9 Rhagfyr 2020

 

Mae’r teulu Griffith yn rhedeg buches o 145 o fuchod Stabiliser ar fferm Bodwi, ger Pwllheli, ac yn y gorffennol maent wedi pesgi hanner eu teirw bîff eu hunain a’r gweddill mewn uned arbenigol yn Swydd Gaerefrog.

Fel un o brosiectau safleoedd arddangos Cyswllt Ffermio, aeth y busnes ati i gymharu’r gost cynhyrchu yn y ddwy system ddwys.

Roedd y teirw a fagwyd adref ychydig yn rhatach i’w magu – roedd cyfanswm y gost am bob cilogram (kg) o gynnydd mewn pwysau byw dyddiol ar gyfer y grŵp hwn yn £1.62 o’i gymharu â £1.73 ar gyfer y grŵp arall.

Roedd 81 o loi teirw yn rhan o’r prosiect hwn; cawsant eu diddyfnu’n sydyn yng nghanol mis Hydref a chyflwynwyd iddynt ddiet o ddwysfwyd gwartheg bîff ad-lib a gwellt gwenith.  

Cawsant eu pwyso a’u grwpio ar ddiwedd Rhagfyr: cafodd saith eu cadw fel teirw bridio posibl, cadwyd 34 o’r rhai trymaf i’w pesgi adref a chafodd y 40 oedd yn weddill eu hanfon i’r uned yn Swydd Gaerefrog y diwrnod ar ôl eu pwyso.

Tan hynny, roedd y gost o gynhyrchu pob tarw yr un fath.

Cadwyd y teirw cartref ar ddiet o ddwysfwyd bîff ad-lib a gwellt nes iddynt fynd i’w lladd tra bod y teirw yn Swydd Gaerefrog wedi cael eu bwydo ar Ddognau Cymysg Cyflawn – roedd y porthiant yr oeddent yn ei gael yn cael ei bwyso’n ddyddiol ac anfonebwyd y teulu Griffith bob mis am y porthiant a fwytawyd: roeddent hefyd yn talu cost ddyddiol benodedig y pen i dalu am gostau llafur a deunydd gorwedd.

Gan fod y teirw yn cael eu gwerthu i’w lladd dros gyfnod o dri mis, cyfrifwyd y gost o’u cynhyrchu y geiniog am bob kg o gynnydd mewn pwysau byw dyddiol, meddai Edward Griffith, sy’n ffermio gyda’i wraig a’i fab, Jackie ac Ellis, a’i rieni, William a Helen.

Dywedodd Ellis fod y prosiect wedi bod yn ymarferiad defnyddiol a oedd wedi cadarnhau penderfyniad y teulu i besgi eu holl deirw bîff adref, ond fod yn rhaid iddynt gadw rhai ystyriaethau mewn cof.

Rhaid ichi gael siediau os ydych chi am eu pesgi adref – i’r teulu Griffith bydd yn golygu peidio â rhoi’r holl ddefaid dan do fel a wnânt fel arfer ar ddechrau mis Ionawr.

Bydd cant a hanner o’r mamogiaid sy’n wyna’n hwyrach yn cael eu rhoi dan do ganol Chwefror yn hytrach ac, i lenwi’r bwlch porthiant, mae pedwar hectar (ha) o rêp a maip sofl yn cael eu tyfu.

Mae Ellis yn ychwanegu, mewn sefyllfa lle caiff y pesgi ei wneud oddi ar y fferm, ni all y fferm elwa o’r maetholion a geir gan y gwartheg hynny. 

“Drwy anfon y gwartheg i ffwrdd, rydych chi’n colli gwerth pedwar mis o dail.”

Mae’r busnes nawr yn gobeithio torri’r costau pesgi ymhellach drwy gynnwys haidd gwanwyn wedi’i dyfu ar y fferm yn y dogn.
 
