6 Mai 2022

 

Mae gardd fasnachol yng Nghymru wedi llwyddo i leihau amser chwynnu ar rai o’i welyau llysiau o bron i hanner drwy newid o hofio â llaw i ddefnyddio hof ar olwynion gyda disgiau chwynnu.

Dangosodd astudiaeth Cyswllt Ffermio yng Ngardd Fasnachol Glebelands fod hof olwyn Terrateck o Ffrainc gyda Bio-Ddisgiau wedi arbed bron i 7.3 awr o waith chwynnu i’r tyfwyr Adam York a Lesley Bryson, o’i gymharu â hof Glaser a hofio â llaw, yn dilyn arbrawf ar bum gwely llysiau ar draws tri chyfnod chwynnu. Gan roi ffigwr o £10 yr awr ar gyfer llafur o fewn y prosiect, arweiniodd hyn at arbediad o £73.

Dywed Mr York pe byddai’r offer yn cael ei ddefnyddio ar gnydau eraill hefyd, y byddai’r arbedion yn golygu y byddai’r pris prynu’n cael ei ad-dalu’n sydyn iawn – ar brisiau 2022, mae’r hof olwyn yn costio oddeutu £300 a’r Bio-Ddisgiau’n costio oddeutu £160.

Mae’r pâr yn tyfu llysiau drwy gydol y flwyddyn yn eu gardd 10 erw ar gyrion Aberteifi. Maen nhw’n awyddus i wneud eu gweithgareddau (gan gynnwys chwynnu) mor effeithlon â phosibl, ac roeddent yn dymuno gwerthuso buddion defnyddio hof olwyn, gan weithio gyda Cyswllt Ffermio i asesu hynny fel prosiect safle ffocws.

Mae hof olwyn yn offer traddodiadol sy’n cael ei ddefnyddio wrth dyfu cnydau mewn gardd fasnachol, ac mae’r fersiwn Terrateck wedi ychwanegu Bio-Ddisgiau at yr offer yn ddiweddar. Dau ddisg yw’r rhain, sy’n rhedeg bob ochr i res o gnydau, wedi’u gosod gyda gofod ac ongl addas er mwyn gallu taflu pridd at i mewn a chreu effaith bentyrru neu gefnu o gwmpas gwaelod y cnwd.

Dywed Mr York nad yw defnyddio disgiau ar beiriannau trin tir yn anarferol, ond nid oedd fersiynau llai i’w defnyddio â llaw wedi bod ar gael yn y gorffennol. 

“Mae buddion claddu chwyn bychain, yn hytrach na’u codi o’u gwreiddiau, eu symud neu eu torri, wedi cael eu hanwybyddu i raddau, er bod y pwnc ehangach o reoli chwyn trwy ddulliau mecanyddol ac amaethyddol yn dal i annog trafodaeth frwd,’’ meddai.

“Mae systemau sydd wedi’u hardystio’n organig yn dibynnu ar amodau sych, heulog er mwyn sicrhau bod y tir yn cael ei drin yn effeithiol; mae claddu chwyn sy’n dod i’r wyneb yn weithred llawer llai sensitif i amodau’r tywydd. Yn ogystal, mae’n annhebygol iawn y bydd pwysau’r farchnad i dyfu cnydau yn effeithiol heb weddillion yn dod i ben.’’

Cynhaliwyd yr arbrawf ar safle sy’n wynebu’r gogledd gyda phridd lôm clai trymach mewn cnwd o oddeutu 10,000 trawsblaniad cennin. Cafodd gwelyau rhesi triphlyg oddeutu 61m o hyd eu labelu am yn ail.

Cafodd pum gwely eu chwynnu â hof llaw o fewn y rhes gan ddefnyddio hof gwarthol, ac yna defnyddio hof olwyn rhwng y rhesi, gan ddefnyddio hof Glaser gyda llafn hof gwarthol a phigau trin tir. Yn y pum gwely arall, defnyddiwyd hof Terrateck dros y cnwd unwaith. Cafodd y gwaith chwynnu a’r gwaith casglu data ei wneud yn ystod tri diwrnod ym mis Mehefin.

Dywed Mr York fod y Bio-Ddisgiau wedi cael eu defnyddio i symud pridd tuag at waelod y cennin ar gyfer y driniaeth gyntaf. 

“Ar gyfer yr ail driniaeth, roedd angen defnyddio hof llaw unwaith eto i dynnu’r chwyn a oedd yn rhy fawr i’w claddu, a defnyddiwyd y Bio-Ddisgiau yn unig ar gyfer y drydedd driniaeth,” eglurodd.

Ni welwyd unrhyw wahaniaethau amlwg o ran dwysedd na math o chwyn, nac o ran cynnyrch y cnwd a’r gyfradd twf rhwng y ddwy driniaeth. Fodd bynnag, roedd yr amser llafur yn wahanol iawn, meddai Mr York – 8.2 awr gyda’r offer Terrateck o’i gymharu â 15.5 - gostyngiad o 47%. Mae’r cyfle i beidio â hofio â llaw yn arbed llawer iawn o amser, meddai.

“Mae unrhyw offer ar olwynion yn gynt nag offer llaw, cyn belled â’i fod yn arwain at ganlyniadau tebyg,’’ meddai.

Cafodd yr hof Terrateck hefyd ei asesu ar drawsblaniadau betys, a gwelwyd ei fod yn gweithio’n effeithiol iawn, gyda chymorth pridd mân a phridd yn symud yn rhwydd i waelod y cnwd. 

Dywedodd Mr York fod y cnwd dilynol yn hynod o lân ac yn gynhyrchiol iawn. 

“Byddai’r hof hon yn addas ar gyfer unrhyw gnwd bach wedi’i drawsblannu, ond mae cefnogwyr brwd, gan gynnwys JM Fortier yn enwedig, yn gefnogol iawn o’i ddefnyddio ar gnydau sy’n cael eu drilio o’r tir, megis berwr neu foron,’’ meddai.

Dangosodd y prosiect fod yr hof olwyn Terrateck gyda’r Bio-Ddisgiau yn offer gwerthfawr ar gyfer trin cnydau sy’n sefyll, meddai Mr York. Fodd bynnag, mae pridd digon mân yn hanfodol er mwyn gallu ei ddefnyddio a sicrhau canlyniadau dibynadwy.

“Mae’r hof yn arbennig o addas ar gyfer ffermydd ar raddfa fach a chanolig gyda rhesi o gnydau gwerthfawr, heb ddigon o raddfa i gyfiawnhau costau’r peiriannau, amser gosod na hyfforddi ar gyfer fersiynau sy’n cael eu gosod ar dractor,’’ meddai Mr York.

“Penbleth gyffredin i ffermydd bach i ganolig yw p’un a ddylen nhw dynnu’r tractor allan a gosod y peiriant trin perthnasol, neu ddefnyddio offer llai technegol â llaw i’w ddefnyddio ar unwaith – ond yn llai effeithlon – wrth i’r ardal dan sylw gynyddu.’’

Mae Cyswllt Ffermio yn cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, ac yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint