22 Mai 2023
Ydych chi a'ch busnes yn gweithredu'n effeithlon, yn gynaliadwy, yn ddiogel ac yn broffidiol neu a fyddai cael mynediad at ystod gynhwysfawr o opsiynau hyfforddi Cyswllt Ffermio yn eich helpu i gael trefn ar bethau?
A fyddai sgiliau neu wybodaeth ychwanegol yn helpu i'ch paratoi chi a'ch busnes ar gyfer y dyfodol pan fydd ffocws y diwydiant ar sicrhau mwy o gynaliadwyedd, gwell cystadleurwydd a gwell perfformiad amgylcheddol?
Ar yr amod eich bod wedi cofrestru'n bersonol gyda Cyswllt Ffermio, o ddydd Llun, 15 Mai ymlaen, gallwch wneud cais ar gyfer cwrs hyfforddi byr, achrededig o restr o tua 70 o opsiynau, i gyd wedi'u hariannu hyd at 80%, ar adeg sy'n addas i chi. Bydd yn rhaid i'r rhai sy'n gwneud cais am hyfforddiant ar drin peiriannau neu gerbydau gwblhau cwrs Iechyd a Diogelwch ar-lein gorfodol Cyswllt Ffermio wedi'i ariannu'n llawn yn gyntaf.
Mae rhaglen newydd Cyswllt Ffermio, a lansiwyd y mis diwethaf , yn cael ei chyflwyno unwaith eto gan Menter a Busnes a Lantra Cymru a bydd yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.
Ar gael ledled Cymru, bydd yr elfen sgiliau a hyfforddiant yn cael ei darparu gan fframwaith o ddarparwyr hyfforddiant cymeradwy, gan gynnig ystod estynedig o bynciau dysgu wedi'u categoreiddio'n fras o dan 'busnes', 'tir' a 'da byw', pob un yn adlewyrchu blaenoriaethau amaethyddol Llywodraeth Cymru ar gefnogi rheoli tir yn gynaliadwy.
Mae Sarah Lewis, dirprwy gyfarwyddwr Lantra Cymru, yn esbonio y bydd yr holl opsiynau hyfforddi yn ymdrin ag ystod gynhwysfawr o bynciau ymarferol, technegol a busnes.
“Wrth i ddiwydiannau amaethyddiaeth a garddwriaeth Cymru baratoi ar gyfer y dyfodol, gallai nawr fod yn amser perffaith i nodi pa hyfforddiant fydd o'r budd mwyaf wrth i chi a'ch busnes baratoi ar gyfer y cyfleoedd ac unrhyw heriau sydd o'n blaenau.”
Bydd cyrsiau hyfforddi byr, achrededig, sy'n para un neu ddau ddiwrnod fel arfer, yn amrywio o hyfforddiant ar faterion busnes ac ariannol i faterion rheoli tir ac o bynciau ymarferol fel cyrsiau peiriannau ac offer i faterion iechyd a lles anifeiliaid sector-benodol, a all gael effaith sylweddol ar berfformiad a chynhyrchiant da byw.
“Mae cymryd amser i ddysgu am ffyrdd newydd neu fwy effeithlon neu gost-effeithiol o weithio bob amser yn fuddsoddiad sicr iawn o amser,” meddai Mrs. Lewis.
Mae Cyswllt Ffermio hefyd yn cynnig ystod gynhwysfawr o gyrsiau e-ddysgu wedi'u hariannu'n llawn, gyda bron i 100 o opsiynau yn cael eu darparu mewn modiwlau ar-lein hawdd o tua 20 munud yr un, y gallwch eu dilyn yn eich amser eich hun. Bydd cwis ar y diwedd yn dweud wrthych a ydych wedi deall yr holl ddysgu allweddol ond os na, gallwch ailedrych ar y modiwl mor aml ag sydd ei angen arnoch.
Esboniodd Mrs Lewis y bydd pob cais hyfforddiant yn cael ei asesu ar ddiwedd pob mis.
“Bydd pob ymgeisydd yn cael gwybod am ganlyniad eu cais trwy e-bost cofrestredig Cyswllt Ffermio o fewn 10 diwrnod gwaith ac unwaith y derbynnir cymeradwyaeth, yna bydd gan yr ymgeisydd naw mis i gwblhau'r cwrs hyfforddi ac unrhyw asesiadau cysylltiedig.”
Pwysleisiodd fod proses ar-lein syml i wneud cais am holl hyfforddiant Cyswllt Ffermio drwy wefan BOSS Llywodraeth Cymru a 'Sign on Cymru'.
“Fodd bynnag, os oes angen arweiniad ychwanegol ar unrhyw un neu os ydynt am wirio eu cymhwysedd, yna gallant naill ai gysylltu â'u swyddog datblygu Cyswllt Ffermio lleol, y dangosir ei gysylltiadau ar wefan Cyswllt Ffermio, neu ffonio'r Ganolfan Wasanaeth ar 03456 000 813 — mae cefnogaeth ar gael bob amser.
“Mae'r rhan fwyaf o unigolion cofrestredig eisoes yn ymwybodol o Storfa Sgiliau, cyfleuster storio data ar-lein, diogel Cyswllt Ffermio, sy'n cael ei ddiweddaru'n awtomatig pan fyddwch yn cwblhau naill ai cyrsiau hyfforddi neu e-ddysgu.
“Bydd Storfa Sgiliau hefyd yn eich helpu chi a'r rhai sy'n gweithio gyda chi, i nodi meysydd lle gallech elwa o ddysgu sgil newydd neu gryfhau un sydd gennych eisoes, felly rydym yn edrych ymlaen at dderbyn eich cais yn fuan,” meddai Mrs. Lewis.