23 Medi 2021

 

Dr David Cutress: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.

 

  • Tatws yw un o'r cnydau bwyd pwysicaf yn fyd-eang
  • Gall pathogenau ffyngaidd achosi gwahanol fathau o glwy tatws sy'n lleihau maint y cnwd yn sylweddol ac yn golygu bod mwy o gemegolion amgylcheddol amheus yn cael eu defnyddio
  • Gallai dewisiadau amgen sy'n deillio o fyd natur yn lle cemegolion synthetig fod yn opsiwn ar gyfer diogelu rhag clwy tatws a thrin clwy tatws yn y dyfodol gyda llai o effeithiau ar yr amgylchedd

 

Tatws fel cnwd allweddol

Mae tatws yn un o’r prif gnydau ledled y byd ac yn cael eu cynhyrchu ar raddfa fawr. Ceir cyfanswm o fwy na 5000 o amrywogaethau. Un o'r rhesymau dros lwyddiant tatws a’u defnyddio fel un o’r prif gnydau yw eu bod yn cynhyrchu mwy o fwyd ar lai o dir yn gynt na bron unrhyw gnwd bwyd arall ac yn addasu’n dda at yr hinsawdd a hefyd yn cynnwys cryn dipyn yn fwy o broteinau pwysig na grawnfwydydd fel gwenith. Ar hyn o bryd, tatws yw’r pedwerydd cnwd pwysicaf at fodloni cymeriant calorïau’r byd, ar ôl gwenith, reis ac ŷd felly mae’r cynhyrchiant gorau posibl yn hanfodol ar gyfer poblogaeth fyd-eang sy’n tyfu. Er bod erthyglau diweddar yn y cyfryngau wedi nodi peryglon sy'n gysylltiedig â choginio tatws ar dymheredd uchel, am fod hynny’n creu acrylamid carsinogenaidd, nid yw hyn yn ffenomenon sy’n perthyn i datws yn unig ac ni all wrthbwyso'r maetholion deietegol positif a ddarperir ar ffurf gwrthocsidyddion, fitaminau, polyffenolau, mwynau, carbohydradau a ffeibr dietegol. Mae ffigurau cynhyrchiant y Deyrnas Unedig yn 2020 ar gyfer tatws yn amcangyfrif cnwd o 5.37 megaton (miliynau o dunelli) er bod llai o arwynebedd wedi’i blannu nag yn y blynyddoedd blaenorol, ac felly mae mwy o gynnyrch yn cael ei gyflawni o’r un arwynebedd. Cymru (ynghyd â Gorllewin Canolbarth Lloegr) sy’n gyfrifol am ryw 12.5% o gyfanswm yr arwynebedd a blannwyd ac o gyfanswm cnwd tatws y Deyrnas Unedig, sef cyfran arwyddocaol er gwaethaf maint cymharol fach y wlad a’i ffocws mawr ar dda byw o flaen tir âr.

 

Effeithiau’r clefyd

Yn fyd-eang, mae’r FAO wedi awgrymu bod 40% o’r cynnyrch ar draws yr holl gnydau yn cael ei golli oherwydd plâu a chlefydau planhigion. Mae newidiadau amgylcheddol a’r tymheredd uwch a fydd yn digwydd oherwydd effeithiau newid hinsawdd yn debygol o gynyddu'r risg o glefydau a phlâu, felly mae hyn yn fater hanfodol wrth symud ymlaen mewn amaethyddiaeth. Mae hyn yn arbennig o wir am bathogenau ffyngaidd mewn tatws gan fod arnyn nhw angen tymheredd a lleithder penodol i ffynnu ac mae rhagfynegiadau o newid yn hinsawdd y Deyrnas Unedig yn awgrymu y gallai hyn beri mwy o broblemau clwy tatws.  Ar draws yr holl datws sy’n cael eu cynhyrchu, mae amcangyfrif o 20% o golledion y cnydau wedi’u cysylltu â chlwy tatws hwyr sy'n achosi mwy na £3.5 biliwn o golledion ledled y byd. Bernir mai clwy tatws hwyr yw’r clefyd pwysicaf wrth gynhyrchu tatws yn y Deyrnas Unedig ac amcangyfrifir bod pob tymor o’r clwy yn costio £50 miliwn i’r diwydiant. Gan hynny, mae atal a rheoli'r clefyd hwn yn ystyriaeth bwysig mewn gwyddoniaeth ac yn y sector cyfan. Achosir y clefyd gan Phytophthora infestans, sef ffwng llwydni dŵr sydd hefyd yn gallu achosi clefydau pathogenaidd mewn cnydau tomatos (sy’n cynyddu ei bwysigrwydd economaidd), a'r prif ddull rheoli yw defnyddio ffyngleiddiaid. Mae'r pathogen hwn yn achosi difrod yn nail a choesyn y daten a marwolaeth yn y pen draw sydd yn ei dro yn achosi i'r tatws tanddaear bydru. Mae P. infestans yn arbennig o anodd i’w reoli gan ei fod yn esblygu’n gyflym drwy atgenhedlu clonaidd ac atgenhedlu rhywiol ac felly yn gallu magu ymwrthedd i driniaethau’n gyflym iawn a gall amrywogaethau sy’n arbennig o effeithiol ddod yn amlwg yn gyflym. Mae llawer o amrywogaethau P. infestans sy’n esblygu nid yn unig yn gwrthsefyll ffyngleiddiaid a bioleiddiaid eraill ond maen nhw hefyd wedi amlygu mwy o ffyrnigrwydd ac “ymosodgarwch” gan achosi difrod cynyddol i blanhigion.

