4 Ionawr 2023

 

Gall porthiant o ansawdd da sy’n cael ei fwydo mewn dogn cymysg cyflawn (TMR) leihau’n sylweddol yr angen i fwydo dwysfwydydd i famogiaid cyfeb.

Mae’r egwyddor o optimeiddio’r cyfraniad o borthiant i ganiatáu cyn lleied â phosibl o atchwanegiadau yn un y mae’r tad a’r mab John a Jack Foulkes yn anelu ato yn Marchynys, daliad 700 erw ar Ynys Môn lle maent yn wyna 2,700 o famogiaid o ddiwedd mis Ionawr.

Yn ystod digwyddiad Cyswllt Ffermio ym Marchynys yn ddiweddar, cynghorodd yr arbenigwr defaid annibynnol Kate Phillips, sydd wedi bod yn llunio dogn mamogiaid cyfeb y fferm ers blynyddoedd lawer, y dylai ffermwyr gael dadansoddiad o’u porthiant, oherwydd heb wybod ei gynnwys maethol, nid yw’n bosibl cael y cydbwysedd cywir yn y deiet.

Bydd dadansoddiad yn dangos faint o borthiant ychwanegol sydd ei angen i lenwi unrhyw ddiffygion maeth yn y porthiant.

Ond, roedd gan Mrs Phillips eiriau o rybudd, hefyd. “Os nad yw'r dadansoddiad yn cyd-fynd â'ch arsylwadau o'r cnwd, er enghraifft, os oedd yr amodau torri'n dda ac roedd y cnwd ar y cam cywir ar gyfer cynaeafu ond nad yw hynny'n cael ei adlewyrchu yn y dadansoddiad, dylech ei wirio eto.”

Ym Marchynys, mae deiet mamogiaid yn cynnwys silwair glaswellt, silwair india corn, haidd wedi’i drin â Hom n’ Dry (peled wrea a soia), triagl, blawd had rêp, Ultrasoy a mwynau.

Eleni, o ganlyniad i oedi cyn cynaeafu, roedd y gwerthoedd maetholion yn is nag arfer, gyda’r dadansoddiad yn dangos 9.9 ME (MJ/kgDM), 11.3% o brotein crai a 40.5% o ddeunydd sych (DM) ar gyfer y silwair clamp, a 9.3% ME, 12.8% o brotein crai a 42.9% DM ar gyfer y silwair mewn byrnau.

Ar gyfer yr india corn cartref, y gwerthoedd hynny oedd 10.8 ME, 8.8% o brotein crai a 44.7% DM.

Dywedodd Mrs Phillips, er bod costau porthiant yn is na phrisiau uchel iawn y llynedd, y dylai ffermwyr bob amser wneud y gorau o’u cynhwysion cartref.

“Cyfrifwch beth sydd gennych chi ar y fferm yn gyntaf, ac yna prynwch y bwyd sydd ei angen arnoch chi yn unig i gydbwyso hynny,” meddai.

Mae bwydo TMR ym Marchynys yn golygu bod mamogiaid yn cael deiet cyson drwy gydol y dydd, felly nid oes unrhyw newidiadau mawr yn pH y rwmen sy'n gysylltiedig â bwydo prydau o ddwysfwydydd ar eu pen eu hunain.

Gellir llunio'r ddogn i fodloni anghenion mamogiaid ar wahanol gamau yn eu  beichiogrwydd, gydag ychydig iawn o newidiadau yn eu deiet.

Mae’r teulu Foulkes yn cyflwyno’r porthiant i rai mamogiaid saith wythnos cyn iddynt ŵyna, ond mae hyn yn dibynnu ar pryd y mae’r anifeiliaid yn cael eu cadw dan do.

Mae Mrs Phillips yn llunio'r dognau ar gyfer mamog 80kg ar sgôr cyflwr corff 3 - 3.5.

Mae hi'n rhagweld pwysau'r porthiant y byddant yn ei fwyta, ond dywedodd ei bod yn bwysig monitro'r cymeriant i weld a ydynt yn cyfateb i'r cymeriant deunydd sych a ragwelir.

“Pwyswch beth mae’r mamogiaid yn ei fwyta, gadewch i’r mamogiaid setlo ar y deiet am wythnos ac yna gwiriwch fod y meintiau’n cyd-fynd â’r cymeriant a ragwelir,” meddai.

“Efallai eu bod yn bwyta 0.5 kg yn fwy neu 0.5kg yn llai o borthiant ffres, ac os yw hynny'n wir, newidiwch y deiet ychydig i gael y cydbwysedd cywir.’’

Mae deiet mamogiaid cyn ŵyna yn bwysig am lawer o resymau; mae'n llywio ansawdd colostrwm a chynhyrchiant llaeth heb dynnu cyflwr oddi ar y famog.

Yn ogystal â phorthwr deiet, mae'n rhaid i ffermwyr sy'n ystyried TMR fod ag adeilad sy'n addas ar gyfer y math hwn o fwydo – sef adeilad sydd â llwybrau porthiant ac y gellir ei gyrchu â pheiriant.

Ym Marchynys, mae mamogiaid blwydd cyfeb yn cael eu cadw mewn uned gyda slatiau heb do sy’n dal 650 o ddefaid, ac a gafodd ei adeiladu ar safle cysgodol heb do, nid fel modd arbed costau, ond i gadw porfa ar gyfer pori cynnar yn y gwanwyn ac i gynnal iechyd y ddiadell.

Nid yw’r anifeiliaid yn profi’r problemau anadlu sy’n gysylltiedig â siediau sydd wedi’u hawyru’n wael, ac mae iechyd eu traed yn dda iawn oherwydd bod y defaid yn sefyll ar slatiau ac mae eu traed yn sych.

Yn flaenorol, roedd mamogiaid blwydd yn pori bloc 120 erw tan ganol mis Chwefror, ond, gan fod y fferm mewn ardal o lawiad uchel, roedd y tir wedi’i sathru’n drwm ac ni adferodd tyfiant glaswellt yn iawn tan fis Mehefin o leiaf.

Roedd cadw mwy o’r ddiadell dan do o ddiwedd mis Tachwedd yn opsiwn, ond nid oedd system dan do gonfensiynol yn addas oherwydd yr amser y byddai angen i’r defaid fod yn y sied.

Yr ateb oedd adeiladu uned 150 x 30 troedfedd heb do, wedi'i rhannu'n bum corlan gyda lloriau o slatiau plastig.

Roedd wedi'i leoli wrth ymyl buarth y fferm mewn man cysgodol yn agos at siediau eraill.

Mae mamogiaid blwydd yn cael eu cadw yn y sied o ddiwedd mis Tachwedd hyd ddiwedd mis Chwefror.

Mae wedi'i glustnodi ar gyfer y grŵp hwn o anifeiliaid oherwydd mai nhw yw'r olaf i ŵyna ac felly mae angen eu cadw dan do am y cyfnod hwyaf.

Maent ar y slatiau am ddau fis a hanner cyn cael eu symud i'r sied ŵyna fis cyn wyna.

Caiff y mamogiaid sy'n cario tripledi eu symud i'r sied ŵyna'n gyntaf, ac yna'r rhai sy'n cario gefeilliaid ac yn olaf, y rhai sy’n cario ŵyn sengl.

Gall ffermwyr cymwys gael cyngor ar faeth i drafod y dadansoddiad o’u porthiant neu gymorth i ffurfio dogn trwy gysylltu â'u Swyddog Datblygu lleol neu drwy ffonio Canolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 03456 000 813. 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint