25 Ionawr 2024

 

Mae data o Brosiect Porfa Cymru Cyswllt Ffermio wedi dangos bod cynhyrchiant glaswellt yng Nghymru yn 2023 yn well na blynyddoedd blaenorol, ond roedd ei reoli’n heriol.

Roedd lefelau uchel o law wedi achosi amodau pori anodd iawn i rai ffermydd, yn ôl y ffigyrau hynny.

Mae tri deg naw ffermwr llaeth, bîff a defaid, sy’n ffermio ystod o wahanol fathau o dir a systemau ledled Cymru, wedi bod yn mesur eu porfa yn rheolaidd ar gyfer y prosiect ers mis Medi 2020. 

Mae’r data hwnnw, a roddodd giplun o gynhyrchiant porfa ledled Cymru, yn dangos bod ffermydd llaeth ar gyfartaledd wedi tyfu 13.4tDM/ha a ffermydd cig bîff a/neu ddefaid wedi tyfu 8tDM/ha.

Dywedodd Siwan Howatson, Pennaeth Technegol Cyswllt Ffermio, fod hyn yn uwch na’r cynhyrchiant a adroddwyd yn 2022 pan ddangosodd data o’r flwyddyn honno fod 10t DM/ha wedi’i gyflawni gan ffermydd llaeth a 6.8t SS/ha gan ffermwyr bîff a/neu ddefaid.

Fodd bynnag, roedd y lefel paralel â 2022 yn yr amrywiad mawr mewn cyfraddau twf porfa ar draws gwahanol ranbarthau o Gymru, ychwanegodd.

Roedd twf glaswellt wedi cyrraedd ei anterth yng nghanol mis Mai, gyda chyfartaledd wythnosol o 86.1 kg DM/ha.

Ar ôl y twf hwn daeth cafn o wasgedd isel oherwydd, ar ôl cyfnod sych estynedig, yr hyn a ddilynodd oedd haf o law eithriadol - un o'r gwlypaf ar gofnod erioed yn y DU.

Dywedodd Siwan fod data Prosiect Porfa Cymru wedi bod yn ddefnyddiol wrth lywio penderfyniadau ar ffermydd eraill ym mhob rhanbarth, o bennu cyfraddau stocio i wneud penderfyniadau wythnosol ar reoli.

Ymhlith y ffermwyr monitro Prosiect Porfa Cymru mae Andrew Giles, sy’n cynhyrchu llaeth o fuches o 550 o fuchod Friesian Seland Newydd yn Maesllwch Home Farm, Dyffryn Gwy.

Dywedodd Mr Giles ei fod wedi ymuno â’r prosiect oherwydd ei fod yn deall gwerth rhannu gwybodaeth a syniadau.

“Mae llawer o ffermwyr, gan fy nghynnwys i, sydd wedi bod yn mesur a monitro glaswellt ers nifer dda o flynyddoedd. Os gallwn ni annog eraill i wneud hynny trwy Brosiect Porfa Cymru a defnyddio’r wybodaeth, yna mae’r prosiect hwn wedi bod yn llwyddiannus.”

Ar gyfer Huw Williams, ffermwr monitro o Ffordd Las, ger Rhuthun, sy’n rhagweld y bydd mwy fyth o bwysau ar ffermwyr i gynhyrchu mwy ar lai, mae bod yn rhan o’r prosiect wedi bod yn fanteisiol iawn wrth ei helpu ei fusnes gyflawni’r nod hwnnw.

“Trwy rannu data, gallaf weld beth mae eraill yn ei dyfu a gallaf drafod syniadau gyda ffermwyr eraill sydd o’r un meddylfryd.’’

Beth am glywed gan Emily Grant, ymgynghorydd annibynnol a ffermwr defaid o Perthshire, sy’n arbenigo mewn helpu cynhyrchwyr bîff a defaid ddatblygu systemau ffermio gwydn sy’n seiliedig ar borfa.  

Yn ystod sioe deithiol ledled Cymru, bydd Emily’n canolbwyntio ar bopeth sy’n ymwneud â rheoli pori, o bori cylchdro, rheoli gwndwn llysieuol, dechrau mesur glaswellt yn 2024 ac opsiynau gaeafu defaid a gwartheg allan er mwyn lleihau costau’r gaeaf.

Mae Emily yn hapus i drafod yr hyn rydych am ei newid am eich systemau, a sut y gall rheoli pori eich helpu i gyflawni’r nodau hynny yn 2024.

Bydd y ffermwyr sydd yn cynnal y digwyddiad hefyd yn rhannu eu taith nhw wrth reoli pori a’u cynlluniau a’u nodau ar gyfer tymor pori 2024.

30/01/2024
Fferm sy’n cynnal y digwyddiad - Penporchell Isa, Henllan, Dinbych, LL16 5DD
Amser- 14:00-16:00

31/01/2024
Fferm sy’n cynnal y digwyddiad - Blaenglowon Fawr, Talgarreg, Llandysul SA44 4EX
Amser - 14:00-16:00

01/02/2024
Fferm sy’n cynnal y digwyddiad - Weobley Castle, Llanrhidian, Abertawe SA3 1HB
Amser - 14:00-16:00

Bydd cyfarfodydd rheoli glaswelltir fferm laeth i ddilyn ym mis Mawrth, cadwch lygad ar y dudalen Beth Sydd Ymlaen ar wefan Cyswllt Ffermio i gael rhagor o wybodaeth am y cyfarfodydd sydd ar y gweill. 

Fe wnaeth Siwan ddiolch i’r ffermwyr sydd wedi cyflwyno eu mesuriadau glaswellt trwy gydol tymor tyfu 2023.

“Mae eu hymrwymiad a’u parodrwydd i fod yn rhan o’r prosiect yn ein galluogi i ddarparu’r ffigyrau twf glaswellt rhanbarthol diweddaraf ar gyfer Cymru yn rheolaidd trwy gydol y tymor,” meddai.
 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint