25 Chwefror 2022

 

Oherwydd cyfyngiadau Covid 19 cafodd Gwobrau arobryn Lantra Cymru 2021 eu beirniadu o bell eleni. Darlledwyd neges fer a recordiwyd ymlaen llaw gan Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a’r Trefnydd, yn ystod y seremoni ei hun, a gynhaliwyd am 6.30pm nos Iau, 24 Chwefror 2022 yng Ngwesty’r Metropole, Llandrindod. Mae’r gwobrau bellach wedi’u cynnal ers 27 o flynyddoedd. 

Estynodd y Gweinidog ei diolch a’i llongyfarchiadau i’r holl enillwyr a phawb a enwebwyd yn 2021, y cyhoeddwyd eu henwau ar y noson. Hefyd, diolchodd holl ddarparwyr hyfforddiant tir a cholegau gwledig Cymru sydd wedi’u cymeradwyo i gyflenwi cyrsiau hyfforddiant gyda chymhorthdal Cyswllt Ffermio, a oedd wedi gwneud yr enwebiadau.

Mae gwasanaeth Cyswllt Ffermio yn cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra Cymru a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. 

Yn dilyn y seremoni wobrwyo, rhoddodd y Gweinidog deyrnged arbennig i enillydd gwobr Cyflawniad Oes Lantra Cymru 2021, sy’n cydnabod unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad ‘eithriadol ac arwyddocaol’ i amaethyddiaeth yng Nghymru. Enillydd y wobr eleni oedd y cymeriad adnabyddus a’r cyflwynydd teledu, Dai Jones MBE, Llanilar, Ceredigion.   

“Mae Dai Jones yn wyneb cyfarwydd i bawb sy’n gweithio ac yn byw yng ngymuned ffermio a chefn gwlad Cymru. Fel cyflwynydd teledu ar sianel S4C, mae ei sgyrsiau brwdfrydig a’i lais bariton wedi denu gwylwyr ers blynyddoedd lawer.  

“Mae’n fwyaf adnabyddus am gyflwyno’r rhaglen boblogaidd Cefn Gwlad ac am ei ymddangosiadau o Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru.

“Mae Dai yn gyn-Lywydd Cymdeithas y Gwartheg Duon a’r Gymdeithas Cŵn Defaid Ryngwladol ac yn Is-Lywydd CFfI Cymru ac roedd yn hynod o falch o gael ei benodi yn Llywydd Cymdeithas Sioe Frenhinol Cymru yn 2010 pan oedd Ceredigion yn noddi’r sioe. 

“Mae Dai wedi bod yn llais ardderchog dros fywyd amaethyddol a gwledig Cymru ac mae’n enillydd teilwng iawn o’r wobr bwysig hon” 

Gwnaeth y Gweinidog hefyd longyfarch enillydd Gwobr Goffa Brynle Williams. Mae’r wobr hon, sydd bellach yn cael ei chyflwyno am yr unfed tro ar ddeg yn rhodd gan Mrs Mary Williams, gwraig weddw’r diweddar Mr Brynle Williams, ac mae’n cydnabod llwyddiannau ffermwr ifanc sydd wedi sefydlu busnes ffermio drwy raglen Menter Cyswllt Ffermio. Cyflwynwyd y wobr eleni i Bryn Perry, ffermwr cenhedlaeth gyntaf sy’n byw yn Sir Benfro. 

“Roedd gan Bryn gefndir academaidd a phroffesiynol yn y sector busnes, ond ers iddo symud i Gymru gwta ddwy flynedd yn ôl, mae wedi sefydlu ei hun fel ffermwr ifanc a dyn busnes hynod o broffesiynol. Mae eisoes yn gwneud enw iddo’i hun gyda’i fusnes ‘llaeth defaid’ ac rwyf yn falch iawn o gyhoeddi mai ef yw enillydd Gwobr Goffa Brynle Williams 2021,” dywedodd y Gweinidog.  

“Mae pob un o’r enillwyr a’r rhai a enwebwyd ar gyfer Gwobrau Lantra Cymru eleni, drwy eu hymrwymiad i ddysgu gydol oes, yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i foderneiddio a phroffesiynoli’r diwydiant amaeth yng Nghymru.  

“Mae eich ymdrechion chi yn helpu ein diwydiant i ddiogelu dyfodol ffermydd teuluol a chymunedau gwledig ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Hoffwn longyfarch pawb a gafodd ei enwebu eleni, yn enwedig ein henillwyr teilwng iawn”. 
“Rwyf yn dymuno’r gorau i bob un ohonoch wrth i chi wneud eich marc ar amaethyddiaeth yng Nghymru a thu hwnt – mae dyfodol ein diwydiant mewn dwylo diogel iawn,” dywedodd y Gweinidog. 

Cadeirydd y panel beirniaid eleni oedd yr amaethwr blaenllaw o Gymru Mr Peter Rees, cadeirydd Lantra Cymru. Roedd aelodau eraill y panel yn cynnwys yr arbenigwr Iechyd a Diogelwch amaethyddol Brian Rees, sydd hefyd yn gyn-gadeirydd Partneriaeth Diogelwch Ffermydd Cymru; Dr Nerys Llewellyn Jones, sylfaenydd, Rheolwr a Phartner cwmni cyfreithiol Agri Advisor a Kevin Thomas, Cyfarwyddwr Lantra Cymru. 

 

Gwobrau Lantra Cymru 2021 – categorïau ac enillwyr

 

Gwobr Cyflawniad Gydol Oes – yn cydnabod unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad ‘eithriadol ac arwyddocaol’ i amaethyddiaeth yng Nghymru.  

Dai Jones, Llanilar, Ceredigion 

Roedd y panel o feirniaid yn unfrydol eu barn wrth gyhoeddi bod ‘Dai Llanilar’ fel y mae’n cael ei alw, yn enillydd eithriadol a theilwng iawn o Wobr Cyflawniad Gydol Oes eleni.   

“Mae Dai wedi gwneud cyfraniad eithriadol i’n diwydiant drwy ei waith dros nifer o flynyddoedd, yn arddangos y gorau o fyd amaeth a bywyd gwledig Cymru. Daeth y cyflwynydd teledu hynod o boblogaidd hwn ag egni a brwdfrydedd i’w holl swyddi a diddordebau ar draws nifer o bynciau yn ymwneud ag amaeth a chefn gwlad, a dywedodd mai un o’r profiadau roedd yn fwyaf balch ohono oedd pan ofynnwyd iddo fod yn Llywydd y Sioe Frenhinol Amaethyddol yn 2010, pan oedd Ceredigion yn noddi’r sioe.

 

Gwobr Goffa Brynle Williams – sefydlwyd y wobr hon yn 2011 i anrhydeddu cyfraniad sylweddol y diweddar Mr. Williams i amaeth yng Nghymru fel AC a ffermwr uchel ei barch. Cyflwynir y wobr heddiw gan Mrs Mary Williams, gweddw Mr. Williams, ac mae’n cydnabod llwyddiannau ffermwr ifanc sydd wedi ymuno â busnes ffermio drwy raglen Menter Cyswllt Ffermio. 

Enillydd: Bryn Perry, Fferm Wernllwyd, Welsh Hook, Hwlffordd 

Dywedodd y panel beirniaid fod Bryn Perry wedi dangos penderfyniad a gallu entrepreneuraidd sylweddol.    

Roedd gan Bryn gefndir academaidd a phroffesiynol yn y maes busnes, ond ers symud i Gymru gwta flwyddyn yn ôl, mae eisoes wedi sefydlu enw i’w hun fel ffermwr ifanc a dyn busnes hynod o broffesiynol. 

