13 Ebrill 2022
Nia Davies: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.
- Gall safon maeth cyn diddyfnu gael effaith hirdymor ar berfformiad lloi
- Mae amrywiaeth o ffactorau i’w hystyried wrth benderfynu bwydo llaeth powdwr neu laeth cyflawn
- Cofiwch fod angen mynediad at ddŵr glân, ffres ar y lloi
- Bydd bodloni gofynion maeth y lloi yn helpu i wella effeithlonrwydd a chynaliadwyedd
Cyfaint, Ansawdd a Chyflymder
Gwyddwn fod colostrwm yn hanfodol ar gyfer lloi newydd-anedig. Mae hyn yn bennaf oherwydd bod lloi’n cael eu geni heb lawer iawn o imiwnedd, ac maent yn cael hwn gan y fuwch. Felly, mae’n hanfodol bod lloi’n derbyn y cyfaint cywir o golostrwm uchel mewn IgG1 o fewn yr ychydig oriau cyntaf i sicrhau cymaint o drosglwyddiad goddefol â phosibl. Gall methu â throsglwyddo imiwnedd goddefol arwain at gyfraddau morbidrwydd a marwoldeb uwch ymysg y lloi. Mae angen ystyried nifer o ffactorau wrth feddwl am reoli colostrwm a’r hyn y gellir ei wneud i sicrhau bod lloi’n derbyn imiwnedd goddefol. Gallwch ddarllen rhagor am hyn mewn erthygl flaenorol a ysgrifennwyd gan Dr Cate Williams. Bydd yr erthygl hon yn canolbwyntio’n bennaf ar y cam ar ôl colostrwm.
Llaeth powdwr neu laeth cyflawn
Mae’r rhan fwyaf o ffermydd llaeth yn bwydo llaeth colostrwm am gyfnod o 3 diwrnod o leiaf ac mae astudiaethau wedi dangos buddion o ganlyniad i fwydo llaeth y fam am gyfnod hwy o ran iechyd a chyfraddau twf. Am resymau megis costau, system ffermio neu’r system fwydo neu frîd y lloi, mae ffermydd llaeth yn gorfod penderfynu a ydynt am fwydo llaeth cyflawn neu laeth powdwr.
Mae lloi yn aml yn derbyn 10% o’u pwysau ar enedigaeth mewn llaeth, oddeutu 4-5 litr y dydd rhwng 7 a 56 diwrnod oed. Mae hyn, mewn gwirionedd, yn llai na hanner yr hyn y byddent yn ei fwyta pe byddent yn cael eu bwydo ar sail ad lib ar system awtomataidd. Mae’r gyfradd fwydo is yn draddodiadol yn gysylltiedig â chostau ac i annog lloi i gynyddu faint o ddwysfwyd neu borthiant maent yn ei fwyta er mwyn annog datblygiad y rwmen.
Mae cynhyrchwyr yn osgoi bwydo lefelau uchel o laeth powdwr o ganlyniad i bryderon y gallai’r lloi ddioddef ysgothi, sydd hefyd wedi cael ei ddangos mewn astudiaethau. Fodd bynnag, er mwyn i loi sicrhau cyfradd twf uwch na 700g/dydd, mae’n bosibl y bydd angen bwydo mwy o laeth powdwr, gan ddibynnu ar gyfradd fwydo presennol y fferm. Yn ogystal, gwelwyd fod cynyddu cymeriant maetholion mewn lloi hyd at 56 diwrnod oed yn gallu cynyddu cynnyrch llaeth cychwynnol yn ystod y cyfnod llaetha cyntaf. Gwelwyd fod bwydo 8 litr o laeth powdwr fesul llo bob dydd yn gallu cynyddu pwysau'r corff wrth ddiddyfnu o’i gymharu â bwydo 6 litr, ac mae’n ddiddorol nodi er bod lloi a oedd yn derbyn y gyfradd fwydo is yn cael mwy o ddwysfwyd cychwynnol, nid oeddent yn tyfu’n gynt. Mae cynyddu cyfaint y llaeth hefyd yn dibynnu ar y gymhareb dŵr:powdwr (g). Gall dilyn strategaeth fwydo llaeth uchel mewn solidau wella cyfradd twf lloi yn ystod y cyfnod diddyfnu trwy ddarparu mwy o faetholion i gefnogi twf a datblygiad sgerbydol.
Yn nodweddiadol, o fewn yr wythnos gyntaf, mae lloi yn derbyn 600g o bowdwr bob dydd, ac mae hyn yn cynyddu i 1kg erbyn y drydedd wythnos. Mae amodau hinsoddol ymysg y ffactorau sydd angen eu hystyried o ran cyfraddau bwydo llaeth powdwr, yn enwedig tymheredd. Pan fo’r tymheredd yn disgyn o dan 10°C mae’n bosibl y bydd lloi angen egni ychwanegol er mwyn bodloni’r cynnydd o ran gofynion egni cynnal a chadw er mwyn cynhyrchu gwres. Mae’n bwysig darllen y cyfarwyddiadau a roddir gyda’r bagiau llaeth powdwr yn ofalus ac i ddilyn y cyngor gorau ynglŷn â chyfradd fwydo ar y cyd gyda maethegydd neu filfeddyg y fferm.
