27 Tachwedd 2023

 

Mae gweledigaeth ffermwr defaid ifanc ar gyfer fferm newydd, i greu’r hyn sy’n cyfateb i ganolfan gofal dydd ar gyfer cŵn, wedi sicrhau gwobr Academi Amaeth Cyswllt Ffermio yn Ffair Aeaf 2023 iddi.

Roedd Erin McNaught a’i chyd-aelodau o Raglen Busnes ac Arloesedd Academi Amaeth Cyswllt Ffermio 2023 wedi cael her i lunio cynllun busnes ar gyfer daliad a brynwyd gan Will Oliver, ffermwr âr o Swydd Gaerlŷr, sef un o’r ffermwr yr oeddent wedi ymweld ag ef yn gynharach yn y flwyddyn.

Roedd eu cynlluniau busnes ar gyfer Osbaston House Farm yn seiliedig ar ymchwil wreiddiol ac roedd yn cynnwys argymhellion ar sut y gallai Will gynhyrchu incwm ychwanegol o'i bryniant.

Yn ystod penwythnos preswyl yn Wholehouse Farm, Talgarth, cyflwynodd yr Academi Amaeth eu cynlluniau ar gyfer Gwobr Her Fferm i banel o feirniaid, dan gadeiryddiaeth Euryn Jones, cadeirydd Bwrdd Rhaglen Cyswllt Ffermio, a gan gynnwys Will a 
chyn-aelodau’r Academi Amaeth, Kayleigh Rees-Jones, sy'n berchen â Wholehouse Farm, a Laura Lewis o Squirrels Nest.

Dywedodd Euryn fod safon y cynlluniau busnes yn andros o uchel ond mai cynllun busnes Erin oedd yn sefyll allan. “Fe ddaeth hi i’r brig ymhlith ymgeiswyr cryf iawn,” meddai.

Yn ei chynnig busnes a ystyriwyd yn ofalus, cyfrifodd Erin gost sefydlu o £18,745.

Fel cystadleuydd profiadol mewn treialon cŵn defaid, gwelodd y potensial i sefydlu cytiau cŵn – ‘meithrinfa gofal dydd i gŵn’ – i fodloni angen sydd wedi’i greu gan y niferoedd mawr o bobl a ddaeth yn berchnogion cŵn yn ystod y pandemig.

Roedd ei gweledigaeth hefyd yn cynnwys darpariaeth llety dros nos, ac ardal ymarfer corff ar gyfer cŵn, gydag incwm ychwanegol yn cael ei gynhyrchu o glinigau hyfforddi cŵn, hyfforddiant ar gyfer cŵn gwaith, a hyd yn oed sesiynau tynnu lluniau ar gyfer cŵn.

“Roedd yn gyfuniad clyfar iawn o nodi angen yn y farchnad ac, ynghyd â set sgiliau Erin ei hun, llunio cynllun busnes trawiadol ac arloesol,” meddai Euryn.


Mae Erin wedi ffermio yn Rhos-y-gwaliau, Gwynedd, ers iddi gael cynnig y cyfle i redeg fferm ei theulu pan oedd ond yn 18 oed, cam mawr i ferch ifanc oedd newydd gyflawni canlyniadau Lefelau A gwych a’r brifysgol ar y gorwel.

Ond cymaint oedd tynfa Fferm Pandy nes y bu iddi fachu ar y cyfle hwnnw a dwy flynedd yn ddiweddarach, fe wnaeth ei thaid hi’n bartner yn y busnes.

Cynyddu nifer y defaid o 20 i 400 oedd ei cham cyntaf, ac yn ddiweddarach disodlodd y fuches sugno gyda menter magu lloi llaeth ar gyfer bîff.

Nid yw wedi rhoi'r gorau i'w hastudiaethau academaidd gan ei bod ar hyn o bryd yn astudio am radd mewn daearyddiaeth a gwyddorau amgylcheddol hefyd.

Cyflwynwyd y wobr i Erin mewn seremoni arbennig yn y Ffair Aeaf yn Llanelwedd ddydd Llun 27 Tachwedd.
Cyflwynwyd tystysgrif i bob aelod i nodi eu bod wedi cwblhau rhaglen yr Academi Amaeth yn llwyddiannus.
Yn ystod eu hamser ar y cwrs, roeddent wedi gorfod dangos eu gallu mewn rhaglen heriol ac ysgogol o ymweliadau, gweithdai a chyflwyniadau mewn gwahanol leoliadau, gan gynnwys ymweliad tramor ag Ontario, Canada.

Dywedodd Euryn fod eu perfformiad yn yr her fferm wedi bod yn arddangosiad cryf o’u dawn a’u dyfeisgarwch a’u hangerdd ysbrydoledig dros feithrin gwytnwch a ffyniant ar gyfer y byd amaeth yn y dyfodol.

Roedd y proffesiynoldeb a'r agwedd greadigol a ddangoswyd yn y cyflwyniadau wedi gwneud argraff fawr ar y panel o feirniaid.

“Roedd y cynlluniau a gyflwynwyd ar gyfer yr Her Fferm yn arloesol ac yn flaengar, a gwnaed asesiad gofalus o’r adnoddau tir ac adeiladau sydd ar gael a’r ffordd orau i’w defnyddio i wella’r busnes a gwasanaethu marchnadoedd a allai fod yn broffidiol mewn ardal boblog yn Nwyrain Canolbarth Lloegr.

“Roeddem yn arbennig o falch o weld y dull diwyd a ddefnyddiwyd i danddatgan nodweddion y cwsmer ac asesu'r galw am gynnyrch a gwasanaethau, ynghyd â chynllunio ariannol darbodus a gwerthuso buddsoddiad, a hyrwyddo mentrau newydd yn effeithiol.''

Mae'r ffenestr ymgeisio ar gyfer Academi Amaeth 2024 yn agor ym mis Chwefror.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint