24 Ionawr 2023
“Pan ddes i’n ôl o Dubai, roeddwn i’n gwybod bod angen i ni wneud rhywbeth gwahanol ar y fferm nid yn unig i oroesi, ond i ffynnu”. Dyma eiriau Angharad Williams, ffermwr pedwaredd genhedlaeth sy’n arwain menter arallgyfeirio fferm Dolau Ifan Ddu – The Bridgend Pumpkin Patch.
Gan ddenu ymwelwyr o bob rhan o gwm De Cymru a thu hwnt, croesawodd y busnes casglu eich hun lu o ymwelwyr am yr ail flwyddyn yn olynol yn Hydref 2022.
Mae Angharad, lle gallwch chi ddod o hyd iddi trwy ei dolen Instagram @angwills, yn un o'r tair menyw a fydd yn siarad mewn digwyddiad arallgyfeirio a fydd yn canolbwyntio ar y rôl y mae menywod yn ei chwarae wrth yrru arallgyfeirio ar ffermydd yn ei flaen. Bydd y digwyddiad YouTube Live ‘Merched yn Mentro’ yn cael ei gynnal ar 31 Ionawr am 19:30.
Yn ymuno ag Angharad Williams i rannu ei phrofiad o ehangu o arferion ffermio cwbl draddodiadol ac ychwanegu gweithgareddau gwneud arian ychwanegol at y busnes fydd y dylanwadwr ffermio a seren Instagram, Zoë Colville.
Yn wyneb cyfarwydd i’w 40 mil o ddilynwyr ar Instagram, bydd Zoë, neu fel y mae’n cael ei hadnabod yn ehangach, The Chief Shepherdess, yn rhannu ei thaith o weithio fel triniwr gwallt yn Soho i fod yn ffermwr llawn amser a pherchennog busnes gan gynnwys The Little Farm Fridge – busnes cigyddiaeth ar y fferm sydd yn gwerthu bocsys cig ar-lein yn uniongyrchol o'r fferm i'r fforc.
Mae Zoë wedi casglu nifer dilynwyr helaeth ar gyfryngau cymdeithasol trwy ei hagwedd ddi-lol a’i natur agored i rannu gwersi bywyd a ddysgwyd trwy ffermio, mae Zoë yn sicr o ddod â dimensiwn gwahanol i drafodaethau’r panel.
Yn debyg i Angharad a Zoë, mae ein trydydd gwestai hefyd yn gwneud cyfraniad cryf i’r economi wledig ac yn bodloni blys melys ar hyd yr A40 rhwng Aberhonddu a Llandeilo. Sefydlodd Sophie Jones Truly Scrumptious, busnes pobi ac arlwyo o’i fferm enedigol, Aberbran Fach yn 2017 ar ôl graddio o Brifysgol Harper Adams.
Ers i Sophie adnabod angerdd o bobi ers yn ifanc iawn, datblygodd ei sgiliau arlwyo yn ystod ei blynyddoedd olaf yn yr ysgol a datblygodd wybodaeth am y diwydiant gan astudio gradd mewn Bwyd ac Astudiaethau Defnyddwyr. Wedi’i danio gan angerdd a gwybodaeth, mae Truly Scrumptious yn parhau i dyfu o nerth i nerth ac yn cyflawni archebion personol, yn ogystal â digwyddiadau a busnesau eraill. Cawn ddarganfod sut mae hi'n cyflawni hyn ynghyd a'i gwaith ar y fferm deuluol yn ystod y digwyddiad.
Am y tro cyntaf, bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal fel YouTube Live ar sianel Cyswllt Ffermio @CyswlltFfermioFarmingConnect. Gyda'r platfform hwn yn prysur ddod yn lle ar gyfer cynnwys ffermio, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n tanysgrifio i'r sianel i gael hysbysiadau am y datganiadau diweddaraf.
Bydd y digwyddiad hwn hefyd yn cynnwys sesiwn holi-ac-ateb, gan roi cyfle i fynychwyr a dilynwyr ofyn unrhyw gwestiynau pwysig i'r merched busnes beiddgar hyn.
Anogir unigolion i gofrestru ar gyfer y digwyddiad trwy wefan Cyswllt Ffermio i dderbyn cynnwys unigryw sydd ar gael cyn y digwyddiad. I gyflwyno cwestiynau ar gyfer y siaradwyr, cysylltwch â teleri.thomas@menterabusnes.co.uk.
Darperir Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, ac fe’i ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.