21 Tachwedd 2023

 

Efallai mai ond un erw o dir ydyw ond i’r bragwr crefft a’r gwneuthurwr seidr Adrián Morales Maillo mae’r cae y mae’n cynhyrchu ffrwyth ynddo drwy gytundeb menter ar y cyd yn rhan annatod o’i fusnes newydd.

Mae'r tir yn rhan o fferm 25-hectar yn Wyecliff ar gyrion y Gelli Gandryll.

Roedd wedi'i osod ar rent i ddefaid bori ond gwelodd y tirfeddiannwr ei botensial i gael ei ddefnyddio'n wahanol.

Dyma le y gwnaeth gynllun Dechrau Ffermio un o brosiectau Cyswllt Ffermio gamu i’r adwy.

Mae’r gwasanaeth ‘Dechrau Ffermio’, wedi’i gynllunio i baru newydd-ddyfodiaid sy’n chwilio am dir a thirfeddianwyr sy’n chwilio am rywun i gydweithio ag ef.

Hyrwyddwyd y cyfle gan Cyswllt Ffermio a gofynnwyd hefyd am ymgeiswyr posibl trwy ei restr 'ceiswyr' Dechrau Ffermio, sef cofrestr o bobl sy'n chwilio am dir.

Roedd rhai o’r rheini’n awyddus i ddefnyddio’r tir i dyfu llysiau ar raddfa fasnachol ond nid oedd y tirfeddiannwr yn meddwl bod y safle mewn sefyllfa dda ar gyfer marchnata’r cynnyrch hwnnw’n gyfanwerthol ac y byddai angen buddsoddi mewn isadeiledd.

Roedd cynnig Adrián, i dyfu ffrwythau meddal organig i'w defnyddio yn ei fusnes bragu a gwneud seidr newydd, Sobremesa Drinks, yn eu barn nhw, yn cyfateb yn berffaith.

“Er mwyn i fusnes sy'n gweithredu o'r safle gael sylfaen, roedd angen iddo fod yn arloesol ac yn arbennig ac roedd gan gynllun Adrián y ddau beth hynny,” meddai Ros.

Roedd Adrián, sy’n frodor o Sbaen, wedi bod yn gweithio fel prif fragwr rhwng Sbaen a’r DU, lle mae ei bartner, Alys Williams, brodor o Gasnewydd, Gwent, yn athrawes.

Roeddent yn chwilio am gyfle i adleoli i ardal wledig ac i sefydlu busnes diodydd crefft gan ddilyn egwyddorion economi gylchol.

Helpodd Cyswllt Ffermio i hwyluso’r cytundeb, gan gynnwys ymgynghoriad cychwynnol gyda chyfreithiwr yn Agri Advisor, a cafodd y contract – trwydded cnwd flynyddol gyda’r opsiwn i’w adnewyddu ei lofnodi – ym mis Chwefror 2021.

Ariannwyd y gwaith o gynnal profion pridd hefyd gan Cyswllt Ffermio ac arweiniodd hynny ynddo’i hun at gyfleoedd pellach i Adrián oherwydd, i fod yn gymwys ar gyfer cyllid 100%, roedd yn rhaid i’r gwaith gael ei wneud fel rhan o grŵp.

Roedd Adrián wedi bod yn chwilio am adeilad i'w ddefnyddio fel ystafell eplesu a thap ac roedd un o'r ddau ffermwr arall yn y grŵp yn gallu darparu'r cyfle hwnnw.

Sicrhaodd Adrián ganiatâd cynllunio i drosi’r adeilad ac mae bellach yn rhedeg ei fusnes oddi yno.

Mae'r aeron y mae'n eu tyfu ar y fferm, gan gynnwys llus, mwyar duon, eirin Mair, mafon a mwyar logan, a gynhyrchodd 180kg o ffrwythau yn 2023, yn cael eu defnyddio i roi blas ar y cwrw a'r seidr a gynhyrchir yno.

Nid yn unig y bu i’r cynllun Dechrau Ffermio helpu gydag elfen gyfreithiol a busnes y cytundeb ond darparodd gyngor ymarferol hefyd, gyda mewnbwn gan Chris Creed, arbenigwr mewn cynhyrchu cnydau, a Cate Barrow, o ADAS, arbenigwr busnes sydd wedi ymgymryd â llawer o brosiectau menter ar y cyd ledled Cymru.

Mae’r tirfeddianwyr hefyd wedi gallu helpu Adrián i adeiladu rhwydwaith busnes trwy eu cysylltiadau, gan ei gyflwyno i bobl sydd wedi defnyddio ei gynnyrch a’i wasanaethau.

Mae Adrián a’i bartner busnes newydd yn cytuno bod Dechrau Ffermio wedi chwarae rhan allweddol wrth helpu’r fenter ar y cyd i ddwyn ffrwyth.

I Adrián, mae dod yn dyfwr ac yn fragwr yn gwireddu breuddwyd. “Mae Cyswllt Ffermio wedi chwarae rhan allweddol wrth wneud i hynny ddigwydd,'' meddai.
 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn
Gwaith samplo Cyswllt Ffermio yn amlygu cyfleoedd i wella iechyd pridd ar ffermydd Cymru
11 Rhagfyr 2024 Mae adroddiad gan Cyswllt Ffermio ar briddoedd
Sut mae anwybyddu clefydau heintus yn gallu arwain at broblemau sylweddol mewn diadelloedd yng Nghymru
29 Tachwedd 2024 Mae ffermwyr defaid yng Nghymru yn cael eu