Er gwaethaf amodau sefydlu anodd oherwydd tywydd sych ac yna glaw eithriadol ym mis Awst cyn amser cynaeafu, cafwyd oddeutu 80 tunnell o rawn o’r cnwd 11ha.

Eu bwriad i ddechrau oedd crimpio’r grawn ond ar ôl edrych ar yr opsiynau gyda’u harbenigwr maeth Iwan Vaughan, penderfynodd y teulu Griffith fynd am broses alcyleiddio gyda thriniaeth amonia. 

Gallwch ddefnyddio hwn fel ‘porthiant cyflawn’ i wartheg ar systemau dwys, ond fod angen ychwanegu mwynau, elfennau hybrin a fitaminau.

Cafodd y 75 o loi teirw eleni eu diddyfnu ganol mis Hydref ar ddiet o silwair glaswellt o ansawdd da a chyflwynwyd yr haidd wedi’i rolio a’i drin yn raddol am ben y silwair ddwywaith y dydd.

“Fe wnaethant ddiddyfnu’n ddidrafferth ac ar ôl tri neu bedwar diwrnod roeddent yn bwyta dipyn mwy o’r grawn,” meddai Edward.

Caiff y silwair a’r grawn eu bwydo y tu ôl i farrau mewn cafnau.

Eleni yw’r flwyddyn gyntaf i’r lloi beidio â chael dwysfwyd cyn eu diddyfnu ond eto roeddent yn drymach nag yn y blynyddoedd blaenorol. Mae’n debyg mai’r digonedd o laswellt a oedd ar gael eleni oedd i gyfrif am hyn.

“Rydym fel arfer yn bwydo dwysfwyd i’r lloi am fis cyn eu diddyfnu ond gan ein bod ni’n awr yn dechrau cadw mwy o wartheg ac fe allwn wneud llanastr yn y caeau wrth symud y llociau bwydo, fe benderfynon ni beidio eleni,” meddai Edward.

Cafodd yr anifeiliaid eu pori ar system padogau cylchdro felly roedd ganddynt wastad laswellt ffres o’u blaenau.

Mae gwartheg Stabiliser, meddai Ellis, yn gwneud yn dda ar laswellt.

Fe wnaeth y lloi addasu’n dda i’r silwair glaswellt ar ôl eu diddyfnu. 

Gan fod y system mor llwyddiannus eleni, mae’n annhebygol y byddwn yn defnyddio llociau bwydo i’r dyfodol.

 

Cost magu adref o’i gymharu â thalu i uned besgi

 

Teirw a fagwyd adref yn fferm Bodwi

Pwysau byw cyfartalog ar ddechrau’r prosiect: 403kg

Pwysau byw cyfartalog adeg eu lladd: 662kg

Cynnydd cyfartalog mewn pwysau byw y pen: 259kg          

Cost dwysfwyd bîff am bob kg o gynnydd mewn pwysau byw: £1.38

Cost gwellt am bob kg o gynnydd mewn pwysau byw: £0.14

Cost llafur am bob kg o gynnydd mewn pwysau byw: £0.10

Cyfanswm y gost am bob kg o gynnydd mewn pwysau byw: £1.62

 

Teirw yn fferm Bodwi a anfonwyd i ffwrdd i’w pesgi

Pwysau byw cyfartalog ar ddechrau’r prosiect: 342kg

Pwysau byw cyfartalog adeg eu lladd: 658kg

Cyfanswm y cynnydd cyfartalog mewn pwysau byw y pen: 316kg

Cyfanswm y gost am bob kg o gynnydd mewn pwysau byw: £1.73

 

FFEITHIAU AM Y FFERM 

Cyfanswm yr arwynebedd sy’n cael ei ffermio 247ha 

Priddoedd lôm canolig ffrwythlon

Buches o 145 o fuchod sugno Stabiliser 

1,150 o famogiaid croes Suffolk

300 o ŵyn benyw croes Suffolk nad ydynt yn cael hwrdd


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint