28 Ebrill 2021

 

Mae hyfforddiant wyneb yn wyneb Cyswllt Ffermio wedi ailddechrau. Er nad yw’r holl hyfforddiant Cyswllt Ffermio wedi dychwelyd i’r drefn arferol hyd yma oherwydd cyfyngiadau Covid-19, mae cyrsiau hyfforddiant wyneb yn wyneb bellach ar gael ar yr amod bod holl ganllawiau presennol y pandemig yn cael eu dilyn. Lle bo’n briodol, bydd amrywiaeth o ddulliau’n cael eu defnyddio fel rhan o’r ddarpariaeth arferol, er mwyn lleihau cyswllt wyneb yn wyneb. 

Bydd y cyfnod ymgeisio sgiliau nesaf yn agor am 09:00 ddydd Llun, 3 Mai hyd 17:00 ddydd Gwener, 25 Mehefin. Mae Kevin Thomas, cyfarwyddwr Lantra Cymru, yn disgwyl i nifer fawr o bobl fanteisio ar y cyfle. 

“Ers dechrau’r rhaglen Cyswllt Ffermio bresennol yn 2015, mae Lantra Cymru wedi ymdrin â mwy na 9,000 o geisiadau ar gyfer cyrsiau hyfforddi byr, sy’n rhan bwysig o ddarpariaeth dysgu a datblygu gydol oes Cyswllt Ffermio. Erbyn heddiw, maent wedi gwneud cymaint i helpu ffermwyr a choedwigwyr cymwys i atgyfnerthu ystod eang o sgiliau i wella perfformiad personol a busnes,” meddai Mr Thomas.  

Er bod y rhaglen wedi cefnogi nifer fawr o geisiadau hyd yma, rhoddir blaenoriaeth am weddill 2021 i’r ymgeiswyr hynny nad ydynt wedi ymgeisio am y math yma o hyfforddiant Cyswllt Ffermio yn y gorffennol. Bydd ceisiadau’n cael eu cyfyngu i un fesul unigolyn cofrestredig, gydag uchafswm o ddau gais fesul busnes. 

“Er ein bod wedi gallu darparu nifer fawr o opsiynau hyfforddiant ar-lein trwy gydol y pandemig trwy ddefnyddio ystod o lwyfannau digidol, ffôn a deunyddiau dysgu o gartref, rydym ni’n gobeithio, wrth i’r sefyllfa gyda’r feirws wella, y bydd pobl bellach yn teimlo’n fwy hyderus ynglŷn â hyfforddiant wyneb i wyneb, ac ar gyfer rhai cyrsiau penodol, dyma’r dull mwyaf poblogaidd ac addas o ddysgu.

“Bydd datblygu sgiliau personol, busnes a thechnegol newydd o fudd penodol i’r rhai hynny sy’n ystyried yr angen i addasu eu model busnes o ganlyniad i newidiadau yn y farchnad o ganlyniad i’r pandemig a’r amodau masnachu newydd o ganlyniad i Brexit, felly byddem yn annog pob un ohonoch i gyflwyno eich ceisiadau yn ystod y cyfnod nesaf,” meddai Mr Thomas. 

Mae’r cyrsiau wedi’u hariannu hyd at 80%, ac maent wedi’u categoreiddio’n fras o dan themâu allweddol Cyswllt Ffermio, sef ‘busnes’, ‘da byw’ a’r ‘tir’.  

Bydd angen i ddarparwyr hyfforddiant gyfathrebu’n glir beth yw’r ymddygiadau disgwyliedig gan y dysgwyr, gan gynnwys yr angen i gadw manylion at ddibenion tracio ac olrhain, gofynion cadw pellter cymdeithasol, gofynion hylendid megis golchi dwylo’n drylwyr ac yn rheolaidd, hyrwyddo’r dull ‘ei ddal, ei daflu, ei ddifa’, beth i’w wneud os byddan nhw’n teimlo’n sâl, a’r hyn y dylent ei wneud os oes ganddynt unrhyw bryderon. 

Dylai unrhyw un sy’n bwriadu ymgeisio ar gyfer cwrs hyfforddi yn ystod y cyfnod ymgeisio nesaf gysylltu â Chanolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 08456 000 813 cyn 17:00 ddydd Llun 21 Mehefin 2021 os nad ydynt eisoes wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Am ragor o fanylion ynglŷn â sgiliau a hyfforddiant Cyswllt Ffermio, Storfa Sgiliau, yr adnodd storio data diogel ar-lein ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus, neu i weld fersiwn ar-lein o’r canllaw ‘Cam wrth gam’ ar gyfer ymgeisio am gymorth sgiliau ac e-ddysgu, cliciwch yma. Fel arall, cysylltwch â'ch swyddog datblygu Cyswllt Ffermio lleol, Canolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio neu’r darparwr hyfforddiant a ddewiswyd gennych.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint
Fferm laeth yr ucheldir yn treialu cymysgedd hadau gwndwn llysieuol sydd wedi'u sefydlu gyda hau yn uniongyrchol
16 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yr ucheldir yng Nghymru yn ceisio
Ffermwr llaeth sy’n manteisio ar ‘Gyllid Arbrofi’ yn ceisio gwella bioleg y pridd
15 Ebrill 2024 Mae ffermwr llaeth yn cyflwyno cannoedd o