2 Medi 2020

 

Mae hyfforddiant wyneb i wyneb Cyswllt Ffermio wedi ailddechrau. Oherwydd cyfyngiadau Covid-19, er nad yw’r holl hyfforddiant Cyswllt Ffermio wedi dychwelyd i’r drefn arferol hyd yma, mae cyrsiau hyfforddiant wyneb yn wyneb bellach ar gael dan do ac yn yr awyr agored, ar yr amod bod holl ganllawiau presennol y pandemig yn cael eu dilyn.   Lle bo’n briodol, bydd amrywiaeth o ddulliau’n cael eu defnyddio fel rhan o’r ddarpariaeth arferol, er mwyn lleihau cyswllt wyneb yn wyneb. 

Bydd y cyfnod ymgeisio sgiliau nesaf yn agor rhwng 09.00 ddydd Llun, 7 Medi a 17.00 dydd Gwener, 30 Hydref, ac mae Kevin Thomas, cyfarwyddwr Lantra Cymru, yn disgwyl i nifer fawr fanteisio ar y cyfle. 

"Wrth i bawb gynllunio ar gyfer y dyfodol, bydd sgiliau personol, busnes a thechnegol yn arbennig o fuddiol i'r rhai a allai fod angen addasu eu model busnes oherwydd yr amodau marchnad newydd a achosir gan y pandemig ac wrth i ni gynllunio i adael yr UE," meddai Mr Thomas. 

Mae’r holl gyrsiau hyfforddiant wedi’u gosod mewn categorïau, sef ‘busnes’, ‘da byw’ a’r ‘tir’, ac mae pob cwrs naill ai’n cael ei ariannu’n llawn neu hyd at 80%.  

Bydd angen i ddarparwyr hyfforddiant gyfathrebu’n glir beth yw’r ymddygiadau disgwyliedig gan y dysgwyr, gan gynnwys yr angen i gadw manylion at ddibenion tracio ac olrhain; gofynion cadw pellter cymdeithasol; gofynion hylendid megis golchi dwylo’n drylwyr ac yn rheolaidd; hyrwyddo’r dull ‘ei ddal, ei daflu, ei ddifa’; beth i’w wneud os byddan nhw’n teimlo’n sâl; a’r hyn y dylent ei wneud os oes ganddynt unrhyw bryderon. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhybuddio y bydd y canllawiau'n agored i newid pe bai'r pandemig yn cael ei atgyfodi. 

Mae Cyswllt Ffermio wedi cyhoeddi llyfryn 'cam wrth gam' A4 newydd a fydd yn tywys unigolion cofrestredig drwy’r broses ymgeisio ar gyfer hyfforddiant ac e-ddysgu, sy’n broses ar-lein yn bennaf.  

"Mae'r canllaw defnyddiol hwn yn rhoi'r holl wybodaeth angenrheidiol er mwyn cwblhau Cynllun Datblygu Personol (PDP) ar-lein; defnyddio BOSS drwy Sign On Cymru; gwneud cais am hyfforddiant o'ch dewis, ac yn eich annog i sicrhau bod eich cofnod datblygu personol ar y Storfa Sgiliau ar-lein yn gyfredol.

"Ar bob cam o'r broses ymgeisio ar-lein, bydd y llyfryn hwn yn dangos beth fydd ar bob sgrin angenrheidiol, yn ogystal â nodi gyda phwy y dylech gysylltu os oes angen cefnogaeth neu arweiniad un i un arnoch,” meddai Mr Thomas, gan ychwanegu bod copïau caled o’r llyfryn ar gael drwy gysylltu gyda’r Ganolfan Wasanaeth, swyddogion datblygu lleol neu ddarparwyr hyfforddiant cymeradwy.

Dylai unigolion cofrestredig sydd wedi derbyn cymeradwyaeth ar gyfer hyfforddiant wyneb i wyneb ond heb allu cwblhau’r cwrs am ei fod wedi’i ohirio yn sgil cyfnod clo’r pandemig, gysylltu â’r darparwr hyfforddiant a ddewiswyd ganddynt cyn gynted â phosib i drafod eu hopsiynau. Os ydych yn cofrestru am y tro cyntaf, bydd angen i chi gysylltu â Chanolfan Gwasanaeth Cyswllt Ffermio ar 08456 000 813 cyn 17:00 ddydd Llun 26 Hydref 2020. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â sgiliau a hyfforddiant Cyswllt Ffermio ac i weld fersiwn ar-lein o'r llyfryn canllaw 'Cam wrth gam' newydd, cliciwch yma. Fel arall, cysylltwch â'ch swyddog datblygu Cyswllt Ffermio lleol, Canolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio, neu’r darparwr hyfforddiant a ddewiswyd gennych. 

Ariennir Cyswllt Ffermio gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.  

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Fferm laeth yr ucheldir yn treialu cymysgedd hadau gwndwn llysieuol sydd wedi'u sefydlu gyda hau yn uniongyrchol
16 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yr ucheldir yng Nghymru yn ceisio
Ffermwr llaeth sy’n manteisio ar ‘Gyllid Arbrofi’ yn ceisio gwella bioleg y pridd
15 Ebrill 2024 Mae ffermwr llaeth yn cyflwyno cannoedd o
Newidiadau i’r Isafswm Cyflog Amaethyddol yng Nghymru o 1 Ebrill 2024
10 Mawrth 2024 Mae gan bob gweithiwr amaethyddol, garddwriaethol