Defnyddiodd Bryn raglen Mentro Cyswllt Ffermio i sefydlu partneriaeth lwyddiannus â ffermwyr ‘defaid llaeth’ lleol. Cymerodd ran yn rhaglenni datblygiad personol Cyswllt Ffermio hefyd, gan gynnwys yr Academi Amaeth a’r Bŵtcamp Busnes gan fanteisio ar hyfforddiant gyda chymorthdal yn ymwneud â phrosesu bwyd. Dywedodd fod yr holl wasanaethau hyn wedi gwella ei hyder a’i gyflwyno i rwydwaith o gysylltiadau gwledig gan roi’r sgiliau roedd eu hangen arno i sefydlu ei fusnes gwledig ei hun.   

“Yn fwyaf arwyddocaol efallai, mae’r ffermwr ifanc hwn eisoes mewn sefyllfa i gynnig cyfle i ymgeisydd newydd neu bartneriaeth ffermio arall. 

“Mae Bryn yn defnyddio ei sgiliau busnes nid yn unig i ddatblygu ei fusnes ei hun ond er budd y diwydiant yng Nghymru yn ehangach.

“Mae’n rôl model gwych i newydd-ddyfodiaid i’n diwydiant ac rydym yn edrych ymlaen at glywed mwy am y ffermwr ifanc ysbrydoledig hwn.”  

Gwobrau Cyswllt Ffermio – ar gael i’r rhai a enwebir sydd wedi cryfhau eu set sgiliau personol a’u heffeithlonrwydd busnes diolch i hyfforddiant a ddarparwyd gan raglen dysgu a datblygu gydol oes Cyswllt Ffermio.  

 

Gwobr Arloesedd Ffermio Cyswllt Ffermio 

Enillydd: Patrick Elliot, Fferm Cresswell Barn, Cresswell Quay, Sir Benfro

Roedd y beirniad wedi’u plesio’n fawr â phenderfyniad Patrick i roi arferion cynaliadwy ar waith sydd wedi ei alluogi i gynhyrchu’r tatws carbon niwtral, neu ‘sero net’ ardystiedig cyntaf yng Nghymru. Mae’r tatws bellach yn cael eu gwerthu o dan yr enw ‘Root Zero’ i’r cyfanwerthwr adnabyddus, Puffin Produce. 

“Mae Patrick yn amlwg yn rhoi llawer o bwyslais ar gyfrifo carbon, gofalu am iechyd y pridd a chynyddu bioamrywiaeth lleol ac mae’n enillydd teilwng iawn o’r wobr hon eleni.” 

 

 

Yr ail wobr: Ceredig Evans, Erw Fawr, Llangynhenedl, Ynys Môn 

Ffermwr llaeth o Ynys Môn yw Ceredig ac mae bob amser yn chwilio am dechnegau newydd i wella iechyd y fuches. Mae wedi gweithio’n agos gyda sefydliadau academaidd a chwmni uwch-dechnoleg arloesol i dreialu system ‘cattle-eye’ newydd sy’n gallu adnabod buchod yn ôl eu marciau a sgorio eu symudedd er mwyn lleihau lefelau cloffni. 

“Mae Ceredig wedi dangos parodrwydd i groesawu arloesedd a thechnoleg newydd er mwyn lleihau lefelau cloffni yn Erw Fawr o 50% drwy sgorio symuedd yn ddyddiol ac yn gywir, ac mae’n arwain y ffordd i ffermwyr da byw eraill.”  

 

 

Gwobr Dysgwr Ifanc y Flwyddyn Cyswllt Ffermio 

Enillydd: Tomas Ernie Richards, Wernoog, Cleirwy, Gelli Gandryll 

Er nad oes gan Tomas gefndir amaethyddol, mae bellach yn gweithio fel bugail llawn amser ger ei gartref, lle mae’n rheoli diadell o 1,000 o ddefaid Lleyn pur. 
Dywedodd y beirniaid fod ymroddiad Tomas i ddysgu a datblygiad proffesiynol parhaus yn ei wneud yn enillydd teilwng.

