26 Mai 2020

 

Mae nifer y merched sydd wedi'u cofrestru gyda Cyswllt Ffermio yn llai na hanner nifer y dynion sydd wedi cofrestru.  Mae'n gymhareb y mae Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig gyda Menter a Busnes, yn benderfynol o fynd i'r afael â hi.

"Gyda chymaint o ferched yn gweithio gartref ar hyn o bryd oherwydd cyfyngiadau Covid-19, mae Cyswllt Ffermio yn benderfynol o estyn allan at y garfan yma sydd weithiau'n dawel, arwyr cydnabyddedig nifer o fusnesau gwledig llwyddiannus, a’u hannog i gofrestru'n bersonol gyda Cyswllt Ffermio, fel y gallwn eu cefnogi nhw hefyd.

"Yn aml iawn, y partner gwrywaidd yn y busnes yw'r unigolyn a enwir wrth gofrestru, felly dim ond yr unigolyn hwnnw sy'n derbyn ein gwahoddiadau, y cyhoeddiadau a'r holl wybodaeth a chanllawiau sy'n eu helpu i gadw i fyny gyda'r arloesedd, y dechnoleg newydd a'r arfer gorau sydd ar gael.

"Mae gennym amrywiaeth mor gynhwysfawr o wasanaethau mentora, cymorth, canllawiau a hyfforddiant, a darperir llawer ohonynt gyda chynnwys a fformat a fydd yn fuddiol iawn ac yn hygyrch i lawer o ferched.”

Mae Mrs. Williams am i bawb yn y garfan benodol hon gysylltu â'u swyddog datblygu Cyswllt Ffermio lleol, a fydd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddyn nhw am yr hyn sydd ar gael yn ystod y cyfyngiadau symud, a’u helpu hefyd i gofrestru.   Mae cofrestru yn broses gyflym y gellir ei chwblhau gyda'n swyddogion datblygu, neu ar-lein drwy fynd i wefan Cyswllt Ffermio neu drwy ffonio'r Ganolfan Wasanaeth ar 08456 000 813. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

“Yn y cyfnod digynsail a heriol iawn, rydym yn gwybod bod llawer o ferched yn gweithio gartref erbyn hyn, yn gorfod addasu i weithio gartref, yn aml yn ceisio cydbwyso’r dyletswyddau o fod yn wraig neu bartner, rhiant, athro ysgol ac weithiau gweithiwr fferm hefyd, ond mae cymaint y gallwn ei wneud i'w helpu os byddant yn cysylltu â ni'n uniongyrchol,” meddai Mrs Williams.

Mae Agrisgôp, sef rhaglen ‘dysgu gweithredol’ hynod lwyddiannus Cyswllt Ffermio sy'n annog grwpiau o unigolion o'r un anian i ddod at ei gilydd mewn amgylchedd wedi'i hwyluso i ddatblygu syniadau busnes, wedi helpu cannoedd o unigolion ers i’r rhaglen gael ei sefydlu yn 2003.  Ar hyn o bryd mae'r fenter yn cynnwys nifer o grwpiau ‘merched yn unig’ yn ogystal â nifer o rai eraill gydag aelodau benywaidd.  Mae nifer yn mynd i'r afael â phynciau sy'n berthnasol i lawer o ferched, yn amrywio o arallgyfeirio a chynlluniau ynni amgen i fentrau twristiaeth a gwaith papur fferm.

“Mae nifer o grwpiau Agrisgôp yn llwyddo i gadw mewn cysylltiad yn ‘ddigidol’ ar hyn o bryd, sy'n hwb mawr i forâl, ond mae'r rhan fwyaf hefyd yn edrych ymlaen at yr amser y gallan nhw fynd yn ôl i gyfarfod eraill yn bersonol, cyfarfod arbenigwyr yn y sector i'w cynghori a gallu ymweld â modelau busnes llwyddiannus eraill,” meddai Mrs Williams.

Mae tîm mentora Cyswllt Ffermio yn cynnwys 12 o fentoriaid benywaidd, pob un yn meddu ar arbenigedd yn seiliedig ar eu sgiliau a'u profiad. Gall busnesau cofrestredig wneud cais am hyd at  15  awr o gymorth mentora cyfrinachol un-i-un dros y ffôn neu'n ddigidol.  Mae'r pynciau sydd ar gael yn cynnwys, er enghraifft , rheoli a chynllunio busnes, mentrau ar y cyd, datblygiad personol, cynllunio ar gyfer olyniaeth, mentrau arallgyfeirio, meincnodi, iechyd a diogelwch fferm ac iechyd a lles anifeiliaid.

“Dros lawer o flynyddoedd, a thrwy lawer o wahanol wasanaethau ac ymgyrchoedd, rydym wedi bod yn rhoi cyfle i ferched ddatblygu eu potensial a chyfrannu at y cyfleoedd niferus sy'n bodoli o fewn y busnesau ffermio, bwyd a choedwigaeth a hefyd o fewn eu cymunedau gwledig ehangach."

"Er bod amaethyddiaeth yn dal i gael ei ystyried yn sector gwrywaidd yn bennaf, mae merched yn chwarae rôl ganolog yn y gwaith o ddatblygu, moderneiddio a phroffesiynoldeb nifer o fusnesau ffermio yn y DU, a gall Cyswllt Ffermio eu cefnogi yn hyn o beth,” meddai. Mrs. Williams.

‘Cadwch y dyddiadau’ dydd Llun 15 Mehefin – dydd Sadwrn 20 Mehefin. Bydd ymgyrch flynyddol merched mewn amaeth Cyswllt Ffermio yn cael ei chynnal ‘o bell’ eleni gydag wythnos o weithgareddau ar-lein, digidol ac un i un ‘dros y ffôn’. Am wybodaeth bellach cliciwch yma.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint
Fferm laeth yr ucheldir yn treialu cymysgedd hadau gwndwn llysieuol sydd wedi'u sefydlu gyda hau yn uniongyrchol
16 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yr ucheldir yng Nghymru yn ceisio
Ffermwr llaeth sy’n manteisio ar ‘Gyllid Arbrofi’ yn ceisio gwella bioleg y pridd
15 Ebrill 2024 Mae ffermwr llaeth yn cyflwyno cannoedd o