Mae parhau i gael mynediad at y farchnad sengl, polisi hyfforddiant ac addysg wledig integredig a pheryglon lleihad mewn cefnogaeth ariannol i ffermwyr yn rhai o’r materion allweddol sy'n wynebu busnesau fferm yng Nghymru.   

Dyma rai o'r canfyddiadau allweddol a amlinellir mewn adroddiad newydd gan grŵp o dros 20 o ferched sydd wedi derbyn cefnogaeth gan Agrisgôp, rhaglen datblygu rheolaeth Cyswllt Ffermio. Cyflwynwyd yr adroddiad i Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig mewn cyfarfod ym Mae Caerdydd yn ddiweddar. 

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet ei bod yn falch iawn i gwrdd â'r merched, pob un ohonynt yn gweithio ym maes amaethyddiaeth yng Nghymru, ac y byddai'n astudio eu hadroddiad yn eiddgar.

 

farming connect women in agriculture group
 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Grwp o ferched sy’n gweithio o fewn amaeth yng Nghymru a gefnogwyd drwy Agrisgôp, rhaglen datblygu rheolaeth Cyswllt Ffermio a gyflwynodd eu hadroddiad ‘Barn am Brexit’ i Lesley Griffiths, Ysgrifennydd Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig mewn cyfarfod ym Mae Caerdydd yn ddiweddar.

Yn eistedd o’r chwith i’r dde mae:
Einir Davies, Rheolwr Datblygu a Mentora, Cyswllt Ffermio
Helen Minnice Smith, sy’n arwain ar bolisi Merched mewn Amaeth Llywodraeth Cymru, Ysgrifennydd Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, Fran Blockley o Lanidloes ac Alison Harvey o Dregaron, aelodau o’r grwp Merched mewn Amaeth.

 

Yn sefyll o’r chwith i’r dde mae gweddill aelodau’r grwp Merched mewn Amaeth;

Mared Jones o Lambed, Moira Williams o Aberhonddu, Ruth Jones-Sedcole o Rhuthun, Nerys Llywelyn Jones o Lanwrda, Eleri Jones o Lanarth, Ros Raymond o Dreletert, Mair Jones o Lanarth, Alice Lampard, Arweinydd Agrisgôp o Landeilo, Wendy Jenkins o Lambed, Anwen Hughes o Lanarth, Sally Herdman, Arweinydd Agrisgôp Leader o’r Gelli Gandryll, Selena Burns o Gorwen, Pip Nicholas-Davies, Sandra Bellis o Wrecsam a Fiona Faire o Rhuthun. 

 

“Wrth i ni baratoi ar gyfer dyfodol tu allan i’r UE, mae’n hanfodol ein bod yn clywed safbwynt cymaint o bobl â phosibl er mwyn sicrhau bod polisïau amaethyddol Cymru at y dyfodol o fantais i bawb o fewn y diwydiant, nid cyfran fechan yn unig.

 “Nid oes cynrychiolaeth ddigonol o ferched mewn safleoedd uwch ym maes amaethyddiaeth ac nid yw eu lleisiau bob amser yn derbyn y sylw haeddiannol.  Mae’n rhaid i ni wneud mwy i godi proffil merched trwy wella eu sgiliau, hyder a sicrhau bod y systemau cefnogi perthnasol mewn lle. Dyna’r ffordd orau i ni gyflawni ein gweledigaeth gyffredin o ddiwydiant amaeth ffyniannus a gwydn sy'n hyrwyddo lles Cymru heddiw ac yn y dyfodol," meddai'r Ysgrifennydd Cabinet.

Gan weithio mewn tri grŵp rhanbarthol, mae’r merched dynamig ac uchelgeisiol yma wedi cydweithio dros y flwyddyn ddiwethaf i gynhyrchu’r adroddiad a fydd nawr yn cyfrannu at y drafodaeth y mae Llywodraeth Cymru eisoes yn ei gael gyda rhanddeiliaid allweddol eraill, ac a fydd yn dylanwadu’n uniongyrchol ar ddatblygiad Polisi Amaethyddol i Gymru ar ôl Brexit.

