Digitanimal o Sbaen, cwmni sy'n cynnig atebion annatod arloesol i ffermwyr mewn dros 50 o wledydd yw ffocws y bennod Rhithdaith Ryngwladol hon.

Sefydlwyd Digitanimal ar ôl i un o cyd-sylfaenwyr y cwmni colli 10 anifail o’i  fferm deuluol yn Avila, Sbaen yn ystod haf 2015.

Bellach gyda dros 4,000 o gwsmeriaid ledled y byd, mae Digitanimal yn defnyddio technoleg GPS ac IoT (Internet of Things) i leoli da byw ac i fonitro lles anifeiliaid gan helpu ffermwyr i reoli eu buchesi sy’n pori ardaloedd eang, agored.

Yn y bennod hon, byddwn yn cwrdd â Miguel Angel sy'n arbenigo mewn magu gwartheg llawndwf ym Mharc Cenedlaethol Guadarrama.

Gyda stoc yn crwydro ardal o fwy na 1,500ha yn y rhanbarth hwn, mae Miguel wedi bod yn dibynnu ar dechnoleg arloesol o Digitaniaid ers 2015 i olrhain lleoliad ei fuches Ychen a hefyd i fonitro eu lles.

Mae'r dechnoleg yn gweithio trwy osod coleri tracio GPS ar y fuches sy'n anfon data yn uniongyrchol i'r app Digitanimal ar ddyfais symudol. Mae'r data hwn yn galluogi Miguel i ddod o hyd i'r buchesi yn union, olrhain eu gweithgaredd pori a monitro eu tymheredd.

Mae Miguel hefyd yn defnyddio'r dechnoleg hon i fonitro cynnydd pwysau'r fuches a hefyd i reoli patrymau pori yn effeithiol gan ei alluogi i ddadansoddi cynhyrchiant a phroffidioldeb.

Mae’r dechnoleg hon hefyd yn cael ei defnyddio yng Nghymru ar hyn o bryd gan chwe ffermwr fel rhan o brosiect EIP sy’n ymchwilio i weld a all defnyddio technoleg liniaru’r heriau a ddaw yn sgil pori da byw ar dir pori agored neu fynyddoedd.

Gwyliwch y bennod hon i glywed sut mae'r dechnoleg Digitanimal  yn gallu helpu'r diwydiant i ymateb i heriau atebolrwydd ac olrhain lles anifeiliaid yn ogystal â gwella effeithlonrwydd, cynhyrchiant a phroffidioldeb ffermwyr!

I ddarganfod mwy am y dechnoleg hwn mewn ddefnydd yng Nghymru, cliciwch yma.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Farms - Wonderful places BUT dangerous play grounds
{"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites/farmingconnect/files
EIP Wales - Uchafbwyntiau - 26/05/2023
Rhwng mis Mai 2017 a mis Mawrth 2023, ariannodd EIP yng Nghymru
Rhithdaith Ryngwladol - Gorchudd Coedwigaeth Parhaus - 17/03/2023
Mae’r Coedwigwr a Fentor Cyswllt Ffermio, Phil Morgan, yn rhannu