21 Mawrth 2024

 

Enillodd Julie Davies, sy’n bartner gweithredol yn y busnes teuluol yn Upper Court Farms, Y Gelli Gandryll, wobr Dysgwr y Flwyddyn Cyswllt Ffermio yn y categori 41 oed a hŷn. Cyflwynwyd y wobr iddi yng Ngwobrau Lantra Cymru a gynhaliwyd yn Llandrindod ar 18 Ionawr.

Mae Julie, sydd wedi graddio o Brifysgol Harper Adams wedi helpu ei gŵr i sefydlu busnes dwysfwyd anifeiliaid llwyddiannus sy’n cael ei redeg ochr yn ochr â’r fferm âr, bîff a defaid.

“Fe wnaethon ni arallgyfeirio tua 8 mlynedd yn ôl i werthu ein dwysfwyd anifeiliaid ein hunain, rydyn ni’n defnyddio ein grawn a chorbys cartref a’u cymysgu yma ar y fferm gyda grawn cyffredin a mwynau i’w gwerthu i ffermwyr bîff a defaid lleol, mae hyn wedi caniatáu i ni ychwanegu gwerth at yr hyn rydym ni’n ei dyfu,” meddai Julie.

Mae datblygu cynnyrch, datblygu systemau achredu a systemau ansawdd, marchnata a rheoli busnes yn rhan o'i set sgiliau drawiadol.

Mae Julie wedi cwblhau nifer o gyrsiau hyfforddiant trwy Cyswllt Ffermio gan gynnwys ymwybyddiaeth, archwilio a rheolaeth amgylcheddol ar gyfer eich busnes. Bydd y cwrs hwn yn eich dysgu sut i asesu effaith amgylcheddol eich busnes fferm neu dir. Byddwch yn dysgu sut i arbed adnoddau, lleihau gwastraff, lleihau costau a sut i gydymffurfio â deddfwriaeth newydd. Mae'r pynciau'n cynnwys deddfwriaeth amgylcheddol, arferion gorau, rheoli gwastraff, a thechnegau archwilio. Byddwch hefyd yn cael cipolwg ar reoli dŵr, rheoli maetholion, nwyon tŷ gwydr, a strategaethau lleihau ôl troed carbon. Bydd y cwrs yn eich helpu i ddatblygu cynllun ar gyfer dyfodol eich busnes.

Mae hi hefyd wedi cwblhau cwrs tryc godi gwrthbwyso. Mae ei hagwedd ymroddedig tuag at ddatblygiad personol yn rhagorol ac ar hyn o bryd mae'n canolbwyntio ar ystod o gyrsiau amgylcheddol yn ogystal â hyfforddiant 'rheoli pobl', sy'n annatod i gryfhau eu harferion busnes.

“Rydym wedi defnyddio Cyswllt Ffermio ar gyfer hyfforddiant cymorth cyntaf i lawer o’n staff yma yn Upper Court Farms a’r busnes dwysfwyd.”

Roedd y beirniaid yng Ngwobrau Lantra yn unfryd gytûn wrth ddyfarnu ei gwobr i Julie gan ddweud bod ei hymrwymiad diysgog i sgiliau a hyfforddiant, ar gyfer ei datblygiad personol ei hun yn ogystal â datblygiad gweithlu’r fferm yn arbennig o ganmoladwy.
Dywedasant fod Julie wedi dangos gallu, egni, a sgiliau blaengynllunio eithriadol yn gyson, gan ei gwneud yn enillydd haeddiannol y wobr hon.

Mae Julie yn bwriadu gwneud cais am fwy o gyrsiau hyfforddiant trwy Cyswllt Ffermio gan gynnwys cyrsiau iechyd a diogelwch ac unrhyw gyrsiau eraill sy'n mynd i helpu i wella datblygiad proffesiynol eu tîm.
Am ragor o wybodaeth am wasanaethau sgiliau a hyfforddiant Cyswllt Ffermio edrychwch ar ein gwefan, neu cysylltwch â’ch Swyddog Datblygu Lleol.
 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint