20 Medi 2022
Mae monitro mamogiaid a rheoli eu sgôr cyflwr corff (BCS) wedi helpu i leihau cyfradd y mamogiaid hesb a mamogiaid sydd wedi erthylu 6.4% mewn diadelloedd yng Nghymru, gan helpu i gynyddu’r elw o £3.34 y famog i £9.65.
Mae perchennog y fferm Carine Kidd a’r ffermwr cyfran Peredur Owen yn rhedeg diadell o famogiaid Easycare yn bennaf yn fferm Glanmynys, safle arddangos Cyswllt Ffermio ger Llanymddyfri sy’n 215 hectar, ochr yn ochr â system magu cig eidion.
Trwy eu gwaith gyda Cyswllt Ffermio, maent wedi gweithio gydag arbenigwyr yn y diwydiant, gan gynnwys yr arbenigwraig defaid annibynnol Lesley Stubbings, i wella perfformiad eu diadell o 1000 o famogiaid magu a 300 o ŵyn benyw.
Mae newidiadau rheoli wedi cynnwys trosglwyddo’r ddiadell i frid Easycare, cyflwyno wyna yn yr awyr agored, ail-hadu, a thyfu mwy o borthiant a chnydau gaeaf; mae symud i ffwrdd o ddwysfwyd wedi lleihau costau porthiant o £1.52 y famog.
Mae monitro perfformiad y ddiadell – gan gynnwys sgorio cyflwr mamogiaid ar adegau allweddol – wedi bod yn hanfodol i wella proffidioldeb.
Yn ystod diwrnod agored Cyswllt Ffermio yn fferm Glanmynys yn ddiweddar, dywedodd Ms Stubbings wrth ffermwyr fod sgorio cyflwr corff mamogiaid yn arf rheoli syml ac effeithiol ar gyfer gwerthuso faint o fraster wrth gefn sydd gan famogiaid cyn hwrdda, adeg sganio a diddyfnu.
Mae mwy o flaenoriaeth ar y broses hon yr haf hwn, oherwydd bod pori dan bwysau oherwydd tywydd sych iawn. Drwy ymyrryd yn awr, gellir paru lefelau deunydd sych (DM) â pherfformiad y ddiadell a gall ffermwyr wneud penderfyniadau gwybodus, meddai Ms Stubbings.
“BCS yw'r un dangosydd perfformiad allweddol (KPI) y gall pawb ei fonitro; mae'n cael effaith hollbwysig ar yr holl ffactorau perfformiad eraill,'' dywedodd.
“Os ydych chi eisiau mamog i berfformio, mae'n rhaid i chi ei chadw hi ar y BCS iawn trwy gydol y flwyddyn.''
Targed y gall pob diadell ei gyrraedd yw cael y lefel gywir o gyflwr wrth baru mewn o leiaf 90% o'r ddiadell – ar gyfer bridiau iseldir, dyna sgôr cyflwr o 3-3.5 ac mewn bridiau mynydd, 2.5-3.
O ganlyniad i gyrraedd targed BCS ar y cyd â gwell maeth, mae canran sganio yn y ddiadell yn fferm Glanmynys wedi cynyddu 9%.
Dywedodd Ms Stubbings y dylai ffermwyr deimlo’r mamogiaid am eu cyflwr, a pheidio â dibynnu ar asesiad gweledol. Gellir gwneud hyn drwy deimlo eu rhanbarth meingefnol, yn union y tu ôl i'r asen olaf. Dylid asesu faint o gyhyr y lwyn a graddau'r gorchudd braster dros y cnepyn asgwrn cefn a’r cnepyn traws.
Gyda glaswellt yn brin yr haf hwn, mae’n debygol y bydd canran uwch o famogiaid teneuach nag arfer, felly mae ymyrraeth gynnar yn allweddol, oherwydd ei bod yn cymryd rhwng chwech ac wyth wythnos i gynyddu gorchudd braster o un sgôr cyflwr.
Mae sgôr cyflwr unigol rhwng 10-13% o bwysau'r corff. Mewn mamog 70kg, hynny yw 8-9kg; felly, os oes gan famog BCS o 2 ac angen ei gynyddu i 3.5, mae angen iddi roi 13kg ymlaen.
Mae hynny'n 10 megajoule ychwanegol uwchlaw gofynion cynnal a chadw'r dydd am 10 wythnos - bron yr un peth â diet cyn wyna, meddai Ms Stubbings.
“Mae hyn yn golygu lefel uchel o fwydo ar gyfer mamogiaid heb lawer o fraster gydag ychwanegiad dwysfwyd, yn ogystal â gwair neu silwair pan fo glaswellt yn brin.''
Er mwyn rheoli cyflwr mamogiaid yn ystod haf o dyfiant glaswellt gwael, mae mamogiaid teneuach o ddiadell Glanmynys wedi cael eu hanfon i bori tir â gorchudd uwch, tra bod system o symudiadau dyddiol ar waith ar gyfer y mamogiaid iachach.
