22 Tachwedd 2023

 

Gall ffermwyr yng Nghymru sydd am wella eu gwybodaeth dechnegol neu wybodaeth fusnes mewn mwy nag un sector o’r diwydiant amaethyddiaeth ddysgu sgiliau ac arferion newydd mewn cyfres o 'ddosbarthiadau meistr' Cyswllt Ffermio sy’n cael eu cynnal ledled Cymru dros y misoedd nesaf.

Bydd rhai o arbenigwyr blaenllaw’r DU ar bynciau’n amrywio o ddefnyddio geneteg a thechnoleg mewn ffermio defaid i’r cyfrifoldebau cyfreithiol sydd gan gyflogwyr fferm i’w staff yn rhannu eu cyngor yn y cyfarfodydd hyn.

Mae'r gyfres yn cychwyn ar 5 Rhagfyr gyda Matt Harding, o Bentley Suffolk, Ffermwr Defaid y Flwyddyn y Farmers Weekly 2021, yn trafod sut mae wedi datblygu ei fferm deuluol i fodloni gofynion sy’n newid.

Mae Matt yn cyfuno geneteg a thechnoleg i gynhyrchu hyrddod Suffolk pedigri ac Aberblack o safon ar system porthiant yn unig. 

Bydd yn cyflwyno mewn sawl lleoliad, gan ddechrau yng Ngwesty'r Celtic Royal, Caernarfon, am 7pm ar 5 Rhagfyr.

Bydd cyfleoedd hefyd i glywed gan Matt ar 6 Rhagfyr am 11.30am, yng Ngwesty’r Talbot, Aberriw, ac yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, yng Ngwesty’r Plough, Llandeilo, am 7pm.

Mae mis Rhagfyr hefyd yn cynnwys dosbarth meistr mewn busnes, sydd wedi'i dargedu'n benodol at ffermwyr sy'n cyflogi staff neu weithwyr hunangyflogedig ac sydd am ddatblygu dealltwriaeth o'u cyfrifoldebau cyfreithiol i'w gweithlu.

Bydd y digwyddiad hwn, a gynhelir yn Wolfcastle Hotel, Wolfcastle, Sir Benfro, ar 5 Rhagfyr am 7pm yn cael ei gyflwyno gan Lesley Rossiter, o Landsker Business Solutions.

Mae’r thema busnes yn parhau yn ddiweddarach yn y mis gyda chwrs Meistr mewn Busnes, lle gall ffermwyr gael cyngor ar sut i adolygu sefyllfa ariannol eu busnesau.

“Mae deall cyllid a pherfformiad ariannol y fferm yn hanfodol cyn gwneud penderfyniadau hirdymor,” meddai Menna Williams, o Cyswllt Ffermio.

Bydd y cwrs hwn, a fydd hefyd yn rhoi cipolwg ar sut mae benthycwyr yn gwneud penderfyniadau ar fenthyca, yn cael ei gynnal yng Ngwesty'r Eryrod, Llanrwst, ar 12 Rhagfyr am 7.30pm, a bydd yn cael ei gyflwyno gan Dewi Davies, o Pennant Finance.

Ym mis Rhagfyr, bydd hefyd dau ddigwyddiad wedi’u targedu at systemau bîff o wartheg llaeth pan fydd Marc Jones, o Fferm Trefnant Hall, Aberriw, yn rhannu ei gyfoeth o brofiad o ganfod, magu a phesgi gwartheg bîff o wartheg llaeth.

Cynhelir y ddau ddigwyddiad hyn ar 13 Rhagfyr yng Ngholeg Pencoed, Pen-y-bont ar Ogwr, am 7.30pm, ac ar 14 Rhagfyr yn Ffostrasol Arms, Ffostrasol, Llandysul, am 7.30pm.

Ar gyfer ffermwyr bîff sydd â buchesi sugno, bydd dosbarth meistr mewn ffrwythlondeb yn cael ei gynnal yn Ynys Môn ar 10 Ionawr 2024, pan fydd y cynhyrchwyr sugno bîff Llion a Sian Jones - Moelogan Fawr, yn trafod sut maent wedi gwella ffrwythlondeb yn eu buches Stabiliser.

Bydd eu milfeddyg fferm, Iwan Parry, o Filfeddygon Dolgellau, yn ymuno â nhw yn y digwyddiad yn Nant yr Odyn, Llangefni, a fydd yn dechrau am 7.30pm.

Cynhelir sesiwn ryngweithiol yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Llanarthne, i roi arweiniad ar y camau cyntaf a’r ystyriaethau ar gyfer lansio menter tyfu i ffermwyr a newydd-ddyfodiaid sy’n ystyried arallgyfeirio i arddwriaeth.

Bydd meistr mewn garddwriaeth, ar 8 Chwefror  yn amlinellu'r cymorth a'r gwasanaethau sydd ar gael i helpu i wneud y fenter newydd yn fenter lwyddiannus hefyd.

Hefyd yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol, y tro hwn ar 20 Chwefror, mewn Meistr mewn Rheoli Plâu Integredig (IPM), bydd arbenigwyr y diwydiant a ffermwyr profiadol yn trafod hanfodion rheoli chwyn, plâu a chlefydau mewn gwahanol leoliadau fferm ac yn archwilio sut i ddechrau cynllun Rheoli Plâu Integredig.

Ym mis Ionawr a mis Chwefror, bydd Heather Wildman yn rhannu ei hawgrymiadau ar sut y gall busnesau fferm ddenu a chadw staff da.

Mae gan Heather gyfoeth o brofiad a bydd yn darparu rhestr wirio ar sut i fod yn gyflogwr da a sut i gymell y gweithlu.

“Bydd y dosbarth meistr hwn yr un mor fuddiol i ffermydd teuluol a ffermydd sy’n cyflogi staff,’’ eglura Menna.

Mae dau ddyddiad a lleoliad i ddewis ohonynt – 31 Ionawr 2024 yng Ngwesty Nanhoron Arms, Nefyn, neu 1 Chwefror, ym Moderw, Llanelwy, y ddau am 7.30pm.

Mae tri dosbarth meistr wedi’u targedu at ffermwyr sydd am wella eu dealltwriaeth o’u hôl-troed carbon yn cael eu cynnal ym mis Chwefror.

Bydd Non Williams, Swyddog Arbenigol Carbon Cyswllt Ffermio, yn cyflwyno gweithdy rhyngweithiol yn canolbwyntio ar chwalu’r jargon ynghylch carbon a bydd yn helpu ffermwyr ddysgu am arwyddocâd cylch carbon eu fferm, a sut y gallant ddylanwadu arno i helpu i leihau eu hôl troed carbon yn y dyfodol.

Cynhelir y digwyddiadau hyn yn Llety Cynin, Sanclêr, ar 6 Chwefror, yn Elephant and Castle, Y Drenewydd, ar 8 Chwefror, ac yng Ngwesty Nanhoron Arms, Nefyn, ar 20 Chwefror, i gyd am 7.30pm.

Mae yna ddigwyddiad hefyd i ffermwyr dofednod, gyda’r ymgynghorydd Chris Duller yn rhoi cyngor ar sut y gallant reoli eu tail yn effeithiol a gwneud y mwyaf o effeithlonrwydd busnes y fferm. 

Bydd y digwyddiad hwn yn Elephant and Castle, Y Drenewydd, yn cael ei gynnal ar 9 Ionawr am 7pm.

Maetholion fydd y thema hefyd yn y Meistr ar Slyri, sef gweithdy a gynhelir yn y Drenewydd ar 18 a 19 Ionawr, rhwng 10am a 4pm. Bydd Keith Owen a Chris Duller yn helpu ffermwyr  ddeall sut y gallant wneud y mwyaf o werth maetholion ar y fferm, gan gynnwys treuliad anaerobig a thail dofednod, isadeiledd fferm a dulliau economaidd o leihau cynhyrchiant slyri a dŵr budr. Byddant hefyd yn rhoi cyngor ar Reoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol Cymru.

Ar gyfer ffermwyr llaeth, mae dosbarth meistr ar gloffni, gyda’r milfeddyg Cath Tudor, o Prostock Vets, yn cyflwyno sesiwn ymarferol ar sgorio symudedd. Bydd arddangosiad yn dangos sut i drimio traed hefyd, yn ogystal â thrafodaeth ynghylch cynnal traed iach ymhlith stoc llaeth.

Cynhelir y digwyddiad hwn ar 20 Chwefror am 11am ar Fferm Trebersed, Travellers Rest, Caerfyrddin.

Am ragor o wybodaeth am y digwyddiadau hyn ac i neilltuo lle, ewch i wefan Cyswllt Ffermio https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/beth-sydd-ymlaen 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint