19 Awst2021
Dros y deuddydd diwethaf, mae’r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths wedi cyfarfod â chynrychiolwyr o safleoedd prosiectau arddangos ac arloesi Cyswllt Ffermio a defnyddwyr y gwasanaeth yng Nghanolbarth a De Orllewin Cymru.
Er mwyn trafod y prosiectau a gynhaliwyd, arloesi a datblygiad y diwydiant, fe wnaeth Ms Griffiths dri ymweliad yn ystod ei thaith.
Yn gartref i Tom a Beth Evans, safle arddangos Pentre ger Aberystwyth oedd yr ymweliad cyntaf a phrif ffocws y safle yw gwneud y defnydd gorau posib o laswellt. Wrth drafod y prosiect ac effaith pori cylchdro ar ddeunydd organig y pridd, dywedodd Lisa Roberts, Swyddog Technegol Cig Coch, wrth Ms Griffiths am yr arwyddion cadarnhaol mae system bori cylchdro wedi’i ddangos ar ddeunydd organig pridd y fferm.
Wrth drafod canlyniadau cynnar y prosiect, soniwyd am y buddion o ran cynyddu gallu Pendre i ddal a storio carbon, gan amlygu pwysigrwydd ehangach cyflwyno a hyrwyddo arferion cynaliadwy mewn systemau ffermio ledled Cymru.
Gyda chynaliadwyedd yn gadarn ar agenda’r daith, ymweld â fferm Tresinwen oedd nesaf, safle sy’n rhan o brosiect Partneriaeth Arloesi Ewrop (EIP), i gyfarfod â Richard Lewis.
Siaradodd Richard, sy’n rhan o brosiect Porfa ar gyfer Peillwyr, ynghyd â Lynfa Davies, Rheolwr Cyfnewid Gwybodaeth, am y gwaith effeithiol sydd wedi cael ei wneud gan aelodau o gwmni llaeth cydweithredol Calon Wen dros y tair blynedd i hybu niferoedd pryfed peillio ar eu ffermydd.
Gyda rhywogaethau peillio yn chwarae rhan hanfodol mewn amaethyddiaeth a chynhyrchu bwyd, bu Ms Griffiths yn canmol canlyniadau’r prosiect a’i effaith o ran mynd i’r afael â dirywiad poblogaethau pryfed a pheillwyr yn y DU.
Daeth taith Ms Griffiths i ben gyda Bryn Perry a Rebecca Morris. Mae Bryn a Rebecca yn rhentu Fferm Wernllwyd gan Gyngor Sir Benfro ac yn cadw diadell o 120 o famogiaid ar gyfer godro yn ogystal â gyr bychan o alpacaod.
Eglurodd Bryn i Ms Griffith, ar ôl cael eu hannog gan y gefnogaeth a gawsant trwy wasanaethau Cyswllt Ffermio, megis Bwtcamp Busnes, Gwasanaeth Cynghori ac Agrisgôp, cymerodd y cwpl ran mewn menter ar y cyd gyda Defaid Dolwerdd yn 2020 trwy raglen Mentro Cyswllt Ffermio gyda’r bwriad o ehangu eu busnes llaeth dafad.
Rhoddodd Lesley Griffiths, Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r trefnydd glod i’r cwpl am eu gweledigaeth wrth ehangu’r busnes a soniodd am y gefnogaeth barhaus mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i ffermwyr Cymru i archwilio ffyrdd newydd o arallgyfeirio yn y farchnad ac ychwanegu gwerth i’w cynhyrchion.