17 Rhagfyr 2019

 

Rydym ni’n chwilio am Arbenigwyr Rheoli Systemau Llaeth sydd â diddordeb mewn cloffni.

A oes gennych chi ddealltwriaeth dda o gloffni mewn buchod llaeth ac yn awyddus i ddatblygu eich dealltwriaeth ymhellach?

Ydych chi’n awyddus i ddysgu ac i fabwysiadu’r technegau diweddaraf ar gyfer rheoli cloffni er mwyn gwella lles a pherfformiad y fuches, ac i gynyddu proffidioldeb?

Ymunwch â ni mewn gweithdy unigryw dros gyfnod o ddeuddydd a fydd yn canolbwyntio ar ddull rheolaeth gyflawn ac yn darparu gwybodaeth ynglŷn â mesurau ataliol, newidiadau mewn ymddygiad a datrys problemau ar ffermydd er mwyn gwella symudedd gwartheg.

Mae lle i 15 person ar y gweithdy. Er mwyn ymgeisio am le, gofynnir i chi ateb cyfres o gwestiynau a bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu dewis o blith y ceisiadau hyn. Ar ddiwedd y digwyddiad, bydd pob mynychwr yn derbyn ffolder o wybodaeth a byddant wedi creu cynllun gweithredu unigryw i reoli cloffni i’w roi ar waith ar eu ffermydd eu hunain.

Trwy gymryd rhan yn y gweithdy deuddydd hwn, bydd mynychwyr yn datblygu dealltwriaeth fanwl o ddulliau rheoli cloffni ac ymddygiad/arwyddion y fuwch er mwyn sicrhau’r perfformiad gorau posibl. Bydd deall a gweithredu protocolau cloffni allweddol o fewn eich system reoli hefyd yn rhan ganolog o’r gweithdy.

Cynhelir y gweithdy dros ddau ddiwrnod ar 4-5 Chwefror 2020 yng Ngholeg Cambria Llysfasi, Rhuthun, a bydd y cyfnod ymgeisio ar agor rhwng 12 Rhagfyr 2019 a 9 Ionawr 2020.

Am ragor o fanylion ynglŷn â’r digwyddiad, cysylltwch â Hywel Jones: hywel.jones@menterabusnes.co.uk. Neu ewch i’n gwefan yma.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Safon ar gyfer tyfwyr ar raddfa fach yn helpu gardd farchnad yn Sir Benfro i ennill mwy o fusnes
08 Tachwedd 2024 Mae cenhedlaeth newydd o dyfwyr o Gymru yn
Sgorio Cyflwr y Corff: Rhoi Hwb i Berfformiad y Ddiadell a Phroffidioldeb mewn Cyfnodau Heriol
05 Tachwedd 2024 Er gwaethaf prisiau ŵyn cryf, mae costau
Cynllun gwrthsefyll newid hinsawdd ar gyfer Busnesau Garddwriaeth yng Nghymru