08 Rhagfyr 2024

Mae pum aelod o CFfI Cymru wedi cael gwybodaeth werthfawr ynglŷn â chynhyrchu a rheoli moch diolch i raglen hyfforddiant ddwys a ddarparwyd gan Cyswllt Ffermio.

Mae menter Prif Gynhyrchydd Porc CFfI Cymru yn ceisio annog mwy o aelodau i ymuno â'r diwydiant moch, fel bridwyr newydd ac yn fasnachol.

Yn 2023, gwelwyd pum aelod yn magu perchyll cyn eu cyflwyno ar gyfer cystadleuaeth yn y Ffair Aeaf.

Farmers a valuable understanding of pig production

Bu i Cyswllt Ffermio chwarae rhan bwysig yn y broses drwy gyflwyno sesiynau hyfforddiant ‘dosbarth meistr’ pwrpasol i’r grŵp - Rose Lewis (Brycheiniog), Cerys Thomas (Ceredigion), Lowri Jones (Sir Gaerfyrddin), Sophie Bennet (Gwent) a Gwern Thomas (Ceredigion).
 
Bu iddynt ddysgu am hwsmonaeth moch gyda chyngor ymarferol ar drin, pwyso a rhoi brechlynnau.

Arweiniodd y milfeddyg Lucy Chubb, o Farm First Vets, y sesiwn hon ar Fferm Cefn Coch, Rhaglan, a bu iddi arwain sesiwn arall ar atal clefydau a sicrhau iechyd a lles moch da.

Roedd yna sesiynau rhithwir hefyd, un ar farchnata gyda Nicola Merriman o Landsker Business Solutions yn rhoi awgrymiadau ar sut i adeiladu brand.

Rhoddodd Cate Barrow, o ADAS, ganllawiau ar gynllunio busnes mewn sesiwn arall, gan gynnwys sut y gall paratoi cynllun busnes helpu gyda cheisiadau am grantiau a benthyciadau, yn ogystal â’r gwahanol gyfleoedd ar gyfer dechrau ffermio moch, o’r model gwely a brecwast i ‘borchell i besgi’, yn ogystal â rhesymau eraill dros gael moch ar y fferm, megis at ddibenion adfywio.

Disgrifiodd Lee Pritchard, Swyddog Materion Gwledig CFfI Cymru, y cymorth a roddwyd gan Cyswllt Ffermio fel “cymorth a oedd yn hynod werthfawr”.

“Fel mudiad rydym yn hynod ffodus i gael cymorth Cyswllt Ffermio i alluogi ein haelodau i ddod i mewn a ffynnu yn y sector moch,” meddai.
 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Astudiaeth Cyswllt Ffermio yn taflu goleuni newydd ar statws iechyd y pridd mewn caeau tir âr
03 Mawrth 2026 Mae nifer o gaeau sy'n cael eu ffermio mewn
Mae profion genomig yn datgloi potensial llawn buches groesfrid yng Nghymru
26 Chwefror 2026 Mae profi heffrod croesfrid a buchod sy’n
Da i’r blaned, i’r da byw ac i’r busnes
Mae’r ffermwr pedwaredd genhedlaeth, Dylan Jones, yn glir nad oes