Mae pob grŵp yn cael eu hwyluso gan arweinwyr Agrisgôp cymwys, sy’n gweithio gydag unigolion o'r un meddylfryd i ddatblygu syniadau a chynigion busnes trwy'r broses o ddysgu gweithredol, a daeth nifer o'r merched ynghyd yn ystod un o fforymau blynyddol 'merched mewn amaeth' Cyswllt Ffermio'r llynedd, pan estynnodd yr Ysgrifennydd Cabinet wahoddiad i'r mynychwyr sefydlu eu fforymau rhanbarthol eu hunain ac i roi eu safbwynt o ran materion allweddol sy'n wynebu'r diwydiant heddiw.    

Mae Alice Lampard yn arweinydd Agrisgôp ac yn ffermwr, sy’n arwain grŵp sy’n cwrdd yn rheolaidd yn Ne Orllewin Cymru ers dechrau'r flwyddyn. Pwysleisiodd Alice bwysigrwydd galluogi ac annog merched i sicrhau bod eu lleisiau a'u barn yn cael eu clywed a'u gwerthfawrogi yn ystod y cyfnod pwysig hwn. 

 “Cydnabyddir bod gan ferched rôl ddylanwadol tu hwnt mewn nifer o fusnesau fferm.   Nhw fel arfer yw’r arwyr tawel. Mae disgwyl iddynt gyflawni ymrwymiadau'r fferm a’r gwaith ynghyd â dyletswyddau teuluol, ac ni fu adeg bwysicach erioed i ni ddod at ein gilydd a lleisio ein barn.

 “Mae cyfle i Gymru arwain y gad mewn meddylfryd a datblygu polisïau yn nhermau’r Polisi Amaethyddol Prydeinig newydd a pholisi i Gymru fydd yn codi o ganlyniad i hynny ac yn eistedd ochr yn ochr â’r polisi Prydeinig.

 

“Mae'r adroddiad newydd hwn yn adnabod yr heriau sylweddol a fydd, heb os, yn ein hwynebu, gan amlinellu argymhellion ynglŷn â'r hyn y gallai'r diwydiant ei wneud i fanteisio ar y cyfleoedd a fydd hefyd, gobeithio, o fewn ein cyrraedd,” meddai Ms Lampard.

Crynhowyd y pynciau trafod a dderbyniodd y sylw mwyaf dan saith pennawd penodol sef masnach; addysg; cefnogaeth ariannol; iechyd a lles anifeiliaid, themâu trawsbynciol gan gynnwys polisi cynllunio; band eang a gwasanaethau cefnogi gwledig; marchnata a deddfwriaeth. 

Yr arweinydd Agrisgôp a'r arbenigwr ariannol, Sally Herdman, fu'n arwain grŵp merched y De Ddwyrain.

 “Mae’r economi gwledig yn enwedig o fregus gyda dibyniaeth helaeth ar swyddi yn y sector cyhoeddus. Mae Brexit caled sy’n arwain at economi gwledig sy’n cael ei gyfyngu, ynghyd â mesurau darbodus pellach yn rhoi gweithwyr benywaidd mewn sefyllfa fregus.

 “Bydd perthynas weithio agosach ynghyd â gwell cyfathrebu rhwng y diwydiant a Llywodraeth Cymru yn gatalydd er mwyn sicrhau bod Cymru'n cael ei gynrychioli wrth fwrdd negodi Llywodraeth y DU, ac rwy'n falch iawn bod Agrisgôp wedi gallu cefnogi'r grwpiau hyn a sicrhau bod safbwynt merched yn cael ei ystyried," meddai Ms. Herdman.

I ddarllen yr adroddiad ‘Barn am Brexit’ yn ei gyfanrwydd, cliciwch yma. 

'Dyddiadau ar gyfer y dyddiadur'.  Bydd Cyswllt Ffermio yn trefnu dau fforwm ‘Merched mewn Amaeth' yr hydref hwn.   Cynhelir y cyntaf ym Mhortmeirion dydd Mawrth 19eg Medi a'r ail yng Nghastell Aberteifi ddydd Iau 21ain Medi. Bydd rhagor o fanylion ar gael yn fuan ar ein gwefan. 

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint
Fferm laeth yr ucheldir yn treialu cymysgedd hadau gwndwn llysieuol sydd wedi'u sefydlu gyda hau yn uniongyrchol
16 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yr ucheldir yng Nghymru yn ceisio
Ffermwr llaeth sy’n manteisio ar ‘Gyllid Arbrofi’ yn ceisio gwella bioleg y pridd
15 Ebrill 2024 Mae ffermwr llaeth yn cyflwyno cannoedd o