 

Mae clwy tatws cynnar sydd hefyd yn cael ei alw’n Alternaria yn fector ffyngaidd yn y pridd a’r ddwy brif rywogaeth yw Alternaria solani ac Alternaria alternata. Mae rhywogaethau Alternaria yn achosi colledion dramatig yn y dail wrth i’r cnydau tatws dyfu ac mae hyn yn ei dro yn gallu lleihau'r cynnyrch hyd at 30%. Clwy tatws cynnar yw'r ail glefyd uchaf sy'n effeithio ar gynhyrchiant tatws yn fyd-eang ac yn yr un modd â P. infestans mae hefyd yn gallu bod yn bathogen sy'n effeithio ar domatos yn ogystal ag wylysiau a phuprynnau. Fel y gwelir isod, mae'r dail heintiedig yn mynd yn fadreddog ac yn sychu a bydd sborau'r ffwng yn dal yn bresennol arnyn nhw, sy’n gallu bod yn broblem drwy heintio'r tatws ei hunain yn ystod y cynhaeaf. Gan mai cyfrwng ffyngaidd sy’n ei achosi, mae'r prif opsiynau rheoli a thrin yn ymwneud â defnyddio cemegolion gwrth-ffyngaidd yn rheolaidd.

 

Cemegolion vs Bioreoli

Fel y nodwyd, defnyddio ffyngleiddiaid yw’r prif ddull rheoli ar gyfer clwy tatws, ond mae defnyddio ffyngleiddiaid yn rheolaidd fel mesur ataliol yn benodol cyn gweld symptomau’r clwy yn ffactor a all achosi pwysedd dethol. Mae'r pwysedd hwn yn effeithio ar ddatblygiad ymwrthedd yn erbyn rhai o ddulliau gweithredu ffyngleiddiaid. Mae gormod o gemegolion ffyngleiddiol hefyd yn berygl posibl i iechyd planhigion, anifeiliaid a phobl a gallant lygru'r amgylchedd drwy eu presenoldeb yn y pridd a chyrsiau dŵr, sy'n effeithio ar swyddogaethau ecosystemau. Ar ben hynny, mae amcangyfrifon blaenorol wedi nodi bod 10-17% o allyriadau nwyon tŷ gwydr wrth gynhyrchu tatws yn dod o gyfuniad o’r allbwn ynni a’r gollyngiadau sy'n gysylltiedig â chynhyrchu gwrteithiau a phlaleiddiaid cemegol amddiffynnol. Mae’r ail allbwn nwyon tŷ gwydr mwyaf yn dod o weithgareddau’r fferm (a byddai defnyddio plaleiddiaid a ffwngleiddiaid yn ffactor yn hyn hefyd). Er hynny, y broblem o ran defnyddio llai o ffyngleiddiaid ar hyn o bryd yw bod effaith cynhyrchu’r rhain ar yr hinsawdd yn llawer llai na’r enillion hinsawdd sy’n codi drwy gynhyrchu mwy o gnwd ar yr un arwynebedd drwy reoli clefyd a all arwain at gyfraddau taenu uchel. Gan hynny, mae deddfwriaeth ar waith eisoes sy’n gosod trothwy o ran lefel dderbyniol ar gyfer defnyddio’r cemegolion hyn a’u presenoldeb mewn pridd ac mewn cynhyrchion bwyd. Er y gallai’r cyfyngiadau hyn ar daenu gael eu gweld fel effaith andwyol ar reolaeth pathogenau ffyngaidd, gan leihau’r cnwd posibl, fe ddylen nhw hefyd fod yn gymhelliant allweddol tuag at ddod o hyd i ddulliau mwy cynaliadwy o reoli’r dulliau cynhyrchu.

Dulliau rheoli biolegol yw un o'r dewisiadau amgen mwy cynaliadwy ac amgylcheddol ystyriol yn lle cemegolion synthetig. Mae sawl cyfansoddyn naturiol wedi’u harchwilio o safbwynt eu rolau posibl wrth reoli P. infestans ac Alternaria sp.. Gall chitin, sy’n gyfansoddyn organig toreithiog, gael ei echdynnu o ffyngau, cramenogion a thrychfilod ac mae wedi’i asesu o safbwynt ei effaith gwrthffyngaidd ar P. infestans gan ddangos ei fod yn cyfyngu arno a dangos gweithrediadau synergaidd â ffyngleiddiaid synthetig (a allai leihau faint o’r cemegolion mwy peryglus y mae eu hangen) ac mae olewydd naws o goed lelog sy’n blodeuo’n gynnar yn effeithiol at reoli rhywogaethau Alternata mewn treialon maes. Yn ychwanegol at gyfansoddion naturiol, cafwyd bod meicroorganebau buddiol fel y bacteria Bacillus subtilis a rhywogaethau o ffyngau cystadleuol fel Chaetomium globosum wedi cynyddu iechyd planhigion a’u cynnyrch, o’u cymharu â’r lleiniau cymharu gyda chlwy tatws hwyr a chlwy tatws cynnar. I asesu potensial dulliau rheoli biolegol drwy gyfansoddion sy’n deillio o fyd natur, cafodd Prosiect blaenorol o dan Bartneriaeth Arloesi Ewropeaidd Cyswllt Ffermio (EIP)  ei gyflawni. Roedd y prosiect yn golygu bod dwy fferm yn defnyddio saponin (Hederin) a dynnir o’r planhigyn iorwg cyffredin fel ffwngleiddiad naturiol i reoli clwy tatws. Ar ei ben ei hun, roedd yr opsiwn hwn yn llai effeithiol na'r dewisiadau amgen cemegol synthetig, ond yn y tymor hir cafwyd ei fod yn gweithio'n dda ar y cyd â biosymbylydd sy’n hybu twf planhigion, gan leihau nifer yr achosion o glwy tatws o’i gymharu â ffyngleiddiaid yn unig, a chan hwyluso opsiynau newydd o ran dulliau rheoli amgylcheddol ac organig. Nid yn unig y gallai hyn wella maint y cnydau tatws ond fe allai hyn a bioblaleiddiaid naturiol tebyg greu marchnadoedd newydd ar gyfer rhywogaethau planhigion a allai ddefnyddio tir sy'n bwysig yn anamaethyddol yn fwy effeithlon, a chwarae rhan mewn dal a storio carbon os caiff ei reoli'n dda. Er y gallai systemau bioreoli delfrydol greu nifer o fanteision a gwella effeithiau amgylcheddol, rhaid gwneud gwaith ymchwil a gwerthuso’r effaith gan ei bod yn hysbys y gall effeithiau strategaethau bioreoli sydd heb eu targedu fod yn niweidiol weithiau ac y gall eu heffeithiau ar ecosystemau fod yn anodd eu rhag-weld.

Yn achos cyfansoddion biolegol a synthetig, gallai taenu’r rhain mewn modd mwy manwl a chywir fod o fudd ar gyfer effeithiau llygredd amgylcheddol yn ogystal â maint y cnwd ac arbed arian hefyd drwy leihau cyfanswm y cemegolion y mae eu hangen. Mae technolegau sy’n caniatáu i gnydau a phriddoedd gael eu mapio’n fanylach wedi’i trafod o’r blaen a gall y rhain hwyluso'r broses o greu mapiau ar gyfer taenu yn ôl cyfraddau amrywiol ar draws caeau a ffermydd. Mae astudiaethau ar daenu ffyngleiddiaid yn y Deyrnas Unedig ar wenith gaeaf, er enghraifft, wedi dangos y gallai taenu yn ôl cyfraddau amrywiol leihau’r cemegolion a ddefnyddir hyd at 25% gan arbed £900+ ar ddarn o dir 10 ha. At hynny, gall targedu amserau taenu fod o fudd i'r ddau gategori o gyfansoddion drwy leihau effeithiau’r clwy a thrwy arbed costau ac mae modd hwyluso hyn drwy fonitro’r tywydd yn fanwl gywir a thrwy fodelau ac algorithmau sy'n ymwneud â ffactorau hinsawdd. Mae adnoddau fel TOMCAST ar gael sy'n defnyddio patrymau tywydd a gwerthoedd allweddol tymheredd a lleithder ar lefel y cnwd i rag-weld achosion tebygol o glwy tatws cynnar. Mae modelau eraill hefyd yn cael eu datblygu'n gyson i fireinio amserlenni taenu ar gyfer clwy tatws hwyr.

