9 Ebrill 2021

 

Mae rheolaeth tir glas ar ffermydd yng Nghymru wedi cael ei drawsnewid o fewn degawd gydag un ffermwr bîff yn nodi bod pori cylchdro wedi ‘gweddnewid’ ei fusnes.

Roedd Paul Williams, sy’n cadw buches sugno ar fferm Cae Haidd, Llanrwst, yn ffermwr arddangos ar ran Cyswllt Ffermio am gyfnod o dair blynedd o 2016.

Yn ystod gweminar yn edrych yn ôl ar ddegawd o ffermydd arddangos Cyswllt Ffermio, dywedodd Mr Williams ei fod wedi llwyddo i fwy na dyblu ei gyfradd stocio a’i fod bellach yn troi ei wartheg i’r borfa dair wythnos ynghynt yn y gwanwyn diolch i dechnegau a roddwyd ar waith o ganlyniad i fod yn ffermwr arddangos.

“Mae wedi bod yn newid byd go iawn. Roedden ni’n gwybod ein bod ni’n gallu tyfu glaswellt, ond rydym ni bellach yn gwneud gwell defnydd ohono,” meddai Mr Williams.

Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae mwy nag 20,000 o ffermwyr wedi mynychu dros 1,000 o ddigwyddiadau ar 500 o safleoedd arddangos a safleoedd ffocws Cyswllt Ffermio.

Dywedodd Rheolwr Datblygu Technegol Cyswllt Ffermio, Dewi Hughes, a fu’n cadeirio’r weminar, fod arbrofion wedi cael eu cynnal i brofi a oedd technoleg arloesol yn gweithio ai peidio.

“Weithiau, mae’r un mor bwysig i ddangos pethau sydd ddim yn gweithio yn ogystal â’r hyn sy’n gweithio,” meddai Mr Hughes. “Mae ein ffermwyr arddangos yn bobl flaengar iawn sy’n aml yn cymryd risg er mwyn treialu technoleg newydd.”

Mae eu parodrwydd i gymryd y risg yn gwella eu busnesau ac yn galluogi ffermwyr eraill i elwa o’u canfyddiadau, meddai. 

“Rydym ni’n gwbl ddibynnol ar ffermwyr arloesol i arddangos cyfleoedd newydd ym myd amaeth,” meddai Mr Hughes.

Mae nifer o newidiadau wedi digwydd yn ystod y ddegawd ddiwethaf, meddai, yn enwedig o ran y modd y mae ffermwyr yn rheoli tir glas.

“Mae pori cylchdro wedi gweddnewid faint o borfa y mae ffermwyr yn gallu ei dyfu, ac mae hynny wedi cynyddu eu heffeithlonrwydd,” meddai Mr Hughes.

Roedd Mr Williams yn un o dri ffermwr arddangos blaenorol a fu’n cymryd rhan yn y weminar - bu Richard Roderick, o fferm Newton Farm, Aberhonddu, a Hopkin Evans, o fferm Marcross, Llanilltud Fawr hefyd yn rhan o’r weminar.

Dywedodd Mr Roderick ei fod wedi gwerthfawrogi’r cyfle i weithio gydag ymgynghorwyr da. “Rhoddodd hynny ffocws penodol i ni er mwyn ein helpu ar hyd y daith.’’

Ymysg y mentrau y bu Richard yn eu treialu oedd defnyddio gweddillion treuliad anaerobig fel maetholyn - arweinydd hyn at arbediad o £27/erw ar nitrogen mewn bagiau. Mae’n dal i ddefnyddio’r dull hwn ar fferm Newton Farm.

Cynhaliodd Mr Roderick 17 digwyddiad ar ran Cyswllt Ffermio, gan gynnwys ymweliadau gweinidogol a oedd wedi llywio’r gwaith o greu polisïau, gan amlygu rôl ffermwr arddangos fel llysgennad i’r diwydiant.

Ers hynny, mae wedi bod yn rhan o fentrau eraill, gan gynnwys prosiect Partneriaeth Arloesi Ewrop (EIP) yng Nghymru yn edrych ar ffermio carbon niwtral.

Ar fferm Marcross, llwyddodd prosiect a gynhaliwyd ar y cyd rhwng Cyswllt Ffermio a’r milfeddyg lleol i waredu neospirosis o’r fuches am sawl blwyddyn, er cafwyd un achos ym mis Mawrth 2021.

Trwy ddatblygu’r ‘driniaeth ddwys’ gyda’r arbenigwr symudedd, Sara Pederson, gwelwyd gwelliant sylweddol yn iechyd traed y gwartheg yn ogystal, ac mae nifer o ffermwyr eraill bellach yn mabwysiadu’r un protocol er mwyn rheoli cloffni. 

Mae Mr Evans yn parhau â’r gwaith hwn fel rhan o brosiect EIP i alluogi ffermwyr eraill i elwa o’r dechneg.

Yn ogystal, llwyddodd astudiaeth o amser a symudiad i dynnu 30 munud oddi ar yr amser godro, ac o ganlyniad, mae’r cynnyrch llaeth cyfartalog fesul buwch wedi cynyddu 2,000 litr.

Un o’r enillion mwyaf oedd o safbwynt rheoli slyri, yn ôl Mr Evans. Trwy ddefnyddio maetholion yn fwy effeithiol, roedd yr arbedion dros chwe blynedd o safbwynt nitrogen a gwrtaith mewn bagiau a defnyddio bar diferu er mwyn gwasgaru wedi arwain at arbedion cyfwerth â chost storfa slyri newydd a thancer slyri.

“Mae gweithio gyda Cyswllt Ffermio wedi newid fy ffordd o edrych ar yr hyn yr oeddem ni’n ei wneud, er mwyn gallu bod yn fwy effeithlon,’’ meddai Mr Evans.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Coeden a dyfir ar fferm Rhwydwaith Coed Nadolig Cyswllt Ffermio yn cyflenwi Rhif 10
19 Tachwedd 2024 Mae gan fusnes o Bowys sy'n aelod o rwydwaith o
Estyn allan i’r genhedlaeth iau – Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru yn targedu’r ifanc mewn ymgais i wneud ffermydd Cymru yn fwy diogel
18 Tachwedd 2024 Nid yw bob amser yn hawdd dweud wrth ffermwr
Gwella’r gallu i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd drwy gyrsiau Cyswllt Ffermio
13 Tachwedd 2024 Gall hyfforddiant a sgiliau newydd helpu