29 Mai 2024

 

Mae merched sy’n gweithio ym myd amaeth ledled Cymru yn cael eu gwahodd i ymuno â Cyswllt Ffermio ar 4 taith o ddarganfod. Byddan nhw’n cael golwg mewnol ar rai o fusnesau gwledig mwyaf llwyddiannus Cymru, gan glywed yn uniongyrchol gan yr entrepreneuriaid a'r teuluoedd ffermio sydd â'u straeon ysbrydoledig eu hunain i'w hadrodd. 

Bydd y teithiau Merched mewn Amaeth yn cael eu cynnal ddydd Mercher, 19 Mehefin, 8:30am – 6:00pm.

Byddwch yn ymweld â rhai o’r busnesau a ffermydd gwledig mwyaf llwyddiannus, ac yn clywed straeon ysbrydoledig yn uniongyrchol gan yr entrepreneuriaid a’r teuluoedd ffermio sy’n eu rhedeg. 

Bydd teithiau Gogledd Cymru’n cynnwys ymweliad â fferm deuluol ger Pentrefoelas sy'n rhedeg caffi a busnes glampio; fferm draddodiadol sy'n cynnwys ynni adnewyddadwy, twristiaeth a chynhyrchu dofednod, a gwinllan sy'n cynhyrchu gwinoedd llonydd a phefriog arobryn. 

Byddwn hefyd yn ymweld â fferm deuluol a maes carafanau ger Rhuthun sydd ar hyn o bryd yn brysur yn adeiladu caffi newydd a fydd yn agor ym mis Gorffennaf, gobeithio.

Bydd teithiau Canolbarth a Gorllewin Cymru’n cynnwys ymweliad â fferm laeth ger Tregaron sy'n gweithredu arferion cynaliadwy ac yn edrych i ddiogelu'r busnes at y dyfodol gyda thechnegau adfywiol, a phrosiect arallgyfeirio rhyfeddol yng nghanol cefn gwlad Aberhonddu.

Byddwn hefyd yn ymweld â busnes fferm sy’n cynnig ysgubor hardd y gellir ei harchebu ar gyfer priodasau, digwyddiadau, cyfarfodydd ac encilion, ac sydd hefyd yn cynnig llety godidog yn ei fythynnod hunanarlwyo.

Ac i'r rhai ohonoch chi sydd yn hoff o jin, byddwn yn ymweld â busnes cynhyrchu jin yn ogystal. Y tu hwnt i jin, mae ganddyn nhw hefyd amrywiaeth o eiddo twristiaeth megis cabanau eco, ysguboriau wedi'u haddasu, a ffermdai traddodiadol Cymreig ar y fferm.

Bydd y teithiau hyn yn brofiad gwych, gan ganiatáu ichi rwydweithio â merched sy’n arweinwyr ysbrydoledig mewn gwahanol feysydd ym myd amaeth a’r bywyd gwledig.

Cewch hefyd gwrdd â’ch Swyddog Datblygu lleol ar hyd y ffordd, a all roi gwybodaeth am ba gymorth sydd ar gael drwy Cyswllt Ffermio i helpu eich busnesau i ffynnu.

Bydd dwy daith fws yng Ngogledd Cymru, un yn y canolbarth, a'r llall yng Ngorllewin Cymru. Bydd teithlen fanwl ar gael ar wefan Cyswllt Ffermio ar gyfer y pedair taith.

Dim ond nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael, felly cofrestrwch heddiw! I gael rhagor o wybodaeth neu i gofrestru, ewch i wefan Cyswllt Ffermio neu cysylltwch â Chanolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 03456 000 813 neu’r tîm digwyddiadau – fcevents@menterabusnes.co.uk
 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Pwysigrwydd Cadw Plant yn Ddiogel ar y Fferm
Mae Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru, ochr yn ochr â Lantra
Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies yn clywed sut mae cynllun 'Dechrau Ffermio' Cyswllt Ffermio yn diogelu ffyniant ffermydd teuluol yng Nghymru ar gyfer y dyfodol yn Sioe Frenhinol Cymru eleni.
18 Gorffennaf 2024 “Mae paru tirfeddianwyr sydd am neu angen camu
Cyswllt Ffermio yn cyhoeddi Dosbarth Academi Amaeth 2024
15 Gorffennaf 2024 Mae enwau'r rhai a ddewiswyd i gymryd rhan yn