19 Chwefror 2024

 

 

Roedd Anna yn gweithio yn y sector ceffylau yn 2016 pan benderfynodd ei bod am i’w dyfodol fod mewn amaethyddiaeth, gan ffermio 150 hectar ger y Trallwng gyda’i rhieni, John a Sally.

Gan fod ei brawd, Matthew, wedi dilyn gyrfa ym maes datblygu eiddo, hi oedd y cyswllt i sicrhau dyfodol i Ffermydd Tir Newydd o dan stiwardiaeth y teulu.

“Penderfynais achub ar y cyfle i redeg y fferm er mwyn ei chadw yn y teulu,’’ meddai Anna.
 
Roedd hynny’n golygu ailfeddwl am y mentrau presennol, a oedd bryd hynny’n cynnwys diadell o 800 o famogiaid Miwl Cymreig, diadell fechan o ddefaid Charollais pur, a buches o 45 o wartheg sugno.

“Roeddwn i’n gwybod bod angen i ni wneud rhywbeth ochr yn ochr â ffermio da byw, ac roedd arallgyfeirio i lety gwyliau yn cynnig y potensial ar gyfer sicrwydd ariannol.

Cyn penderfynu, roedd Anna am fod yn hyderus y byddai’n gweithio, a gwelodd raglen Agrisgôp Cyswllt Ffermio yn gyfrwng i wneud hyn.

Mae’r rhaglen dysgu rhwng ffermwyr hon yn dod â grwpiau o unigolion o’r un anian ynghyd i helpu i ddatblygu eu busnesau drwy ennill yr hyder, y sgiliau a’r wybodaeth i wireddu eu syniadau.

Roedd cyfres o gyfarfodydd a drefnwyd gan arweinydd Agrisgôp, Elaine Rees Jones, yn amhrisiadwy.

“Rhoddwyd y cyfle i ni benderfynu pa siaradwyr roedden ni am eu cael; roedd popeth wedi’i deilwra i’r grŵp”, eglura Anna. 

“Roedd hyn yn fuddiol dros ben, oherwydd roeddem ar ddechrau ein taith, ac nid oeddem yn gwybod ar ba lefel roeddem ni am osod ein llety, o ran ei raddio,’’ mae’n cofio.
Dewisodd y teulu lety gwyliau moethus uwchraddol, a ddatblygwyd mewn adeilad a oedd eisoes yn bodoli, ac a ddechreuodd weithredu ym mis Awst 2021.

“Mi fyddem wedi parhau i fwrw ymlaen heb Agrisgôp, ond yn bendant, rhoddodd y rhaglen yr hyder i fi ofyn y cwestiynau cywir i wahanol bobl ar hyd y ffordd, yn lle camu i mewn yn ddall,’’ meddai Anna, sydd wedi cael cefnogaeth ei phartner, Guy Ennever, a arferai redeg busnesau yn y diwydiant lletygarwch, ac sydd bellach yn ffermio’n rhan amser gydag Anna ar Ffermydd Tir Newydd, yn ogystal â bod yn rhan o fentrau eraill gan gynnwys plannu a thorri coed.

“Rydym ni’n bwriadu ehangu’r busnes gwyliau ymhellach wrth gadw Tir Newydd fel fferm weithiol, a fydd yn golygu gwneud ychydig o fân newidiadau i gael popeth i redeg yn fwy llyfn,” meddai.

Er mwyn cydbwyso’r llwyth gwaith y mae hyn wedi’i greu, mae nifer y mamogiaid masnachol wedi’u lleihau i 500; fodd bynnag, eu nod yw cynyddu maint y fuches sugno.

Mae iechyd a chynhyrchiant uchel yn ganolog i berfformiad y defaid a’r gwartheg, a phan aeth y teulu Jones i drafferth gyda’r rhain, roeddent yn gallu estyn allan at Cyswllt Ffermio unwaith eto am gymorth.

Amheuwyd bod diffyg ïodin a chopr yn y gwartheg, felly cynhaliwyd profion gwaed gan Filfeddygon Trefaldwyn, a ariannwyd drwy Glinig Iechyd Anifeiliaid Cyswllt Ffermio.

Roedd y gwasanaeth hwnnw hefyd yn darparu cyllid tuag at gost llunio proffiliau metabolig y fuches a’r ddiadell.

“Cafwyd rhai annormaledd yn yr ŵyn heb eu geni wrth sganio, felly fe wnaethom ni lunio proffiliau metabolig i ganfod yr achos,’’ meddai Anna.

I unrhyw newydd-ddyfodiad i fyd amaeth, mae llawer i'w ddysgu. Ni astudiodd Anna amaethyddiaeth yn y brifysgol, ac roedd ei gwybodaeth am ffermio yn ymestyn at yr hyn y mae wedi’i ddysgu gan ei thad dros y blynyddoedd.

Roedd cyfle am fentora wedi’i ariannu’n llawn, gan ffermwr â system debyg, yn un y manteisiodd Anna arno.

Trwy wasanaeth Mentora Cyswllt Ffermio, cafodd ei pharu â Dafydd Parry Jones, sy’n ffermwr bîff a defaid arobryn.

Mae wedi llunio ei fusnes ger Machynlleth o amgylch system mewnbwn isel a dyma’r cyfeiriad yr hoffai Anna i Ffermydd Tir Newydd ei ddilyn hefyd.

Wedi’u hysbrydoli gan wndwn meillion coch Dafydd, bydd y teulu Jones yn tyfu rhai eu hunain eleni.

Mae Anna hefyd wedi cael cyngor wedi’i ariannu ar reoli glaswelltir a chnydau gan yr agronomegydd Marc Jones, trwy’r Gwasanaeth Cynghori, a chyngor hefyd gan y milfeddyg Fiona Lovatt ar berfformiad da byw a’u rheoli.

Mae’n rhaid ystyried olyniaeth pan ddaw cenhedlaeth newydd i’r busnes, ond gall y sgyrsiau hynny fod yn anodd weithiau.

I roi hwb i’r broses, trodd y teulu Jones at wasanaeth Olyniaeth Cyswllt Ffermio, lle cynigiwyd arweiniad gan gyfryngwyr profiadol.

“Roedd yn help mawr i gychwyn y sgwrs ac i drafod syniadau ychydig yn fwy,’’ meddai Anna.

“Rwy’n ddiolchgar iawn am yr holl help rydym ni wedi’i gael gan Cyswllt Ffermio, i’n galluogi ni i gyrraedd y pwynt hwn, ac rwy’n gyffrous iawn i weld sut y bydd ein cynlluniau’n datblygu wrth symud ymlaen.”


I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn mae Cyswllt Ffermio’n ei gynnig, ewch i www.llyw.cymru/cyswlltffermio neu ffoniwch 03456 000 813, Canolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio.
 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Mae fferm laeth yng Nghymru yn tyfu blodau’r haul gyda india-corn fel cnwd cyfatebol i leihau ei chostau protein a brynir i mewn.
25 Medi 2024 Mae Dyfrig ac Elin Griffiths a'u mab, Llyr, yn
Y ffermwr defaid Richard Wilding yn croesawu dysgu gydol oes ar gyfer dyfodol mwy effeithlon
23 Medi 2024 Richard Wilding, ffermwr defaid ucheldir o Lanandras
Gwobrau Lantra Cymru 2024