Mae'r fferm yn diogelu'r dyfodol rhag hafau sychach trwy dyfu gwyndynnydd llysieuol; roedd y rhain wedi helpu gyda pherfformiad cig oen ar ôl diddyfnu, meddai Mr Owen.
Mae cnwd 15 erw o erfin hefyd wedi’i blannu ar gyfer pori o ganol mis Rhagfyr tan ddiwedd mis Chwefror. Yna bydd mamogiaid yn cael eu troi at laswellt o 1 Mawrth, cyn dechrau wyna o 1 Ebrill.
Mae costau milfeddygol a meddyginiaeth wedi dyblu yn y tair blynedd diwethaf, oherwydd bod y busnes wedi gwario arian ar broffilio metabolaidd a samplu gwaed i werthuso lefelau elfennau hybrin, ac mae’n brechu i atal cloffni yn y ddiadell.
Fodd bynnag, diolch i well effeithlonrwydd a symudiad tuag at system borthiant mewnbwn isel, mae maint yr elw fesul mamog wedi cynyddu o £6.31 i £9.65.
Mae ffermwyr yn cael eu hannog i adolygu sut maen nhw’n defnyddio chwynladdwyr i ddinistrio’r borfa, oherwydd bod gormod yn ei ddefnyddio’n anghywir, yn ôl un arbenigwr yn y diwydiant.
Dywedodd Francis Dunne o Field Options mai camgymeriad cyffredin y mae ffermwyr yn ei wneud yw taenu glyffosad pan nad oes digon o arwynebedd dail.
“Mae llawer o ffermwyr yn defnyddio glyffosad yn aneffeithlon,” meddai Mr Dunne, siaradwr yn nigwyddiad Cyswllt Ffermio yn fferm Glanmynys. “Os nad oes digon o arwynebedd dail, ni fydd y borfa yn gallu cymryd digon o gynnyrch i'w lladd.''
Cynghorir gorchudd glaswellt o tua 2,500kgDM/ha i ddarparu'r amodau delfrydol ar gyfer y defnydd.
Yn fferm Glanmynys, mae rhaglen o ail-hadu wedi arwain at gyflwyno gwyndynnydd aml-rywogaeth am y tro cyntaf.
Mae Mr Dunne yn cynghori y dylid cael 12 mis o amser rhagarweiniol wrth gynllunio ar gyfer ail-hadu, er mwyn sicrhau bod yr amodau ar eu gorau ar gyfer hau. Dylai’r paratoad hwnnw gynnwys samplu pridd i ganiatáu unrhyw gywiriadau angenrheidiol i statws maethynnau, a chynllunio pryd i ddefnyddio chwynladdwr i ymdrin â chwyn lluosflwydd cyn dinistrio’r borfa yn derfynol.
Mae Mr Dunne yn argymell tyfu cnwd seibiannol cyn ail-hadu glaswellt: “Mae ail-hadu o laswellt i laswellt yn gymharol llai dibynadwy, yn enwedig mewn amodau sych, oherwydd y tyweirch a'r plâu sy'n gysylltiedig â hen borfa.''
Mae pymtheg erw o erfin yn cael eu tyfu yn fferm Glanmynys fel cnwd seibiannol i ddarparu porthiant gaeaf i famogiaid beichiog.
Dywedodd Mr Dunne mai ffocws arall yn y rhaglen ail-hadu dylai fod sicrhau bod yr hadau’n cyffwrdd yn dda â’r pridd.
“Rydyn ni’n dod yn llai effeithiol wrth hau glaswellt nag yr oedden ni’n arfer bod, oherwydd bod yna bellach nifer o opsiynau peiriannau sy’n gwneud y gwaith yn haws ac yn gyflymach, ond, o bosibl, y ddolen goll yw sicrhau bod yr hadau’n cyffwrdd yn dda â’r pridd.
“Rydych chi'n gwneud llawer o'ch lwc eich hun gyda hau hadau. Mae'n broses ddrud iawn, ac mae'n werth cofio bod ailhadu effeithiol yn para am flynyddoedd, ond bydd angen ailosod un gwael ymhen dwy neu dair blynedd, oherwydd na fydd yn perfformio.''
Argymhellir gweithredu'n brydlon ar gyfer delio â chwyn mewn caeau sydd wedi’u hailhadu’n ddiweddar: “Nid yw llawer o ffermwyr yn meddwl am reoli chwyn nes bod y chwyn yn rhy bell ar y blaen a bod rheolaeth yn llai effeithiol,” rhybuddiodd Mr Dunne.
Aseswch y glaswellt sy’n dechrau tyfu ac ymyrryd â rheolaethau pan fo’r eginblanhigion chwyn ar eu mwyaf agored i chwynladdwyr dethol – fel arfer, bedair i bum wythnos ar ôl hau.
“Gan nad yw chwynladdwyr yn effeithiol i'w defnyddio ar borfeydd amrywiol iawn, mae angen i ffermwyr confensiynol fod yn sicr o reoli chwyn cyn hau, gan ddefnyddio technegau i waredu chwyn o’r gwely hadau o bosibl hefyd,” meddai Mr Dunne.
Darperir Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes a Lantra Cymru - ariennir y prosiect gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.