11 Fedi 2023

 

Mae Cyswllt Ffermio wedi cyhoeddi mwy o fanylion am ei ddigwyddiad Arloesi ac Arallgyfeirio sydd ar y gweill, sy’n cael ei alw’n “ddigwyddiad na fydd unrhyw ffermwr o Gymru am ei golli.”

Yn ei drydedd flwyddyn, mae gan y digwyddiad ystod eang o siaradwyr, pob un yn gallu rhoi cyngor a chymorth i ffermwyr sydd am ychwanegu ffrydiau incwm ychwanegol at eu busnes.

Gyda dros 1,000 o fynychwyr i fod i fynychu ddydd Iau 21 Medi ar Faes Sioe Frenhinol Cymru, nod y digwyddiad yw ysbrydoli arallgyfeirio ac annog y 'syniad nesaf' er mwyn datblygu ac arloesi ffermydd Cymru.

Bydd amrywiaeth o siaradwyr arbenigol yn siarad drwy gydol y dydd ac yn trafod popeth o dechnoleg, ffermio fertigol ac ychwanegu gwerth at gynhyrchion bwyd a diod,  i iechyd anifeiliaid yn ogystal â chynrychiolydd o Lywodraeth Cymru a fydd yn darparu gwybodaeth am y cynlluniau, cyllid a chymorth diweddaraf sydd ar gael i’r diwydiant.

Bydd hefyd arddangosiadau gan weithwyr proffesiynol y diwydiant gan gynnwys, Breedr, Dragon Renewables, EEM Farming Solutions, Bennaman, Berrys, ADAS, NFU Energy, JMS Planning and Development, Solar Gate Farming, Menter Môn ac Arloesi Bwyd Cymru.

Digwyddiad arall a fydd yn rhan o’r diwrnod yw cymorthfeydd un i un rhad ac am ddim gydag ymgynghorwyr cymeradwy Cyswllt Ffermio ar bynciau megis busnes, arallgyfeirio, cynllunio a chyllid. Bydd mynychwyr hefyd yn gallu ceisio cyngor ar sut y gallant elwa ar yr holl gymorth sydd ar gael iddynt a gallant siarad â thîm Cyswllt Ffermio am wasanaethau cynghori, hyfforddiant, mentora a chlinigau. Anogir i chi neilltuo eich lle cyn y digwyddiad.

Yn ôl Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig gyda Menter a Busnes mae sicrhau'r fath gyfoeth o arbenigwyr y diwydiant ar gyfer y digwyddiad yn hanfodol.

“Rydym yn gwybod bod ffermwyr yng Nghymru yn awyddus i ystyried ffynonellau incwm arall, ond yn aml nid ydynt yn gwybod ble i ddechrau. Mae’r digwyddiad hwn, sydd wedi mynd o nerth i nerth yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn lle perffaith i ysbrydoli syniadau arloesol! Rydym yn cynnig cyfle i ffermwyr gysylltu â phobl sy’n gallu cynnig cymorth ac arweiniad gwirioneddol yn ogystal â chymorth gan ffermwyr eraill sydd eisoes wedi dechrau ar eu taith arallgyfeirio.”

Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys man penodol i Bodlediad Clust i’r Ddaear Cyswllt Ffermio, lle bydd y tîm yn cynnal sesiynau amrywiol llawn gwybodaeth ac atyniadol gydag arbenigwyr y diwydiant a ffermwyr, gan sicrhau nad oes neb yn colli allan ar uchafbwyntiau'r diwrnod.

I fynychu, cofrestrwch am ddim drwy wefan Cyswllt Ffermio .

Mae yna ychydig o leoedd ar gael i arddangoswyd o hyd, i arddangos cynnyrch neu wasanaeth, neu i hyrwyddo eich sefydliad yn y sioe, sicrhewch fod eich gofod arddangos yn cael ei archebu trwy wefan Cyswllt Ffermio
 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn
Gwaith samplo Cyswllt Ffermio yn amlygu cyfleoedd i wella iechyd pridd ar ffermydd Cymru
11 Rhagfyr 2024 Mae adroddiad gan Cyswllt Ffermio ar briddoedd
Sut mae anwybyddu clefydau heintus yn gallu arwain at broblemau sylweddol mewn diadelloedd yng Nghymru
29 Tachwedd 2024 Mae ffermwyr defaid yng Nghymru yn cael eu