I ddarllenwyr y Farmers Guardian neu Farmers Weekly, bydd Rob McGregor, yn enw cyfarwydd ac yn adnabyddus i lawer yn y diwydiant am ei waith arloesol fel Rheolwr Uned ar gyfer Cynhyrchydd Moch sydd wedi ennill wobrau, LSB Pigs.
Yn y bennod hon mae Rob yn rhoi taith o amgylch y tri maes allweddol yn yr uned awyr agored 1,500-hwch, sydd wedi'i lleoli yn East Anglia gan gynnwys cipolwg manwl ar y broses wasanaethu.
Yn ogystal â dangos y safon uchel o arferion iechyd a lles anifeiliaid sydd ar waith ar draws yr uned sy’n cynnwys arciau plastig newydd, mae Rob yn esbonio’r newid mewn polisi dair blynedd yn ôl i arbrofi gyda system bori newydd er budd nid yn unig y moch, ond hefyd eu Amgylchedd.
I unrhyw un sydd eisiau dysgu mwy am gynhyrchu moch a rhedeg uned fferm lwyddiannus, mae hwn yn fideo y mae'n rhaid ei wylio.