“Mae wedi ychwanegu at ei set sgiliau gwledig drwy gymryd rhan mewn nifer o gyrsiau hyfforddiant Cyswllt Ffermio, gan gynnwys rheolaeth busnes. Fel un o gyn-fyfyrwyr yr Academi Amaeth, llysgennad y Gymdeithas Ddefaid Genedlaethol a hyfforddwr CFfI achrededig, gwnaeth Tomas argraff fawr ar y beirniaid hefyd oherwydd ei ymrwymiad i Raglen LEAF Farmer Time sy’n annog plant i ddysgu am ffermio ac o ble mae eu bwyd yn dod.  
 

 

 

Cyd-enillydd yr ail wobr: Sarah Evans, Fferm Tyla Morris, Pentyrch, Caerdydd 

Roedd y beirniaid yn cytuno bod Sarah wedi dangos awydd mawr i ddysgu a gwella ei datblygiad personol. Mae hi wedi cymryd rhan mewn llawer o gyrsiau Cyswllt Ffermio ac mae hi bellach yn gwneud defnydd da o’r rhain yn ei busnes presennol, fferm ddinesig ar gyrion Caerdydd. 

Ar ôl astudio yng Ngholeg Hartpury ac yna Coleg Amaethyddol Brenhinol Cirencester, mae Sarah bellach yn dilyn cwrs pridd BASIS ac eisoes yn cynllunio ei chyfleoedd hyfforddiant nesaf. 

“Mae Sarah eisoes yn ystyried dysgu rhagor am gyfleoedd amaeth-dwristiaeth, amgylcheddol ac addysgol.

“Mae ei phenderfyniad i ‘barhau i ddysgu’ yn glodwiw iawn, mae hi’n esiampl wych o’r hyn y gallwch ei gyflawni drwy roi eich meddwl ar waith.”  

 

Cyd-enillydd yr ail wobr: Rebecca Williams, The Park, Ffordd Llanbister, Llandrindod 

Mae Beccie Williams yn wraig brysur, yn fam i dri o blant, yn helpu gyda’r da byw ac roedd yn arfer gweithio’n llawn amser i ffwrdd o’r fferm. Pan ddechreuodd chwilio am swydd fwy hyblyg a fyddai’n ei galluogi i weithio o’r cartref, roedd penderfyniad y teulu i adeiladu uned fawr ar gyfer ieir maes yn golygu bod angen iddi ddysgu llawer o sgiliau newydd.  Mae Beccie bellach yn gyfrifol am 16,000 o ieir dodwy ac mae ei phenderfyniad i wella ei sgiliau wedi ei helpu i ddysgu’n gyflym ac ennill y sgiliau newydd roedd eu hangen arni i redeg y fenter newydd hon. 

Gan ddilyn cyfuniad o gyrsiau gyda chymorthdal, wyneb yn wyneb ac ar-lein, cymerodd ran mewn hyfforddiant Rheoliadau IPPC (Dofednod), cyrsiau gofalu am ddofednod a rheolaeth, hyfforddiant iechyd a diogelwch, defnyddio meddyginiaethau milfeddygol yn ddiogel, cymorth cyntaf brys, rheoli cnofilod. 

“Mae natur benderfynol Beccie i gael yr holl wybodaeth roedd ei hangen arni i redeg busnes dofednod llwyddiannus yn brawf o’i gallu, ei natur benderfynol a’i dyhead i ‘fod y gorau posibl’ ym mhopeth mae hi’n ei wneud.”  
 

 

Gwobr Dysgwr Gydol Oes y Flwyddyn Cyswllt Ffermio  

Enillydd: Tracey Price, Brynhir, Tylwch, Llanidloes, Powys 

Mae Tracey yn diolch i Cyswllt Ffermio am ei chyfeirio at y pecyn o gyrsiau hyfforddiant sydd wedi ei galluogi i gyflawni llawer o nodau personol a busnes. Mae hi wedi cymryd rhan mewn amryw o gyrsiau hyfforddiant gyda chymorthdal yn ymwneud â busnes, TGCh a sgiliau ymarferol. Mae hi’n dweud bod ei sgiliau newydd nid yn unig wedi rhoi hyder iddi ddatblygu busnes ffermio ei theulu ond hefyd sefydlu a datblygu menter llety gwyliau llwyddiannus hefyd. 

