Mae'n amser cyffrous i gynhyrchwyr defaid yng Ngogledd Cymru sy’n cydweithio gyda chwmni prosesu bwyd gwerth miliynau, Roberts of Port Dinorwic, yn eu hymgais i gyflwyno cig oen Cymru (Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig) (PGI) o’r safon uchaf i farchnad y DU mewn amrywiaeth newydd o brydau parod.
Dywedodd Ms Miriam Williams, Cyfarwyddwraig cwmni Roberts, sy’n cyflenwi cwmnïau gwasanaeth bwyd, siopau manwerthu, tafarndai, bwytai a grwpiau hamdden drwy’r Deyrnas Unedig, wrth y grŵp y gallai eu cig oen safonol fod yn un o gynhwysion craidd perffaith y farchnad prydau parod sy’n tyfu’n gyflym.
Daeth ‘Ffermydd Teuluol - Family Farms’, yr enw a fabwysiadwyd gan y grŵp fel brand, at ei gilydd am y tro cyntaf y llynedd, diolch i gymorth gan raglen Agrisgôp Cyswllt Ffermio, sy’n cefnogi ffermwyr i ddatblygu syniadau i’w helpu i gynnal busnesau cynaliadwy, hyfyw.
Aeth Aaron Hughes ati i sefydlu’r grŵp Agrisgôp mewn ymateb i bryderon yn y diwydiant fod gostyngiad sylweddol bob blwyddyn yn nifer y bobl a oedd yn bwyta cig oen yn y Deyrnas Unedig a gwyddai am nifer o ffermwyr a oedd yn poeni sut gallai hynny effeithio ar hyfywedd eu busnesau yn y dyfodol.
“Roedd pob un ohonom yn cynhyrchu cig oen o safon, ond er mwyn cynyddu lefel gwerthiant, roedd angen i ni ystyried y ffordd orau i ychwanegu gwerth trwy ymchwilio i wahanol opsiynau prosesu a chyfleoedd yn y farchnad,” meddai Michael Jones, aelod o’r grŵp, sy’n ffermio yn Llandegai ger Bangor.
“Roedd y cymorth cychwynnol hwnnw gan Agrisgôp yn allweddol i’n datblygiad. Nid yn unig cawsom fanteisio ar wasanaethau eraill gan Cyswllt Ffermio a oedd yn cynnig cymhorthdal, fel cyngor technegol a busnes a chynllunio rheolaeth maeth, ond cyfeiriodd Aaron ni at sefydliadau cymorth eraill ac arbenigwyr busnes a roddodd yr hyder a’r wybodaeth i ni baratoi ein cynllun busnes ein hunain,” meddai Mr. Jones.
Mae’r grŵp, a gafodd sylw’n ddiweddar fel un o’r straeon llwyddiant mewn rhaglenni teledu ar Gymru ar ôl datganoli, a gyflwynwyd gan Huw Edwards, yn teimlo bod y gwasanaethau cymorth busnes i ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd yng Nghymru, a ariennir drwy Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, yn amhrisiadwy.
Cawsant grant i gynnal ymchwil cyn-fasnachol i’r farchnad gan Conwy Cynhaliol, sy’n gyfrifol am greu dyfodol llwyddiannus i gefn gwlad Conwy. Yng Nghanolfan Technoleg Bwyd yn Llangefni cawsant gymorth i wneud y dewis terfynol, sef peli a byrgyrs cig o blith nifer fach o gynhyrchion cig oen a hefyd cafwyd mynediad at gyfleusterau prosesu. Cynigiwyd cymorth gan Cywain, prif asiantaeth cymorth marchnata bwyd yng Nghymru, ar sut i frandio a phecynnu a rhoddwyd cymorth i brofi’r cynnyrch ar y farchnad a lansio eu peli a’u byrgyrs cig oen mewn sioeau amaethyddol a digwyddiadau bwyd yn ystod yr haf hwn. Hefyd roedd cynhyrchion y grŵp ar stondin HCC yn Sioe Frenhinol Cymru.
Mae Mr. Jones a holl aelodau eraill y grŵp yn cytuno bod elwa ar arbenigedd cwmni prosesu lleol wedi rhoi ymdeimlad calonogol dros ben ar gyfer y dyfodol.
“Rydym yn ddiolchgar am gael gweithio mewn partneriaeth â’r cwmni lleol hynod o lwyddiannus hwn, ac rydym yn optimistaidd ynglŷn â’r posibilrwydd o gynyddu nifer yr ŵyn yr ydym yn eu cadw, yn ogystal â chreu cyfleoedd newydd i gynhyrchwyr cig oen PGI o’r safon gorau drwy Gymru,” meddai Mr. Jones.
“Rydym yn edrych ymlaen i dreialu nifer o brydau parod, a fydd yn cael eu gweini gyda dewis o sawsiau blasus yn cynnwys rhosmari a gwin coch, blas cyrri a Morocaidd i rai o’u prif brynwyr yn y Deyrnas Unedig.
Ychwanegodd Ms Miriam Williams,
“Dyddiau cynnar ydi hi o hyd, ond rydym wedi derbyn ymateb positif gan nifer o ein cwsmeriaid mwyaf”