17 Tachwedd 2020

 

Gall gwella ansawdd silwair o ddim ond 1.5ME leihau costau pesgi bîff hyd at £38 y pen.

Ar fferm Pantyderi, safle arddangos Cyswllt Ffermio ger Boncath, Sir Benfro, mae Wyn ac Eurig Jones yn anelu at gynyddu effeithlonrwydd y 300 o wartheg  bîff y maent yn eu pesgi bob blwyddyn.

Er mwyn lleihau cost porthiant a brynir i mewn, maen nhw’n gwneud silwair o ansawdd gwell – roedd gan y cnwd a gynaeafwyd ganddynt ym mis Mai 2020 15.5% o brotein crai o'i gymharu â 10.5% y flwyddyn flaenorol.

Drwy eu gwaith gyda Cyswllt Ffermio, mae'r tad a’r mab wedi bod yn gweithio gyda maethegydd cig eidion, Hefin Richards, o Rumenation Nutrition Consultancy, i lunio dognau ac i gyfateb y porthiant cywir i wahanol ddosbarthiadau o stoc.

Yn ystod gweminar Cyswllt Ffermio yn ddiweddar, dywedodd Mr Richards mai un o'r ffyrdd hawsaf i leihau costau porthiant yw gwneud silwair o ansawdd gwell.

Bydd dogn sy'n cynnwys silwair glaswellt 9.5ME wedi'i borthi â haidd wedi’i rolio a gwenith distyllwyr gyda 6.36kgDM/pen/dydd yn costio £1.04/pen o'i gymharu â £0.85 ar sail 11ME gan fod modd lleihau canran y porthiant eraill yn y dogn.

Hyd yn oed gan ganiatáu £3/tunnell ychwanegol ar gyfer costau gwneud silwair ifanc, mae hyn yn arwain at arbed £0.19/pen/diwrnod sydd, dros 200 diwrnod, yn werth £38 y pen.

Un ffordd o wella ansawdd silwair yw ail-hadu rhai caeau a chlampio'r silwair o'r gwndwn hwnnw mewn rhan o'r clamp lle mae'n hawdd cyrraedd ato i’w borthi i'r anifeiliaid cywir. 

Ar fferm Pantyderi, pe bai'r holl silwair a wneir â chanran protein o 15.5%, mae'n annhebygol y byddai angen unrhyw gymysgedd o ddwysfwyd protein yn y dogn, meddai Mr Richards.

"Torrwch wndwn ifanc a mwy cynhyrchiol ar gyfer gwartheg sy'n tyfu, ond gallwch roi silwair swmpus, is o ran ynni, i wartheg sugno sych dros fisoedd y gaeaf.''

Ar fferm Pantyderi, mae gwndwn silwair yn cael ei ail-hau'n barhaus, gyda meillion yn cael eu cyflwyno i gynyddu lefelau protein y silwair. 

Cyngor Mr Richards i ffermwyr sydd am orffen bîff yw targedu'r pwysau gorau nid mwyaf posibl ar gyfer eu lladd oherwydd collir effeithlonrwydd drwy adael i’r anifeiliaid fynd y tu draw i'r pwynt hwnnw.

"Pan fydd pwysau’r gwartheg yn aros yn eu hunfan mae'n bryd eu symud ymlaen,'' meddai Mr Richards.

Gellir sefydlu'r pwynt hwnnw drwy bwyso gwartheg yn rheolaidd.

Cyn gynted ag y bydd anifail yn dechrau magu braster mae'n costio mwy i dyfu.

"Ar gyfer gwartheg ar lefel uchaf y dosbarth braster mae potensial enfawr i'w gwerthu'n gynt o gofio faint o fwyd y bydd ei angen i ychwanegu'r ychydig gilogramau hynny o bwysau,'' meddai Mr Richards.

Mae cynyddu dwysedd y deiet yn opsiwn - os gellir sicrhau enillion dyddiol uwch, gellir cynyddu'r elw o safbwynt y deiet pesgi. 

Er enghraifft, os gellir cynyddu'r cynnydd mewn pwysau byw dyddiol (DLWG) i 1.8kg o gost porthiant pesgi o £2.30/pen/dydd, yr elw ar ddeiet pesgi fydd £0.94 o'i gymharu â -£0.20 ar ddeiet pesgi sy'n costio £2/pen/diwrnod os cyflawnir DLWG o ddim ond 1kg.

Rhybuddiodd Mr Richards y gall fod yn economi ffug bwydo haidd cartref i anifail iau sy'n tyfu wrth fwydo â phorthiant protein isel.

“Nid yw’r ffaith bod haidd ar gael ar y fferm yn golygu y dylech ei roi i’r stoc gan y bydd yn y pen draw’n arwain at anifeiliaid bach, llawn braster heb lawer o elw amdanynt, mae'n well cadw'r haidd ar gyfer yr anifeiliaid pesgi.''

Os mae’r silwair yn wlyb neu'n ffibrog, gall byffer fel burum neu rwmen, fod yn fuddsoddiad gwell na chynyddu'r dwysfwydydd.

Bydd grwpio gwartheg yn unol â gofynion porthiant yn helpu i sicrhau effeithlonrwydd y porthiant. 

Byddwch yn realistig ynghylch potensial graddio hefyd. "Canolbwyntiwch ar effeithlonrwydd y mwyafrif, nid yr ychydig a fydd yn cyrraedd y graddau uchaf,'' argymhellodd Mr Richards.

Mae mwy o wartheg yn cael eu lladd yn 29 mis nag ar unrhyw oedran arall ond dywedodd Mr Richards y gallai'r rhan fwyaf o'r rhain, gyda gwell rheolaeth a maeth, gael eu lladd yn llawer iau.

"Mae yna elw gwirioneddol yma trwy leihau costau porthiant, deunydd gorwedd, rheoli a llafur,'' meddai.

Gyda chynnydd pwysau byw (DLWG) cyfartalog o 0.83kg y dydd o 40-650kg, gellir gorffen anifeiliaid yn 24 mis oed ond drwy gynyddu DLWG i 1kg/diwrnod gellir eu gorffen yn 20 mis ac, am 1.23kg/dydd, yn 16 mis oed.

Drwy ganolbwyntio ar eneteg, gellir gwneud hyn heb ddefnyddio mwy o ddwysfwydydd.

Gall hyd yn oed lloi bîff o wartheg godro a gafodd loi potel gyda’r genynnau tyfu gorau sicrhau perfformiad uchel. 

Mae gwerthu gwartheg yn gynnar yn lleihau'r gofynion o ran siediau a deunydd gorwedd, ac ar ddwysedd stocio is bydd amgylchedd iachach dan do i’r gwartheg.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn
Gwaith samplo Cyswllt Ffermio yn amlygu cyfleoedd i wella iechyd pridd ar ffermydd Cymru
11 Rhagfyr 2024 Mae adroddiad gan Cyswllt Ffermio ar briddoedd
Sut mae anwybyddu clefydau heintus yn gallu arwain at broblemau sylweddol mewn diadelloedd yng Nghymru
29 Tachwedd 2024 Mae ffermwyr defaid yng Nghymru yn cael eu