4 Fedi 2023

 

Mae Cyswllt Ffermio wedi cyhoeddi siaradwyr o bob rhan o’r sector teledu a’r cyfryngau cymdeithasol ar gyfer digwyddiad Arloesi ac Arallgyfeirio eleni.

Mae’r digwyddiad, a gynhelir ddydd Iau 21 Medi ar Faes Sioe Frenhinol Cymru, wedi cadarnhau’r prif siaradwyr gan gynnwys y ffermwr a’r dylanwadwr ar y cyfryngau cymdeithasol Ioan Humphries neu @that_Welsh_farmer, Dilwyn Evans, y byddwch efallai’n ei adnabod fel milfeddyg Clarkson’s Farm a Mandy Watkins, cynllunydd tai ar S4C yn ogystal â chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru a fydd yn darparu gwybodaeth ar y cynlluniau, cyllid a’r cymorth diweddaraf sydd ar gael i’r diwydiant.

Cynhaliwyd digwyddiad Arloesi ac Arallgyfeirio Cymru cyntaf erioed ym mis Medi 2019, ac ar ôl seibiant oherwydd y pandemig, dychwelodd y digwyddiad yn gryfach nag erioed yn 2022. Bu i’r digwyddiad ddenu dros 1,000 o ymwelwyr a 90 o arddangoswyr yn ogystal â llu o wynebau cyfarwydd megis Tom Pemberton. Mae digwyddiad 2023 yn edrych i ddenu hyd yn oed mwy o fusnesau fferm a choedwigaeth sydd am gael mynediad at y cymorth, y wybodaeth, y syniadau a’r technolegau newydd sydd ar gael yn y digwyddiad i helpu i ysgogi arloesi ac arallgyfeirio o fewn y diwydiant wrth ddarparu cymorth, arweiniad, hyfforddiant ac arddangosiadau ymarferol a fydd yn paratoi busnesau ffermio ar gyfer y dyfodol.

Yn ôl Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig gyda Menter a Busnes, mae adeiladu ar lwyddiant digwyddiadau blaenorol yn dasg gyffrous i'r tîm.

“Roeddem wrth ein bodd yn cael adborth mor gadarnhaol o’n digwyddiadau blaenorol ac rydym am sicrhau bod 2023 hyd yn oed yn well. Mae’r digwyddiad yn cynnig cyfle i’r rhai sydd am arloesi ac arallgyfeirio siarad â’r rhai sydd eisoes wedi cymryd y naid ac wedi arallgyfeirio tra hefyd yn gwneud cysylltiadau gwerthfawr o fewn y diwydiant i’w helpu ar eu taith arallgyfeirio eu hunain.”

Wedi'i ystyried yn ddigwyddiad i ysbrydoli, ysgogi a chylchredeg, gyda rhwydweithio a meithrin cysylltiadau newydd yn cael ei nodi fel un o'r prif fanteision, mae digwyddiad eleni yn argoeli i fod yn ddiwrnod na fydd unrhyw ffermwr o Gymru am ei golli.
I fynychu, cofrestrwch am ddim drwy wefan Cyswllt Ffermio .

Mae yna ychydig o leoedd ar gael i arddangoswyr o hyd, i arddangos cynnyrch neu wasanaeth, neu i hyrwyddo eich sefydliad yn y sioe, sicrhewch fod eich gofod arddangos yn cael ei archebu trwy wefan Cyswllt Ffermio.

Neu os ydych yn dymuno mynychu a mwynhau'r hyn sydd gan y digwyddiad i'w gynnig, neilltuwch eich lle heddiw hefyd trwy'r wefan, cliciwch yma 
 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint