Er gwaetha’r lleihad mewn cymhelliant ariannol, mae gosod systemau ynni adnewyddadwy ar ffermydd yn dal i gynnig cyfle am fuddsoddiad hir dymor a photensial i wneud busnesau presennol yn fwy cynaliadwy.

Mae’n bosib bod lleihad yn y Tariffau Cyflenwi ar gyfer y trydan a gynhyrchir gan ynni adnewyddadwy a’r pŵer sy’n dychwelyd i’r grid yn gwneud gosodiadau newydd yn opsiwn llai deniadol ar gyfer ffermwyr gan y byddant yn derbyn llai o incwm blynyddol ac yn cymryd mwy o amser i sicrhau ad-daliad ar eu buddsoddiad. Fodd bynnag, mae arbedion ar filiau ynni ar gyfer busnesau fferm yn dal i allu bod yn sylweddol.

img 0908
“Fe wnaethom ni osod system hydro bychan ar y fferm ym mis Rhagfyr 2011, ac mae’n un o’r pethau gorau i ni ei wneud erioed. Mae wedi gweddnewid ein busnes o ran cynaliadwyedd,” meddai Russell Edwards, ffermwr o Blackmill, Pen-y-bont yn ystod digwyddiad ar y cyd rhwng Cyswllt Ffermio, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Gosododd Mr Edwards system hydro 6kW hydro, sy’n cynhyrchu 28,000kWh o drydan y flwyddyn ac yn ennill oddeutu £4,000 y flwyddyn ar ffurf Tariff Cyflenwi. Talodd y system amdano’i hun o fewn y pedair blynedd gyntaf, ac mae’r teulu bellach hefyd wedi gosod pwmp gwres o’r ddaear, sydd wedi lleihau’r bil gwresogi domestig yn sylweddol, ac sydd hefyd yn ennill arian trwy’r tariffau.

Un ffordd o leihau effaith lleihad yn y tariffau yw cofrestru ymlaen llaw gyda’r rheolydd ynni Ofgem unwaith y bydd caniatâd cynllunio, dyluniad a phob trwydded a chaniatâd perthnasol mewn lle.

“Yna, mae gennych ddwy flynedd i gwblhau’r gwaith, ond byddwch yn cael y tariff a roddwyd wrth gofrestru, nid un sy’n is ar y diwrnod yr ydych yn cysylltu,” meddai Ieuan Williams, asiant tir ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru, yn ystod y digwyddiad, a gynhaliwyd yng nghanolfan ymwelwyr Garwnant, Merthyr Tudful, lle mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gosod boiler biomas, paneli solar ar y to a system dracio solar, sy’n cylchdroi i ddilyn symudiad yr haul yn ystod y dydd. Mae gwaith hefyd ar fin dechrau ar system hydro.

Ar ôl y flwyddyn gyflawn gyntaf ar waith, roedd y system solar wedi cynhyrchu 9,619kWh o drydan, gan arbed £1,318 i’r ganolfan. Mae gan y boiler biomas 45kW o storfa thermol, gan arbed 19 tunnell o garbon.

Bu’r digwyddiad hefyd yn amlinellu materion technegol ac agweddau rheoliadol sy’n ymwneud â systemau adnewyddadwy, a bu swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynghori pobl i gomisiynu astudiaethau dichonolrwydd manwl o’u cynlluniau, cwblhau’r holl archwiliadau perthnasol yn gynnar ac ymgeisio am ganiatâd cynllunio cyn gynted â phosib.

Amlygodd Kate Edwards, uwch swyddog cynllunio ar ran Awdurdod Parc Cenedlaethol

Bannau Brycheiniog ystyriaethau cynllunio nodweddiadol ar gyfer cynlluniau adnewyddadwy megis effaith weledol, effaith ar gymdogion, bioamrywiaeth a llwybrau cerdded a rheoli safle.

“Mae problemau cyffredin gyda cheisiadau cynllunio yn cynnwys diffyg gwybodaeth glir, cynlluniau anghywir neu heb fod ar y raddfa gywir, diffyg gwybodaeth ddigonol ynglŷn â’r hyn sy’n cael ei effeithio a manylion penodol am yr offer a fydd yn cael ei ddefnyddio.”

img 0874
Roedd hi’n annog pobl sy’n ystyried cynlluniau ynni adnewyddadwy o fewn Pac Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i fanteisio ar wiriadau cyfyngiadau cynllunio am ddim a gynigir gan yr awdurdod am dri mis.

Mae mwy o fanylion ynglŷn â chynlluniau ynni adnewyddadwy, trwyddedau a chynllunio ar gael ar wefannau’r parc cenedlaethol a Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae Cyswllt Ffermio wedi sefydlu cynllun mentora newydd sy’n galluogi ffermwyr a choedwigwyr i dderbyn cefnogaeth ac arweiniad gan eu cyfoedion. Mae nifer sylweddol o’r ffermwyr a’r coedwigwyr sydd ar gael fel mentoriaid wedi buddsoddi mewn cynlluniau ynni adnewyddadwy ar eu ffermydd eu hunain ac yn awyddus i rannu eu profiadau.

Am fanylion pellach, cysylltwch ag - Einir Davies 01970636297 einir.davies@menterabusnes.co.uk


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y