 

Dulliau reoli eraill

Mae’r opsiynau rheoli posibl eraill ar gyfer clwy tatws yn cynnwys golygu genynnau a bridio rhywogaethau tatws at gynhyrchu masnachol yn ddetholus. Er bod dadlau ynghylch GMOs yn dal yn broblem, yn y Deyrnas Unedig fe allai trafodaethau ar gyfreithloni eu defnydd a’u datblygiad arwain at fwy o ryddid. Mae genynnau sy’n ymwneud â gwrthsefyll clwy tatws cynnar a hwyr wedi’u hamlygu mewn nifer o astudiaethau ac mae addasiadau genetig mewn cyltifarau i gynnwys nifer o enynnau sy’n gwrthsefyll y clwy, y mae llawer ohonyn nhw wedi’u hadnabod mewn rhywogaethau tatws gwyllt neu rywogaethau sy’n perthyn yn agos, wedi dangos effeithiau amddiffynnol buddiol. Mae astudiaethau eraill wedi nodi rôl rhwyllau a gorchuddion atal UV oherwydd eu rôl wrth reoli plâu tatws gan gynnwys A. solani a’r trychfil ymledol psyllid planhigion tomatos (sydd wedi dod yn bresennol yn Awstralia a Seland Newydd yn ddiweddar). Nid yn unig y mae’r gorchuddion hyn yn atal ymbelydredd UV y dangoswyd ei fod yn arafu datblygiad clwy tatws, maen nhw hefyd yn creu rhwystr corfforol a allai leihau’r cydadwaith rhwng sborau a phlanhigion.

 

Gall rheoli'r maetholion sy’n cael eu taenu yn ofalus hefyd fod yn bwysig o ran clwy tatws gan fod nifer o astudiaethau wedi dangos bod heintiau'n taro yn fwy dwys pan oedd lefelau uwch o wrtaith nitrogen (N) yn cael eu taenu. Mae hyn yn awgrymu bod angen taro cydbwysedd rhwng rhoi hwb i’r cynnyrch, rheoli clefydau a thaenu ffyngleiddiaid/triniaethau amgen (os ydych yn anelu am fwy o gynnyrch drwy daenu N, yna bydd angen mwy o ystyriaeth i reoli clefydau yn nes ymlaen). Awgrymodd astudiaeth a edrychodd ar nifer o ffactorau a oedd yn effeithio ar glwy tatws hwyr fod dulliau rheoli lefelau dyfrhau, y bylchau rhwng y rhesi a rhwng y planhigion yn ogystal a lefelau gwrteithiau N, P (ffosfforws) a K (potasiwm) i gyd yn chwarae rhan yn nwysedd a lledaeniad y clwy ac unwaith eto gwelwyd mai lefelau N is ond lefelau P a K uwch oedd fwyaf buddiol.   

 

Crynodeb

Tatws yw un o'r cnydau mwyaf hanfodol ar gyfer bwydo'r boblogaeth fyd-eang. Gan hynny, gall gwella maint y cnwd a lleihau colledion wella faint o fwyd sydd ar gael ledled y byd. Wrth gynhyrchu cnydau tatws, y bygythiad mwyaf i gynhyrchiant yw clwy tatws hwyr a chlwy tatws cynnar, sy'n cael eu hachosi gan bathogenau ffyngaidd. Ar hyn o bryd, mae rheolaeth yn dibynnu i raddau helaeth ar daenu ffyngleiddiaid synthetig a all gael effaith andwyol ar ecosystemau, iechyd a llygredd amgylcheddol yn ogystal ag effeithio ar yr enillion economaidd oherwydd y costau prynu uchel. Gan fod arferion a deddfau amaethyddol yn symud tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy ac ecogyfeillgar, mae dewisiadau amgen yn lle arferion o'r fath yn allweddol. Mae amryw o ddulliau bioreoli ar gael yn ogystal ag opsiynau rheoli genetig a chorfforol a allai leihau’r colledion sy'n gysylltiedig â chlwy tatws. Er bod yr opsiynau hyn yn ymddangos yn fuddiol iawn, rhaid gwneud rhagor o ymchwil i ddeall gwir effeithiau'r opsiynau amgen hyn yn y tymor hir er mwyn sicrhau na fyddwn yn creu anawsterau rywle arall yn yr ecosystem.

 

Os hoffech fersiwn PDF o'r erthygl hon, cysylltwch â heledd.george@menterabusnes.co.uk


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr
Working Towards a More Sustainable Future: Breeding Sheep for Resistance and Resilience to Gastrointestinal Nematodes
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth Rhagfyr 2023 Gall
Cyfleoedd ar gyfer y dyfodol ym maes geneteg defaid yng Nghymru: Bridio ar gyfer gwlân o ansawdd uwch
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth