25 Tachwedd 2022

 

Rôl Cyswllt Ffermio yw ysbrydoli a herio ffermwyr ledled Cymru i gael y gorau o’u systemau ffermio, i redeg busnesau fferm a choedwigaeth cystadleuol, gwydn a chynaliadwy. Ers 2015, mae Cyswllt Ffermio wedi helpu ffermydd Cymru i wneud yn union hyn drwy’r rhwydwaith arddangos.

Mae’r rhwydwaith wedi cynnwys 244 o ffermydd yn ystod y cyfnod hwn o 7 mlynedd ac wedi cynnal ymchwil ac ymarfer yn y sectorau cig coch, llaeth, dofednod, moch, tir âr, coedwigaeth a garddwriaeth drwy weithredu ac arddangos arloesedd a thechnoleg newydd i’r diwydiant ehangach.

Bydd Cyswllt Ffermio yn dathlu gwaith a chyflawniadau’r rhwydwaith arddangos yn Ffair Aeaf Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru 2022 gyda chanlyniadau’r prosiect a’r treialon yn cael eu hamlygu ar draws stondin flaenllaw’r rhaglen, sydd wedi’i lleoli ar y balconi uwchben y cylch gwartheg.

Bydd llyfryn newydd sy'n rhoi cipolwg o'r gwaith a wnaed gan y rhwydwaith arddangos, gan gynnwys canlyniadau treial o ffermydd dros y tair blynedd diwethaf, hefyd ar gael i ffermwyr. Mae copïau digidol hefyd ar gael i’w gweld a’u lawrlwytho ar wefan Cyswllt Ffermio.

Bydd digwyddiad anffurfiol hefyd yn cael ei gynnal i nodi’r gwaith diweddaraf a wnaed gan y 18 o ffermwyr safle arddangos a 38 o ffermwyr safleoedd ffocws presennol ddydd Llun 28 Tachwedd, gan ddod â’r rhwydwaith ynghyd yn adeilad Lantra Cymru.

Mae ffermwyr y rhwydwaith arddangos, ynghyd ag arbenigwyr o’r sector amaethyddiaeth a choedwigaeth, wedi bod yn arddangos ymchwil ar ystod o bynciau allweddol, gan gynnwys iechyd a lles anifeiliaid, technoleg, rheoli pridd, rheoli glaswelltir, rheoli coetiroedd, carbon a’r amgylchedd.

“Trwy’r gwaith hwn, mae ffermwyr wedi dysgu pa systemau sy’n gweithio’n dda a pha rai nad ydynt, drwy roi dulliau newydd neu wahanol ar waith i gyflawni eu nodau. Maent bellach mewn sefyllfa gystadleuol gryfach, mewn sefyllfa well i ddelio â chyfnewidiolrwydd y farchnad, i ffynnu a llwyddo,” meddai Eirwen Williams, Cyfarwyddwr Cyswllt Ffermio, wrth siarad am y rhwydwaith arddangos.

Treialu a gweithredu ffyrdd mwy effeithlon a phroffidiol o reoli'r busnesau hyn yw prif nod pob prosiect rhwydwaith arddangos. Nid yn unig y mae hyn yn anelu at fod o fudd uniongyrchol i'r ffermwyr arddangos, ond hefyd i fusnesau tebyg eraill.

Yn ystod cyfnod y rhwydwaith arddangos, mae 904 o ddigwyddiadau wedi'u cynnal ar safleoedd gyda 13,255 o fynychwyr yn dysgu am ganlyniadau prosiectau, gan roi cyfle i ffermwyr eraill roi’r canlyniadau ac arferion gorau ar waith yn eu systemau ffermio nhw.

Bydd y rhai sy’n mynychu’r Ffair Aeaf yn gallu dysgu mwy am y rhwydwaith arddangos trwy siarad ag aelodau o’r timau swyddogion technegol, sydd wedi bod yn allweddol wrth gefnogi ac arwain y ffermwyr arddangos yn y gwaith.

Wrth baratoi ar gyfer y Ffair Aeaf, soniodd y Rheolwr Datblygu Technegol, Siwan Howatson, sy’n goruchwylio holl weithgareddau’r rhwydweithiau arddangos am y llwyddiannau.

“Trwy roi ffocws Cyswllt Ffermio ar y rhwydwaith arddangos yn y digwyddiad blaenllaw hwn, rydym yn gobeithio y bydd yn annog ffermwyr i feddwl mwy am roi ffyrdd newydd, arloesol o weithio ar waith a chyflwyno technolegau newydd i wella perfformiad yn eu systemau ffermio eu hunain.”

Darperir Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes a Lantra Cymru ac fe’i hariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn
Gwaith samplo Cyswllt Ffermio yn amlygu cyfleoedd i wella iechyd pridd ar ffermydd Cymru
11 Rhagfyr 2024 Mae adroddiad gan Cyswllt Ffermio ar briddoedd
Sut mae anwybyddu clefydau heintus yn gallu arwain at broblemau sylweddol mewn diadelloedd yng Nghymru
29 Tachwedd 2024 Mae ffermwyr defaid yng Nghymru yn cael eu