01 Mawrth 2024
Mae menter datblygu systemau bwyd arloesol yn Sir Gaerfyrddin yn ymuno â Cyswllt Ffermio i ddysgu sut y gellir tyfu gwahanol fathau o godlysiau a grawn yn y sir a'u prosesu i'w bwyta'n lleol.
Fel rhan o brosiect fferm ffocws Cyswllt Ffermio, mae technegau cynhyrchu codlysiau yn cael eu treialu ar Fferm Bremenda Isaf, daliad 40 hectar sy’n eiddo i’r Cyngor Sir yn Llanarthne.
Yma, mae partneriaeth Bwyd Sir Gâr yn tyfu bwyd i’w gaffael gan y sector cyhoeddus, gan gynnwys ei gyflenwi i ysgolion a chartrefi gofal.
Mae Prosiect Datblygu Systemau Bwyd y bartneriaeth fwyd leol, sy’n cael ei arwain gan Gyngor Sir Gâr, yn cael ei ysgogi gan weledigaeth i greu system fwyd ffyniannus, gynaliadwy, gynhwysol a gwydn ledled y sir, a’r gobaith yw creu templedi sy’n defnyddio dulliau carbon isel sy’n gyfeillgar i’r hinsawdd ar gyfer cynhyrchu bwyd ar raddfa cae.
Fel rhan o’r uchelgais hwn, fe’i cefnogir gan Cyswllt Ffermio i dreialu technegau ar gyfer tyfu codlysiau.
Meddai Alex Cook, Swyddog Datblygu Bwyd Cyngor Sir Gâr, y bydd y gwaith o drin y tir yn dechrau ym mis Mawrth ar ddwy erw o dir a ddefnyddiwyd i dyfu cnydau âr mor bell yn ôl â'r 1840au, yn ôl ymchwil hanesyddol.
Mae’r bartneriaeth yn falch iawn o gael cymorth Cyswllt Ffermio i helpu i yrru’r prosiect yn ei flaen.
“Mae garddwriaeth yn cyfrif am ganran fach iawn yn unig o’r diwydiant ffermio yn Sir Gâr, ac rydym yn gweld gwerth gwirioneddol mewn pontio’r bwlch gwybodaeth sy’n bodoli,” meddai Mr Cook.
Bydd arbenigwyr yn cynnig cyngor ar ddulliau ac arfer gorau yn ystod y treial.
Mae nodi cadwyn gyflenwi ar gyfer y cnwd, gan gynnwys y sectorau cyhoeddus, preifat a chymunedol, yn amcan allweddol arall, gyda diwrnodau hyfforddiant ar gyfer ffermwyr i rannu gwybodaeth i lywio eu harallgyfeirio posibl eu hunain i dyfu ar gyfer y farchnad leol.
“Daw hyn ar adeg hollbwysig i amaethyddiaeth yng Nghymru,” meddai Mr Cook. “Rydym ni’n gwybod bod newid ar y ffordd, ac fe allai hynny olygu newid yn y ffordd mae rhai ffermydd yn cynhyrchu bwyd a chyfleoedd i lenwi bylchau sy’n bodoli yn y farchnad.
“Er enghraifft, nid yw llawer o’r codlysiau a ddefnyddir mewn prydau ysgol yn Sir Gâr yn cael eu tyfu yn y DU, felly mae potensial i dyfu’r farchnad honno i leihau milltiroedd bwyd a dod â manteision ariannol i’r economi leol.”
Un o’r rhwystrau yn y sector garddwriaeth yw dod o hyd i lwybrau i’r farchnad sydd o fudd i’r ffermwr a’r defnyddiwr.
Dywed Hannah Norman, swyddog sector garddwriaeth Cyswllt Ffermio, fod cyfle enfawr o fewn caffael cyhoeddus i gefnogi cynhyrchu bwyd lleol ar gyfer pobl leol.
“Rydym yn edrych ymlaen at weld y prosiect hwn yn archwilio marchnad newydd ar gyfer ffermwyr a thyfwyr yng Nghymru,’’ meddai.