Ffactor pwysig i’w ystyried wrth benderfynu ar laeth powdwr neu laeth cyflawn yw ansawdd a chyfansoddiad. Mae llaeth cyflawn yn gyffredinol yn gynnyrch mwy cyson a gan ddibynnu ar frîd y gwartheg, mae’n aml yn uchel mewn protein a braster, yn naturiol. Gyda nifer o wahanol laeth powdwr ar gael ar y farchnad, gall fod yn anodd dod o hyd i un sydd o ansawdd uchel a hefyd yn rhesymol o ran pris. Gall llaeth powdwr ar gyfer lloi gynnwys lefelau uwch o lactos a lefelau is o fraster na llaeth cyflawn, gyda chynnwys protein crai yn amrywio o 20 i 28%. Mae llaeth powdwr yn aml yn cael ei roi
gyda phethau eraill megis fitaminau, mwynau ac ensymau sy’n hybu iechyd anifeiliaid ac yn cefnogi’r broses o dreulio ac amsugno maetholion. Os ydych chi’n bwydo llaeth cyflawn i loi, mae angen ystyried diffyg fitaminau a mwynau, yn enwedig fitamin A ac E gan eu bod yn wrthocsidyddion ac yn helpu i annog iechyd da. Ynghyd â’r holl ffactorau hyn sydd angen eu hystyried, mae cysondeb yn hanfodol, yn enwedig gydag anifeiliaid ifanc. Mae protocol bwydo sy’n amlinellu cyfarwyddiadau cywir ar gyfer cymysgu’n bwysig iawn er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau o’ch llaeth powdwr yn benodol.
Dwysfwyd, ffibr a dŵr
Mae angen sicrhau bod dwysfwyd cychwynnol ar gael yn rhwydd i loi o fewn y dyddiau cyntaf. Mae’n hanfodol nad yw dwysfwyd yn cael ei gyfyngu yn ystod y cyfnod bwydo llaeth. Bydd metaboledd a meinweoedd yn newid o ddibynnu ar glwcos a ddarperir drwy’r llaeth i fetaboleiddio asidau brasterog cadwyn fer fel y brif ffynhonnell egni. Bydd bwyd solet yn symbylu datblygiad y rwmen, yn enwedig o ganlyniad i asidau brasterog anweddol gan eu bod yn cefnogi datblygiad papilâu’r rwmen. Bydd hyn yn cynyddu arwynebedd y rwmen sydd ar gael i amsugno maetholion, sy’n hanfodol er mwyn sicrhau iechyd a chyfraddau twf da. Mae ffynhonnell a chyfaint starts yn y bwyd cychwynnol yn ystyriaeth bwysig gan mai dyma fydd y brif ffynhonnell ar gyfer asidau brasterog anweddol. Mae cynnwys protein digonol hefyd yn bwysig gan ei fod yn hwyluso eplesiad yn y rwmen. Yn aml, mae bwydydd cychwynnol yn cynnwys 18% protein crai, ond bydd y ganran hon ynghyd â’r starts yn dibynnu ar y maetholion a gyflenwir yn gyffredinol yn y diet. Fel y nodwyd yn flaenorol, mae’n bwysig gweithio gyda maethegydd fferm neu filfeddyg i ganfod diet cytbwys.
Yn ogystal â dwysfwyd, dylid darparu protein dietegol i’r lloi er mwyn annog a chynnal rhathiad yn y rwmen ac i hybu datblygiad cyhyrau'r rwmen. Y ffynonellau ffibr mwyaf cyffredin yw gwair a haidd neu wellt gwenith. Mae maint gronynnau ffibr yn cael ei drafod yn aml, gwelwyd fod gronynnau hirach yn arwain at pH uwch yn y rwmen, a hynny o bosibl o ganlyniad i dreulio mwy o amser yn cnoi, gan gynyddu faint o boer sy’n cael ei gynhyrchu.
Gallai dietau wedi’u malu’n fân arwain at leihau pH yn y rwmen. Mae lloi fel arfer yn datblygu gweithgaredd seliwlolytig treulio pan fyddant yn 3-4 wythnos oed, felly bydd darparu ffynhonnell ffibr cyn hynny’n fuddiol. Mae dŵr hefyd yn rhan hanfodol o ddiet y llo. Mae lloi fel arfer yn derbyn symiau cyfyngedig o laeth ar adegau penodol o’r dydd, heblaw eu bod ar system fwydo ad libitum. Felly, mae darparu dŵr glân a ffres yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y lloi’n cael eu hydradu’n ddigonol ac mae’n ofyniad o ran lles anifeiliaid. Mae cymeriant dŵr hefyd yn cyfateb yn gadarnhaol â chynnydd pwysau mewn lloi llaeth o ganlyniad i gynnydd mewn cymeriant deunydd sych.
Crynodeb
I gloi, gwelwyd fod lloi sy’n derbyn lefel ddigonol o faeth, yn enwedig o fewn 8 wythnos gyntaf eu bywydau yn dangos cynnydd mewn pwysau byw a llai o achosion o glefydau. Gwelwyd hefyd fod sicrhau bod lloi yn derbyn digon o faetholion yn ystod y cyfnod cyn diddyfnu hefyd yn cyd-fynd yn bositif gyda chynnyrch llaeth yn ystod y cyfnod llaetha cyntaf. Mae angen ystyried nifer o ffactorau wrth ddewis bwydo naill ai llaeth powdwr neu laeth cyflawn, ynghyd â math a chyfansoddiad dwysfwyd a ffynhonnell y ffibr sy’n cael ei fwydo i loi. Gallai system y fferm a’r arferion rheoli hefyd fod yn ffactor pwysig. Yn y pen draw, mae bodloni gofynion maeth lloi yn hanfodol o safbwynt effeithlonrwydd a chynaliadwyedd.
Os hoffech fersiwn PDF o'r erthygl hon, cysylltwch â heledd.george@menterabusnes.co.uk