28 Mai 2024

Mae mentora Cyswllt Ffermio gan gynhyrchydd sydd wedi sefydlu wedi bod yn allweddol i helpu Geoffrey a Cath Easton, sydd heb unrhyw brofiad o dyfu gwinwydd, i wneud y trawsnewidiad llwyddiannus o ffermio da byw i dyfu grawnwin a chynhyrchu gwin.

Mae Geoffrey a Cath Easton wedi bod yn ffermio yn Fferm Llety, ger Llangynhafal, Sir Ddinbych, ers 32 mlynedd, fel tenantiaid cyngor sir i ddechrau cyn prynu’r fferm bum mlynedd yn ôl.

Roeddent wedi cynyddu nifer y da byw i 700 o ddefaid a 200 o wartheg ond wrth iddynt fynd yn hŷn dechreuodd y llwyth gwaith sy'n gysylltiedig â'r mentrau hynny gynyddu.

“Fe wnes i droi’n 60 mlwydd oed ac roeddwn i'n meddwl “mae hyn yn mynd braidd yn anodd nawr'', doeddwn i ddim yn mwynhau'r gwaith gyda’r defaid ac fe wnaethon ni gytuno bod angen i ni newid ein harferion gwaith,'' cofia Geoffrey.

“Fe wnaethom ddechrau edrych ar rywbeth y gallem ei ddatblygu ac ymddeol yn rhannol.''

Roedd sefydlu gwinllan yn apelio at y ddau ond, fel y mae Geoffrey yn cyfaddef, “nid oedd gennym unrhyw wybodaeth o gwbl ar sut i wneud hynny.''

Roedd gan ffrind iddyn nhw'r wybodaeth ar sut i wneud hynny, a dyna sut y gwnaethon nhw ddechrau arni i ddechrau, trwy sefydlu gwinllan mewn partneriaeth ag ef.

“Roedd ganddo fe'r wybodaeth dechnegol ac roedd gennym ni'r tir,” meddai Geoffrey.

“Mae'r fferm mewn lleoliad godidog, byddai pawb a ymwelodd yn dweud wrthym ba mor wych oedd y lle, felly roeddem yn meddwl y gallem fanteisio ar hynny.''

Gwnaethant gais ar gyfer rhaglen fentora Cyswllt Ffermio i gael cyngor a chymorth gan y tyfwr profiadol Robb Merchant o White Castle Vineyard, ger y Fenni.

Ymwelodd Robb â Fferm Llety ac roedd yn gallu dibynnu ar ei 15 mlynedd o brofiad yn tyfu gwinwydd a chynhyrchu gwin i ddarparu mewnbwn pwysig.

Pan ddaeth y trefniant busnes gyda'u ffrind i ben, roedd angen i Geoffrey a Cath Easton lenwi'r bwlch gwybodaeth a grëwyd gan ei ymadawiad.

Roedd cymorth Robb ar y pwynt hwn yn “allwedd”, meddai Geoffrey. “Roedd yn gwbl hanfodol, roedd gennym ni gymaint i’w ddysgu ac roedd Robb yn gallu ein helpu ni gyda hynny.

“Fe wnaethon ni godi llaw a gofyn iddo “ble rydym ni'n dechrau?''

Gydag arweiniad gan Robb a hefyd yr ymgynghorydd annibynnol, Penny Meadmore, fe aethant ati i blannu mwy o winwydd a bellach mae 4,500 yn y ddaear.

Mae pedwar math o rawnwin - Solaris, Chardonnay, Rondo a Pinot Meunirthey - i gynhyrchu gwin gwyn, coch a gwin pefriog.

Fe wnaeth Geoffrey a Cath gynaeafu eu grawnwin cyntaf yn 2023 ac maent ar fin cynhyrchu'r swp cychwynnol o Offa's Dyke Wines.

Maent yn gweld y flwyddyn gyntaf honno o gynhyrchu fel cromlin ddysgu, gan gyfaddef eu bod ychydig yn siomedig gyda'r cynnyrch.

“Roedden ni'n eithaf dibrofiad o ran yr ochr gynhyrchu, felly doedden ni ddim yn disgwyl gwyrthiau ond mae wedi bod yn wych o ran yr ochr addysgiadol,” meddai Geoffrey.

Bydd y gwin yn cael ei werthu'n uniongyrchol o'r fferm gyda chwsmeriaid yn cael cyfle i gerdded ymhlith y gwinwydd.

Ar drothwy tymor 2024, mae Geoffrey yn dweud bod rhaglen fentora Cyswllt Ffermio wedi bod yn amhrisiadwy.

“Rydym yn mynd i mewn i'r flwyddyn hon gyda llawer mwy o hyder,'' meddai.

Dywed Robb fod y profiad wedi bod yn un cadarnhaol iddo ef hefyd. “Wrth weld Geoff a Cath yn cyrraedd y man lle gallent gynaeafu eu cnwd cyntaf, dyna’r wobr i mi.

“Rwy’n meddwl bod mentora yn ffordd wych o drosglwyddo gwybodaeth. Mae yna bobl rydw i wedi eu mentora nad ydyn nhw’n gwireddu eu cynllun oherwydd maen nhw'n cydnabod efallai nad yw'r llafur llaw a'r buddsoddiad sydd eu hangen ar eu cyfer nhw felly mae'n rhoi boddhad mawr pan ddaw rhywbeth ohono.''
 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Pam y dylai pob fferm yng Nghymru osod nod i gynyddu carbon organig pridd
30 Mai 2024 Bydd lleihau amharu ar y pridd, tyfu cnydau gorchudd
Merched mewn Amaeth Cyswllt Ffermio yn dychwelyd – ac eleni mae ar daith!
29 Mai 2024 Mae merched sy’n gweithio ym myd amaeth ledled Cymru
Rhybuddio ffermwyr i beidio â thorri corneli ar ddiogelwch wrth i bwysau gynyddu i gwblhau gwaith
23 Mai 2024 Bydd ffermwyr dan fwy o bwysau nag erioed yn ystod y