11 Mai 2021

 

Bydd Cyswllt Ffermio’n canolbwyntio ar fentrau arallgyfeirio ‘graddfa fach’ sydd â’r potensial o ehangu, mewn rhaglen o ddigwyddiadau ar-lein wedi eu hanelu at dyddynwyr a ffermwyr sy’n cael eu gwahodd i ‘ymuno’ ar gyfer Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad y Sioe Frenhinol (Mai 15 ac 16) drwy gyfrwng y ffôn, cyfrifiadur neu dabled. 

Ymysg prif themâu Cyswllt Ffermio fel rhan o raglen weithgareddau arfaethedig Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru fydd cadw gwenyn, sy’n gwneud cymaint i wella bioamrywiaeth; menter tyfu blodau a ffrwythau ‘casglu eich hunan’ a sefydlwyd yn ddiweddar yn ystod y cyfnod clo, yn ogystal â chyngor ynglŷn â rhedeg uned foch lwyddiannus o safon uchel.

Dywed Ffion Rees, rheolwr digwyddiadau Cyswllt Ffermio, er nad yw’r sefyllfa wedi bod yn gwbl arferol o safbwynt Cyswllt Ffermio oherwydd cwtogi cymaint o weithgareddau wyneb i wyneb yn sgil y pandemig, mae’r gallu i gyrraedd cynulleidfa drwy gyfrwng digwyddiadau, cyrsiau hyfforddi, gweminarau a phrosiectau ar-lein sy’n benodol i’r sector wedi galluogi’r rhaglen i gefnogi a chadw mewn cysylltiad cyson â miloedd o ffermwyr a choedwigwyr ar hyd a lled Cymru.   

Eleni, bydd rhaglen yr ‘ŵyl wanwyn’ yn cynnwys cyflwyniadau ar-lein am ‘Ddechrau cadw gwenyn’ gan reolwr cyfnewid gwybodaeth Cyswllt Ffermio a’r wenynwraig gymwysedig Lynfa Davies; menter blodau a chasglu eich ffrwythau eich hun newydd a sefydlwyd gan Lucy Owens o Ruthun, mam ifanc brysur ag awch i sefydlu ei busnes newydd ei hun, a chyngor arbenigol i’r rhai sydd eisoes yn cadw moch neu’n awyddus i ddechrau arni.

“Rydym ni wedi dod â nifer o arbenigwyr a mentoriaid at ei gilydd, pob un ohonyn nhw’n hapus i rannu eu profiad a’u doethineb gydag eraill sy’n ystyried sefydlu neu ehangu menter arallgyfeirio,” meddai Ffion.  

Mae Lucy Owens yn wraig ifanc a mam i dri o blant ifanc, ac mae ganddi swydd ran amser ym maes cyfrifon. Yn 2019, wedi i’w phlentyn ieuengaf setlo yn yr ysgol feithrin, penderfynodd Lucy ei bod hi’n barod am her newydd!

“Y trobwynt i fi oedd gwneud cais i Academi Amaeth Cyswllt Ffermio a roddodd ffrindiau newydd i mi, rhwydweithiau newydd o unigolion uchelgeisiol o’r un anian yn ogystal â’r hyder i gredu y gallwn ac y dylwn sefydlu fy musnes newydd fy hun!” 

O wybod fod angen iddi ddod o hyd i rywbeth digon hyblyg i allu cyd-fynd â gofynion teulu ifanc a’i rôl ym maes cyfrifon, penderfynodd Lucy, sydd â gradd mewn amaeth a marchnata o Brifysgol Aberystwyth, y gallai droi ei diddordeb hirsefydlog mewn tyfu ffrwythau, llysiau a blodau ar gyfer y teulu yn ffynhonnell newydd o arian. Dysgwch sut mae prosiect cyfnod clo Lucy o arallgyfeirio i fyd garddwriaeth ar ddarn bychan o dir ar fferm y teulu, sydd wedi’i leoli ar y ffordd dwristaidd brysur rhwng Dinbych a Rhuthun, yn dwyn ffrwyth wrth iddi baratoi ar gyfer ‘diwrnod agored’ Cyswllt Ffermio yn ystod yr haf, ymwelwyr casglu eich ffrwythau eich hun a’i gobaith am gynhaeaf pwmpenni sylweddol yn ystod yr hydref! 

Ynghyd â Menter Moch Cymru, rhaglen Menter a Busnes sy’n anelu at ddatblygu’r sector moch yng Nghymru, bydd y milfeddyg moch arbenigol Bob Stevenson a’r ffermwyr ifanc a’r bridwyr moch blaenllaw Cennydd Jones a Naomi Nicholas sy’n ffermio yng Ngheredigion, yn cyflwyno dwy weminar. Bydd y gyntaf, dan ofal Bob Stevenson yn trafod ystyriaethau wrth brynu moch, yr hyn sydd angen ei osgoi a phrotocolau ynysu ac integreiddio. Bydd yr ail weminar yn rhoi cipolwg o daith Cennydd a Naomi ers cymryd rhan yng nghystadleuaeth pesgi moch Menter Moch Cymru a CFfI Cymru yn 2017.

Bydd Cyswllt Ffermio yn defnyddio rhaglen o gyflwyniadau ar-lein yr ŵyl i hybu’r ddarpariaeth ehangach o gyrsiau hyfforddi sy’n benodol i’r sector a gweithdai iechyd anifeiliaid, modiwlau e-ddysgu, digwyddiadau, gweminarau a phrosiectau arbenigol ar y pynciau hyn a nifer o feysydd ffermio a choedwigaeth eraill. Mae rhagor o fanylion ar gael yma.

Dilynwch Cyswllt Ffermio ar Facebook, Twitter, Instagram ac YouTube er mwyn ymuno â chyflwyniadau Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad CAFC ar adeg sy’n gyfleus i chi ar ôl Mai 15 ac 16.    

Darperir Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, ac mae’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint