12 Gorffennaf 2021

 

Mae Annyalla Chicks Ltd yn fusnes teuluol yn y diwydiant dofednod yng Ngweriniaeth Iwerddon a’r DU, sy’n arbenigo mewn cynhyrchu cywion diwrnod oed.

Trwy raglen Mentro Cyswllt Ffermio mae’r cwmni dofednod yma yn gobeithio cydweithredu gyda ffermwyr Cymru.

Nod rhaglen Mentro Cyswllt Ffermio yw cynyddu symudedd o fewn y diwydiant amaethyddol trwy wasanaeth cyfateb a hwyluso’r broses o greu menter ar y cyd.

Sefydlwyd y cwmni’n wreiddiol gan John Mawer Snr ym 1981, ac ers hynny, mae wedi tyfu ac wedi datblygu i fod yn fusnes sy’n cynhyrchu mwy na 3 miliwn o gywion brwyliaid diwrnod oed bob wythnos.

Mae’r cwmni’n dymuno ehangu i ymateb i’r cynnydd mewn galw. Maen nhw’n chwilio am berchnogion tir sy’n awyddus i gydweithio ac wedi’u lleoli o fewn 2 awr i Wrecsam. Mae nifer o gyfleoedd ar gael, gan gynnwys opsiynau tyfu a bridio brwyliaid.

Mae Annyalla Chicks yn dymuno buddsoddi yn y fenter dros gyfnod o 10 i 12 mlynedd, a byddant yn talu rhent i berchennog y tir. Gall y cytundebau a’r opsiynau gael eu teilwra i fodloni gofynion perchennog y tir.

Byddai angen i’r safle fod o leiaf 3 erw gyda chyflenwad trydan o 250 kVA o leiaf, prif gyflenwad dŵr, a byddai’n rhaid iddo fod o leiaf milltir oddi wrth unrhyw unedau dofednod eraill. Byddai hefyd angen sicrhau bod llety ar gael ar gyfer staff yn yr ardal gyfagos.

Estynnir gwahoddiad i unrhyw un sydd â diddordeb i ymuno â chyfarfod (dros Zoom) ddydd Mercher 14 Gorffennaf am 6:30pm i glywed mwy am y cyfle a’r hyn mae’n ei olygu. I archebu lle yn y cyfarfod, ewch i wefan Cyswllt Ffermio neu ffoniwch 08456 000 813. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Trwy’r rhaglen Agrisgôp, mae Cyswllt Ffermio wedi cefnogi dros 50 o deuluoedd ffermio i arallgyfeirio i’r sector dofednod gyda grwpiau dan arweiniad y mentor arallgyfeirio profiadol, Elaine Rees-Jones, a fydd yn hwyluso’r cyfarfod.

Dywed Elaine “Yn ogystal â chynnig cyfle cyffrous i newydd ddyfodiaid ymuno â’r sector dofednod, gallai hyn hefyd gynnig opsiwn o ran olyniaeth ar gyfer ffermwyr dofednod presennol sy’n dymuno camu’n ôl o ddyletswyddau rhedeg busnes o ddydd i ddydd.”

Gall Cyswllt Ffermio ddarparu gwasanaeth mentora i hwyluso’r broses o greu’r fenter ar y cyd, gan gynnwys cymhorthdal ar gyfer cyngor cynllunio busnes ac arweiniad cyfreithiol. 

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint