle mae ymchwil wedi cael peth llwyddiant. Ychydig o ymchwil a wnaed ar ddynodi anifeiliaid sy’n llai agored i’r clafr yn benodol ac ar hyn o bryd mae diffyg tystiolaeth am ymchwil bridio i’r diben hwn. Ond gyda’r technolegau modern sydd ar gael i ddadansoddi rheoli trawsgriptaidd yr anifail gwesteio (rheoli genynnau yn ei hanfod) o ran heintiad parasit mae’n llawer cyflymach a haws nag erioed amlygu’r genynnau posibl y gellid eu targedu. Gallai’r genynnau a ddewisir wedyn naill ai helpu rhaglenni bridio strategol (sy’n araf) neu yn fwy tebygol yn cael eu targedu ar gyfer golygu genynnau, yn neilltuol gan fod cyfreithiau’r Deyrnas Unedig yn y maes hwn yn parhau i newid. Er enghraifft mae rheoli genynnol CRISPR/Cas9 eisoes wedi ei ddilysu ar gyfer golygu genynnau i wneud gwartheg yn llai agored i twbercwlosis. Ond os bydd cynlluniau gwaredu yn llwyddiannus, byddai’r strategaethau genynnol tymor hwy hyn yn ddiangen.

 

Crynodeb

Mae clafr defaid yn cael effaith anferth ar lesiant da byw ac economeg y sector yn y Deyrnas Unedig. Mae’r triniaethau’n brin oherwydd ystyriaethau trwyddedu ac amgylcheddol ac mae tystiolaeth o wrthedd i driniaethau wedi dod i’r amlwg. Yn ychwanegol, mae rheoli’n gymhleth oherwydd y gall drosglwyddo wrth i anifeiliaid fod yn agos a gall trosglwyddo heb fod ar anifail ddigwydd oherwydd gallu sylweddol y gwiddon i oroesi yn yr amgylchedd heb anifail gwesteio. Er mwyn gwella’r dulliau rheoli dylai ffermwyr sydd ag anifeiliaid yn agos at ei gilydd weithio gyda’i gilydd, ynghyd â milfeddygon i bennu cynlluniau trin a rheoli trwy ranbarth. Dylai offer grymus ar ffurf profion antigen ELISA am glafr sydd ar gael yn fasnachol helpu i wella cynlluniau rhanbarthol o’r fath. Yn ychwanegol mae gobaith cryf y bydd brechlyn amddiffynnol allai roi hwb sylweddol i gynlluniau gwaredu. Os bydd y rhain i gyd yn cael eu cyflawni ar eu gorau fe ddylent helpu i symud y Deyrnas Unedig yn ôl tuag at waredu’r clafr trwy’r wlad, gan arbed miliynau o bunnoedd i’r sector amaethyddol yn ei gyfanrwydd.

 

Os hoffech fersiwn PDF o'r erthygl hon, cysylltwch â heledd.george@menterabusnes.co.uk


Related Newyddion a Digwyddiadau

Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr
Cnydau Porthiant ar gyfer Pesgi Ŵyn: Cnydau Bresych
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth