19 Tachwedd 2020

 

Yn ystod gweminar Cyswllt Ffermio ar recriwtio a chadw staff, dywedodd yr ymgynghorydd pobl Paul Harris na ddylai ffermwyr fabwysiadu’r feddylfryd y bydd hyfforddi staff yn gwneud y gweithwyr hynny yn fwy deniadol i gyflogwyr eraill.

“Mae pobl yn aml yn gofyn i mi, beth fydd yn digwydd os byddwn ni’n buddsoddi mewn pobl a bydd y rheini’n gadael. Ond y cwestiwn rydw i’n ei ofyn iddyn nhw yw hyn, beth fyddai’n digwydd petai nhw ddim yn buddsoddi mewn pobl a bydd y bobl hynny’n aros,’’ dywedodd Mr Harris o gwmni Real Success.

Yn ôl Mr Harris, er bod rhai ffermwyr yn cael trafferth recriwtio, mae gan ffermwyr eraill restri aros ac mae gwahaniaethau allweddol rhwng y ddau.

“Rhowch bobl wrth galon eich busnes, os byddwch chi’n gwneud hynny chewch chi ddim problemau recriwtio a chadw staff,’’ mynnodd.

Roedd Mr Harris yn annog ffermwyr i ystyried y canlynol:

Enw da: Awgrymodd Mr Harris fod ffermwyr yn aml yn euog o fychanu eu diwydiant ond mae’r agwedd negyddol honno’n atal pobl rhag dewis gyrfa ym myd ffermio.

“Meddyliwch beth rydych chi’n ei ddweud am eich fferm wrth eraill a beth mae pobl eraill yn ei ddweud amdanoch chi,’’ awgrymodd.

“Sut fath o enw sydd gennych chi, ydych chi’n cael eich adnabod fel fferm sy’n hurio ac yn diswyddo staff neu fel fferm sy’n cadw ac yn datblygu ei phobl?’’

Presenoldeb ar-lein: Bydd darpar-weithwyr yn ymchwilio ar-lein i hanes pobl sy’n recriwtio, felly defnyddiwch lwyfannau’r cyfryngau cymdeithasol i anfon negeseuon cadarnhaol am eich fferm. 

Roedd Mr Harris yn deall pam mae rhai ffermwyr yn pryderu y gallai hyn eu gwneud yn darged i ymgyrchwyr hawliau anifeiliaid ond ychwanegodd: “Sut gallwn ni ddenu staff os nad ydyn ni’n ddigon dewr i gael gwefan yn dangos delweddau cadarnhaol o’n ffermydd, ein timau a’n hanifeiliaid?’’

Hysbysebu: Yn eich hysbyseb, esboniwch yn glir beth sydd ei angen, o ran cymwysterau a phrofiad. 

Ystyriwch broffilio personoliaeth ymgeiswyr swyddi, a staff presennol hefyd.

“Yn ystod cyfweliadau, gall pobl fod yn bwy bynnag rydych chi eisiau iddyn nhw fod, felly mae proffilio yn helpu i ddod o hyd i bobl sy’n cyd-fynd yn well â’ch fferm,’’ meddai Mr Harris. 

“Os byddwn ni’n recriwtio’n wael, byddwn ni’n wael am gadw ein staff, dyna lle mae pethau’n aml yn mynd o le o ran cadw staff.’’

Beth gall staff ei gynnig i’ch busnes: Bydd ffermwyr yn aml yn rhoi gwerth ar sgiliau a gwybodaeth uwchlaw agwedd ac aliniad – parodrwydd i weithio gydag eraill a chwblhau tasg – ond roedd Mr Harris yn herio’r agwedd hon.

“Gallwch ddatblygu sgiliau a gwybodaeth ond gallwch chi ddim dysgu agwedd ac aliniad, mae’n bosibl y bydd angen i chi gael gwared ar bobl sydd â’r agwedd a’r aliniad anghywir,’’ dywedodd.

Denu sylw: Byddwch yn wahanol i ddarpar-gyflogwyr eraill – cynigiwch amodau gwaith da a llety neu fwy o amser i ffwrdd o’r gwaith.

“Nid cyflog yw’r ystyriaeth bwysicaf i ymgeiswyr swyddi bob amser, meddyliwch am oriau gwaith ac amser i ffwrdd hefyd,’’ dywedodd Mr Harris.

Hyfforddiant a datblygiad: Peidiwch ag ofni y bydd staff yn eich gadael os byddwch yn buddsoddi yn eu hyfforddiant a’u datblygiad – mewn gwirionedd, mae’r rhain yn allweddol i gadw staff.

Ac os bydd staff yn penderfynu eich gadael, bydd eu profiad yn siŵr o wella eich enw da fel cyflogwr, ychwanegodd Mr Harris.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffermwr llaeth sy’n manteisio ar ‘Gyllid Arbrofi’ yn ceisio gwella bioleg y pridd
15 Ebrill 2024 Mae ffermwr llaeth yn cyflwyno cannoedd o
Newidiadau i’r Isafswm Cyflog Amaethyddol yng Nghymru o 1 Ebrill 2024
10 Mawrth 2024 Mae gan bob gweithiwr amaethyddol, garddwriaethol
17 o gyrsiau newydd wedi’u hychwanegu at raglen hyfforddiant Cyswllt Ffermio
03 Ebrill 2024 Mae 17 cynnig newydd bellach ar gael drwy raglen