“Mae’n amlwg bod natur benderfynol Tracey i hyfforddi ar draws amrediad eang o bynciau wedi ei galluogi hi i ddatblygu ei sgiliau personol yn ogystal â’r sgiliau busnes a chyfrifiadurol roedd eu hangen arni er mwyn datblygu’r fenter dwristiaeth newydd hefyd. Mae hi’n enillydd teilwng iawn o Wobr Dysgwr Gydol Oes y Flwyddyn.”  

 

Gwobr Dysgwr Gydol Oes y Flwyddyn Cyswllt Ffermio

Enillydd yr ail wobr: Linda Evans, Fferm Parc Le Breos, Penmaen, Abertawe

Mae Linda yn helpu i redeg busnes bîff sugno gyda nifer bach o wartheg Charolais pur ar denantiaeth fferm 120 acer ym mhenrhyn Gŵyr. Ar ôl cael trafferth dod o hyd i ddarparwr ffrwythloni artiffisial (AI) ar gyfer nifer cymharol fach o wartheg, penderfynodd Linda gael hyfforddiant Cyswllt Ffermio yn y maes.

Erbyn hyn mae ganddi’r hyder i gyflawni’r prosesau angenrheidiol ei hun ac mae hyn wedi gwella effeithlonrwydd y busnes. Mae hi’n dweud bod y buddion yn cynnwys arbed amser ac arian, ond mae hi hefyd wedi gweld buddion genetig, ac mae gwerth y fuches (gan gynnwys semen ac embryonau) wedi cynyddu’n sylweddol.

“Trwy gymryd rhan mewn cwrs AI DIY Cyswllt Ffermio ar fferm laeth leol, a hyfforddiant perthnasol arall, mae Linda wedi sicrhau bod y fenter bîff Charolais pur yn fwy effeithlon a chynaliadwy.  

“Mae ei sgiliau newydd hefyd wedi arwain at ragor o arbedion effeithlonrwydd o ran bridio, fel fflysio embryonau a mewnblannu ac mae hi wedi manteisio ar wasanaethau eraill Cyswllt Ffermio fel cynnal profion gwaed i ddadansoddi geneteg anifeiliad presennol.”
 

 

Gwobr Newydd Ddyfodiad Arloesol Cyswllt Ffermio

Thomas Phillips, 6 St.David's Place, Gwdig, ger Abergwaun

Nid yw Thomas, sy’n byw ger Abergwaun, yn dod o gefndir amaethyddol. Er ei fod yn rhy ifanc i gael trwydded yrru, llwyddodd i oresgyn yr heriau ymarferol i ddilyn prentisiaeth yng Ngholeg Sir Gâr, Gelli Aur, a oedd yn dipyn o gamp. Ym marn y beirniaid, roedd hyn yn dangos awydd Thomas i ddysgu. Erbyn hyn mae wedi ennill nifer o sgiliau ymarferol yn gysylltiedig â’r tir a fydd o gymorth mawr iddo gan ei helpu i gyflawni ei nodau proffesiynol. 

“Mae’n amlwg bod Thomas yn ddyn ifanc galluog iawn ac mae’n beth gwych ei fod mor benderfynol o ddysgu sgiliau newydd a fydd yn ei alluogi i symud ymlaen yn ei yrfa yn y sector llaeth. Mae’n enillydd teilwng iawn o’r Wobr Newydd Ddyfodiad Arloesol eleni. 
 

 

Gwobr Ymgysylltiad Cyhoeddus Cyswllt Ffermio

Cheryl Reeves, Woodcroft, Hollybush, Bangor Is-coed, Wrecsam 

Bio-gemegydd yw Cheryl ac mae’r byd amaeth yn gymharol newydd iddi, ond ers iddi briodi ffermwr mae hi’n fodlon cyfaddef bod y swydd wedi cymryd drosodd ei bywyd. Mae hi’n dweud bod ei chefndir gwyddonol wedi rhoi llawer o sgiliau defnyddiol iddi y gall eu rhoi ar waith ar y fferm, yn enwedig o ran iechyd anifeiliaid. Fel mam brysur i bedwar o blant, mae hi wedi gweithio’n galed i sefydlu busnes arloesol yn magu lloi yn ogystal â sefydlu menter addysg lwyddiannus, ‘Agrication’, sy’n cyflwyno ffermio i blant ysgol.  

Mae hi’n ymweld ag ysgolion ac yn croesawu ymwelwyr â’r fferm, gan ledaenu negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol am rôl bwysig ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd. Roedd y beirniaid o’r farn bod ei gallu a’i hegni amlwg yn gwneud iddi sefyll allan ymhlith ei chyfoedion. 

“Mae Cheryl wedi bod ar nifer o gyrsiau Cyswllt Ffermio yn amrywio o gyrsiau busnes, technegol a rhai ymarferol, ac mae hi’n bwriadu parhau ar ei thaith datblygiad personol. Mae hi bellach yn ystyried hyfforddi i fod yn hyfforddwr! 

“Mae Cheryl yn fodel rôl gwych i’r sector ffermio yng Nghymru ac mae hi’n llwyr haeddu’r wobr hon.  

 

Gwobr Iechyd a Lles Anifeiliaid Cyswllt Ffermio

Enillydd: Kim Brickell, Folly Farm, Cilgeti, Sir Benfro 

Yn rhinwedd ei gwaith fel rheolwr fferm gyda menter rhywogaethau cymysg fawr, mae Kim wedi dangos ymrwymiad cadarn a pharodrwydd i ddysgu mwy a datblygu ei sgiliau drwy fynychu pob math o weithdai Iechyd a Lles Anifeiliaid. Mae hi wedi gwrando ar negeseuon allweddol y gweithdai hyn a’u rhoi ar waith, yn enwedig wrth fynd i’r afael â chloffni defaid. Mae hi wedi mynychu gweminarau y tu allan i’w horiau gwaith ac wedi dangos awydd i ddefnyddio’r wybodaeth a’r canllawiau ymarferol a rannwyd yn y gweithdai hyn.

“Mae Kim wedi dysgu llawer iawn drwy fod mor benderfynol o ddysgu sgiliau newydd ac mae hi’n enillydd teilwng iawn o’r wobr hon.” 

 

 

Gwobr Iechyd a Lles Anifeiliaid Cyswllt Ffermio 

Enillydd yr ail wobr: Rhys Roberts, Fferm Hafod, Penybryn, Wrecsam

Mae Rhys wedi mynychu amryw o weithdai Iechyd a Lles Anifeiliaid Cyswllt Ffermio dros y 12 mis diwethaf, gan ei helpu i ehangu a gwella ei wybodaeth. Mae manteisio ar gyfleuster gweminarau i ddysgu ar-lein wedi ei helpu i ddysgu mwy am amrywiaeth eang o faterion yn ymwneud ag iechyd anifeiliaid a thechnegau rheoli da byw, diolch i’r holl filfeddygon o bob rhan o Gymru sydd wedi cyfrannu at y gwaith dysgu.  

Dywedodd y beirniad fod Rhys wedi gwneud argraff fawr arnynt wrth roi’r hyn mae wedi ei ddysgu yn y gweithdai cyn ac ar ôl-wyna ar waith, ac mae’r hyn a ddysgodd mewn gweithdy am iechyd stoc ifanc wedi ei helpu wrth drin y gwartheg ar y fferm. 

“Mae Rhys wedi dysgu llawer iawn gan ei fod mor benderfynol o ddysgu mwy am hwsmonaeth y da byw mae’n eu rheoli bob dydd.” 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint