31 Ionawr 2022

 

Mae busnes yn edrych yn ddisglair ar gyfer bron 4,500 o fusnesau fferm a choedwigaeth yng Nghymru sydd wedi cael cymorth drwy Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio, gyda bron i 7,000 o geisiadau am gymorth eisoes wedi’u cwblhau gan y gwasanaeth.Dyma ‘flaengarwyr’ y diwydiant – yr unigolion sy’n ymwybodol o’r datblygiadau diweddaraf ac yn gwybod pa newidiadau y dylent eu gwneud i wella perfformiad ariannol eu busnes, pryd i’w gwneud a faint mae’n mynd i gostio!

Mae bron i 90% o fusnesau fferm a choedwigaeth yn gweithredu’r argymhellion a nodir yn eu hadroddiad Gwasanaeth Cynghori o fewn y 12 mis cyntaf o dderbyn cyngor. Mae Eirwen Williams, pennaeth rhaglenni gwledig gyda Menter a Busnes (sy’n darparu Cyswllt Ffermio ar y cyd â Lantra Cymru ar ran Llywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig), yn benderfynol o rannu’r neges hon gyda phawb sy’n gweithio yn y diwydiant ac sydd heb fanteisio ar y gwasanaeth eto.

Bydd y Gwasanaeth Cynghori yn ganolbwynt y sylw ar draws holl sianeli cyfryngau cymdeithasol a llwyfannau digidol Cyswllt Ffermio'r wythnos hon. Gyda’r enw ‘Wythnos Cynghori’, y nod yw hoelio sylw ffermwyr a choedwigwyr sydd wedi’u cysylltu â sianeli’r sefydliad ar bob agwedd ar y gwasanaeth, gan gynnwys cynllunio busnes ac arallgyfeirio.  .

“Rydym am estyn allan at bob busnes fferm a choedwigaeth sydd heb gomisiynu cynllun busnes neu cymorth technegol eto,, oherwydd bod y gwasanaeth hwn bellach yn gwneud cymaint i helpu i drawsnewid effeithlonrwydd, proffidioldeb a chynaliadwyedd miloedd o fusnesau yng Nghymru.”

“Bydd cynllun busnes wedi’i deilwra i’ch anghenion yn rhoi darlun clir i chi o broffil presennol eich busnes, ac yn cwmpasu cynllunio ar gyfer y dyfodol, rheolaeth busnes ac ariannol, yn ogystal â meysydd technegol sy’n ymwneud â thir a da byw,” meddai Mrs Williams.

Gall ffermwyr a choedwigwyr cofrestredig wneud cais am gymhorthdal o hyd at 80% ar gyfer cynllun busnes, lle byddant yn derbyn cyngor arbenigol un-i-un cyfrinachol gan ymgynghorydd cymeradwy.

“Gall cynllun busnes  eich helpu i leihau costau drwy gynyddu effeithlonrwydd ar draws pob maes o’ch busnes; byddwch yn gallu meincnodi eich perfformiad a gweithio tuag at gynnydd a thwf, gan nodi meysydd i’w gwella a chanfod atebion i broblemau.”

I gael rhagor o wybodaeth am y Gwasanaeth Cynghori a chynllunio busnes, cysylltwch â’ch swyddog datblygu lleol neu Ganolfan Gwasanaeth Cyswllt Ffermio ar 08456 000 813. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg. Am ragor o wybodaeth ac arweiniad i helpu’ch busnes i gyrraedd ei lawn botensial, cliciwch yma.

Darperir Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, ac fe’i ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Coeden a dyfir ar fferm Rhwydwaith Coed Nadolig Cyswllt Ffermio yn cyflenwi Rhif 10
19 Tachwedd 2024 Mae gan fusnes o Bowys sy'n aelod o rwydwaith o
Estyn allan i’r genhedlaeth iau – Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru yn targedu’r ifanc mewn ymgais i wneud ffermydd Cymru yn fwy diogel
18 Tachwedd 2024 Nid yw bob amser yn hawdd dweud wrth ffermwr
Gwella’r gallu i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd drwy gyrsiau Cyswllt Ffermio
13 Tachwedd 2024 Gall hyfforddiant a sgiliau newydd helpu