Ar gyfer y bennod Rhithdaith Ryngwladol hon, mae Cyswllt Ffermio wedi partneru gyda'r Rhwydwaith Ffermio er Lles Natur y DU i ddarganfod sut mae Natur yn Golygu Busnes.

Mae yna pwysau cynyddol ar y sector amaethyddol yng Nghymru, y DU ac ar draws y byd i wella ei berfformiad amgylcheddol. Mae'r targed byd-eang o gyflawni allyriadau sero-net bellach yn golygu y dylai ffermwyr a choedwigwyr weithredu mewn ffyrdd nad yw'n effiethio'n negyddol ar yr amgylchedd.

Mae'r bennod hon yn clywed gan dri busnes ffermio yn Swydd Efrog sydd wedi cymryd camau i wella'r berthynas rhwng ffermio a natur i gael effaith gadarnhaol ar eu busnes.

Trwy ddatblygu modelau busnes newydd sy'n trin natur fel rhanddeiliad yn y busnes, maent i gyd bellach yn cyflawni'r Uchafswm Allbwn Cynaliadwy (MSO). Yn syml, dyma’r pwynt lle mae ffermio ar ei fwyaf proffidiol a natur ar ei orau.


Related Newyddion a Digwyddiadau

FCTV - Casglu data adeg wyna- Gwanwyn 2025
{"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites/farmingconnect/files
Ffermwyr yn addasu i'n hinsawdd newidiol
{"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites/farmingconnect/files
Farms - Wonderful places BUT dangerous play grounds
{"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites/farmingconnect/files