21 Tachwedd 2019

 

Os byddwch chi’n sylwi ar rywun yn gweithio ar lefel sy’n beryglus o uchel yn y Ffair Aeaf (Maes y Sioe Frenhinol, Tachwedd 25/26), peidiwch â rhuthro draw i’w hannog i ddod i lawr, ond peidiwch â mynd heibio chwaith!

Yr hyn y byddwch wedi’i weld yw ‘mannequin’ Cyswllt Ffermio fydd i’w weld yn glir ar dŵr ‘diogel’ sydd wedi’i godi’n benodol y tu allan i adeilad Lantra (Rhodfa K). Bydd Cyswllt Ffermio a thîm o fentoriaid Diogelwch Fferm cymeradwy yn egluro pam ei bod yn hanfodol gweithredu’r rhagofalon diogelwch cywir, os ydych yn ffermwr neu’n goedwigwr sy’n gweithio ar uchder.  

Yn ôl Glyn Davies, un o lysgenhadon Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru ac sy’n fentor diogelwch fferm Cyswllt Ffermio cymeradwy ei hun, mae’r rhan fwyaf o ffermwyr yn gweithio ar uchder yn eithaf cyson, waeth beth fo’r risgiau.

“Yn hytrach na galw am wasanaeth gweithwyr proffesiynol neu drefnu bod ganddynt yr holl offer diogelwch a argymhellir wrth weithio ar uchder, mae nifer o ffermwyr a choedwigwyr yn meddwl y byddan nhw’n arbed amser ac arian drwy wneud y tasgau eu hunain.  

“Bob blwyddyn mae damweiniau’n digwydd, bob blwyddyn mae nifer ohonyn nhw’n arwain at farwolaeth, a bob blwyddyn mae teuluoedd yn wynebu canlyniadau trychinebus trasiedïau ar y fferm.” 

Galwch heibio i adeilad Lantra am hanner dydd naill ai ddydd Llun, 25 neu ddydd Mawrth 26 Tachwedd, i weld cyflwyniad 20 munud gan arbenigwr, hyfforddwr a mentor adnabyddus Cyswllt Ffermio ar gyfer diogelwch fferm, Brian Rees. Cewch weld arfer dda, dysgu sut y gallwch chi, eich teulu a gweithwyr weithio’n fwy diogel ar uchder ac mae taflen am ddim ar y pwnc ‘Sut olwg sydd ar fferm dda’ o bersbectif diogelwch.

Yn ogystal â hyrwyddo nifer fawr o gyrsiau hyfforddi gyda nawdd llawn neu rannol sy’n addysgu arferion gweithio diogel a’ch annog i drefnu ymweliad cyfrinachol ar y fferm gan fentor diogelwch fferm Cyswllt Ffermio cymeradwy sy’n gallu eich helpu i wneud eich gweithle’n fwy diogel, bydd Cyswllt Ffermio hefyd yn hyrwyddo’r ymgyrch ‘STOP diogelwch’. Bydd yn atgoffa bob gyrrwr a defnyddiwr peiriannau bod pedwar gweithdrefn diogelwch hanfodol y dylech eu gwirio bob amser cyn gadael unrhyw gerbyd sy’n symud neu wneud gwaith cynnal.

“Codwch y brêc llaw; rhowch y peiriant yn niwtral; diffoddwch yr injan a thynnwch yr allweddi allan o’r cerbyd. Mae’r rhain yn weithdrefnau sylfaenol iawn y dylid eu gwneud yn awtomatig, eto i gyd bob blwyddyn mae ffermwyr yn rhuthro, yn anghofio gwneud y pedwar cam hanfodol yma a bob blwyddyn rydym yn clywed am ddamweiniau sy’n bygwth bywydau a marwolaethau’n gysylltiedig â cherbydau sy’n symud ar ffermydd,” meddai Mr. Davies.

Mae CLA Cymru yn rhan o ymgyrch Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru a byddant yn hyrwyddo’r negeseuon am ddiogelwch fferm yn eu stondin yn y Ffair Aeaf, yn eu cylchlythyr a thrwy negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae trefnwyr y digwyddiad, Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, sydd hefyd yn aelod o Bartneriaeth Diogelwch Fferm Cymru, wedi anfon llythyr at holl fasnachwyr Cerbydau ATV cymeradwy eleni, yn gofyn iddynt annog arferion diogel trwy arddangos bob ATV gyda helmed, a hybu hyfforddiant ATV, sydd ar gael trwy Cyswllt Ffermio a’r Sefydliad Diogelwch ATV Ewropeaidd (EASI). 

Gan aros gyda thema ATV, mae CFfI Cymru, sy’n bartner i Bartneriaeth Diogelwch Fferm Cymru wedi codi eu gweithgareddau hyrwyddo i fyny lefel yn uwch eleni gyda chystadleuaeth wedi’i noddi gan Max Herbert o Quad Bike Wales, fydd yn rhoi ATV newydd sbon i’r enillydd ei ddefnyddio am flwyddyn! Mae’r cyfnod ymgeisio wedi dod i ben ond beth am fynd draw i weld yr holl gyffro wrth i’r ymgeiswyr gystadlu yn erbyn ei gilydd a dangos eu gallu i yrru ATV yn ddiogel. Cynhelir y gystadleuaeth mewn man penodol rhwng  Maes B ac Adeilad y Geifr rhwng 1pm a 3pm ddydd Llun, 25 Tachwedd a rhwng 10am a 11.30am ddydd Mawrth, 26 Tachwedd.

Am fwy o wybodaeth am Iechyd a Diogelwch, ewch ar wefan Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch


Related Newyddion a Digwyddiadau

Sut gwnaeth sicrhau mentor rymuso tyddynwyr gydag arweiniad a gwybodaeth
27 Mawrth 2024 Fel recriwtiaid newydd i amaeth-goedwigaeth a
Fferm Laeth Cwmcowddu yn Gwella Effeithlonrwydd Porthiant, gan Hybu Proffidioldeb a Chynaliadwyedd
25 Mawrth 2024 Mae Cwmcowddu, fferm gymysg yn Llangadog yng
Gall cyrsiau hyfforddiant Cyswllt Ffermio helpu i gyflawni datblygiad personol a chryfhau arferion fferm
21 Mawrth 2024 Enillodd Julie Davies, sy’n bartner gweithredol yn