17 Gorffennaf 2023

 

Mae 24 o’r unigolion mwyaf addawol yng nghefn gwlad Cymru wedi sicrhau lle, y mae galw mawr amdanynt ar raglen Academi Amaeth 2023 Cyswllt Ffermio ar ôl proses ddethol hynod gystadleuol.

Bydd yr ymgeiswyr a ddewisiwyd ar gyfer y Rhaglen Busnes ac Arloesedd a'r Rhaglen Iau yn cyfarfod am y tro cyntaf ddydd Llun 24 Gorffennaf mewn digwyddiad yn Sioe Frenhinol Cymru.

Mae diddordeb yn yr Academi Amaeth wedi cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn ers i’r Academi gael ei lansio gyntaf yn 2012, gyda'r nifer a dderbynnir eleni yn dod o faes cystadleuol o ymgeiswyr.

Bydd y 12 unigolyn a ddewiswyd i gymryd rhan yn y rhaglen Busnes ac Arloesedd yn mynd ar ymweliad astudio i Ontario, Canada, ym mis Hydref, tra bydd aelodau’r rhaglen Iau yn mynd i’r Iseldiroedd ym mis Awst.

Mae ganddynt lawer mwy i edrych ymlaen ato hefyd wrth i'r rhaglenni datblygiad personol blaengar ac arloesol fynd rhagddynt.

Yn y Rhaglen Busnes ac Arloesedd, sydd â’r nod o gefnogi ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o arloeswyr ac entrepreneuriaid ffermio yng Nghymru, bydd aelodau’n cael eu herio i baratoi cynllun rheoli ar gyfer fferm deuluol weithredol.

Bydd taith breswyl â Swydd Gaerlŷr, lle bydd y gadwyn gyflenwi yn cael sylw, ac i Aberhonddu lle bydd arbenigwyr yn rhoi cyngor ar adeiladu busnes.

Mae yna hefyd raglen ysbrydoledig llawn gweithgareddau ar gyfer aelodau’r rhaglen Iau, sy’n cefnogi pobl ifanc rhwng 16 a 19 oed sy’n gobeithio dilyn gyrfa neu sefydlu busnes yn y diwydiant bwyd neu ffermio.

Mae’n cynnwys cyfleoedd i gael profiad o gadeirio cyfarfodydd, lleisio barn a chyfleu negeseuon yn effeithiol.

Bydd profiad gwaith ochr yn ochr â rhai o unigolion amlwg  y diwydiant bwyd a ffermio hefyd yn cael ei gynnig.

Ymhlith yr aelodau llwyddianus mae Claire Jones sydd, ynghyd â’i gŵr, Stephen, wedi trosi’r fferm bîff teuluol yn Llanddewibrefi, Ceredigion, i fferm odro.

Bydd y rhaglen Busnes ac Arloesedd, meddai, yn helpu i herio ei meddylfryd a chaniatáu iddi ddysgu sgiliau newydd i ddatblygu'r busnes yn llwyddiannus.

“Rwy'n edrych ymlaen at ymuno â chyd-ymgeiswyr ar raglen yr Academi Amaeth i wneud cysylltiadau newydd o bell ac agos a rhannu fy mhrofiad gydag eraill,'' meddai Claire.

Ar y rhaglen Iau, mae Daisy Williams, myfyrwraig amaethyddiaeth, yn gweld yr Academi Amaeth fel cyfle i ychwanegu haen bwysig arall i'w haddysg.

Mae’n helpu i reoli diadell o famogiaid Cheviot, Wyneblas Caerlŷr a mamogiaid Texel pur ar Fferm Gwernerin Isaf, fferm 138 hectar ei theulu yn Llandinam, Powys.

“Gan fod y diwydiant ffermio yn newid yn gyflym, rwy’n teimlo mai nawr yw’r amser iawn i mi gael cymaint o wybodaeth â phosibl a gwneud yr hyn a allaf i helpu amaethyddiaeth i ddod yn fwy cynaliadwy,’’ meddai Daisy.

 

Mae bywgraffiadau a ffotograffau pob un o’r 24 ymgeisydd ar gael ar wefan Cyswllt Ffermio. https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/busnes/academi-amaeth


Mae croeso i gynrychiolwyr y wasg fynychu’r digwyddiad yn Sioe Frenhinol Cymru i gyfweld aelodau’r Academi Amaeth. Cliciwch yma am fanylion y digwyddiad a chyswllt i RSVP.
 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint