9 Mawrth 2021

 

Mae haneru’r cyfraddau cloffni o lefel uchaf o 49% wedi arwain at fod fferm laeth yng Nghymru wedi arbed dros £25,000 y flwyddyn mewn costau.

Roedd fferm Graig Olway, ger Brynbuga, wedi bod yn brwydro yn erbyn dermatitis digidol a briwiau ar wadnau traed ei buches o 170 o wartheg Holstein cynhyrchiol sy’n cael eu godro mewn system awtomatig. 

Pan ddechreuodd yn ei rôl fel safle arddangos i Cyswllt Ffermio un o’r prif flaenoriaethau oedd mynd i’r afael â chloffni.

O ganlyniad i waith prosiect Cyswllt Ffermio â’r milfeddyg Sara Pedersen, mae’r lefelau cloffni i lawr i 24% ac mae hyn yn golygu bod y ffermwr Russell Morgan ar y trywydd iawn i gyrraedd y targed y mae arno angen ei gyrraedd er mwyn cael gwell cytundeb llaeth.

Dechreuodd y prosiect ym mis Ionawr 2020 ar adeg pan oedd 39% o’r fuches yn gloff, gan gynnwys 25% o’r heffrod.

Roedd y sefyllfa yn costio £50,370 y flwyddyn i’r busnes oherwydd bod llai o laeth yn cael ei gynhyrchu, ffrwythlondeb gwael, prisiau is am wartheg difa a thriniaethau; cafodd hyn ei gyfrifo gan Ms Pedersen, sy’n arbenigwr mewn iechyd a chynhyrchiant gwartheg. 

“Mae cloffni yn cael ei gysylltu â chynifer o wahanol agweddau ar iechyd a chynhyrchiant y fuches,” meddai wrth ffermwyr a oedd yn gwrando mewn gweminar Cyswllt Ffermio yn ddiweddar.

Amcangyfrifir bod y cynhyrchiant a gollir mewn buwch sy’n ddifrifol gloff sydd â sgôr o 3 yn £4.50/dydd ac yn £1.50/dydd mewn buwch gloff sydd â sgôr o 2.

Ar ddechrau’r prosiect tair blynedd, roedd gan Mr Morgan 10 buwch a oedd â sgôr o 3 a 62 a oedd â sgôr o 2.

Cafodd Rhaglen Traed Iach AHDB ei rhoi ar waith a sefydlwyd cynllun gweithredu; roedd hwn yn cynnwys triniaeth ‘ddwys’ yn erbyn dermatitis digidol, wedyn trefn fwy effeithiol o roi triniaeth bath traed i gadw’r lefelau heintiau’n isel.

Gyrrwyd y buchod a oedd yn godro drwy’r bath traed bedair gwaith yr wythnos a’r buchod sych a’r buchod sydd yn y cyfnod trawsnewid dair gwaith yr wythnos.

Ychydig iawn o achosion o ddermatitis digidol sydd i’w gweld bellach. “Mae’n syndod inni pan ddown ar draws dermatitis digidol wrth drimio traed,” meddai Ms Pedersen, o Farm Dynamics.

Un o’r mesurau a gymerwyd i ddelio a briwiau ar y gwadnau oedd adnewyddu’r matresi yn y ciwbiclau, i annog y buchod i orwedd mwy.

Mae briwiau ar y gwadnau yn datblygu o ganlyniad i sefyll gormod a, gan nad oedd y matresi yn gyfforddus iawn, nid oedd y buchod yn gorwedd digon.

Gosodwyd y matresi newydd yn ystod haf 2020. “Mae’n cymryd amser i fuchod ddysgu gorwedd unwaith eto, ond nawr eu bod nhw, maent yn llawer mwy cyfforddus ar eu traed, yn lanach ac mae hynny’n golygu llai o ddermatitis digidol hefyd,” meddai Ms Pedersen.

I awyru’r sied yn well, tynnwyd yr estyllod pren o’i hamgylch ac ailosodwyd y ffaniau. 

Mae’r drefn trimio traed wedi cael ei gwella i sicrhau bod y buchod yn cael eu cyflwyno i drimio’u traed pan fo angen a chaiff heffrod cyn lloia eu cynnwys hefyd yn awr. 

Bu’n holl bwysig gallu gweithio’n agos â’r trimiwr traed Alan Colebatch sydd wedi’i gymeradwyo gan y Bwrdd Safonau Gofal Carnau Gwartheg, ac mae cadw mewn cysylltiad clos â’r tîm wedi helpu i lywio penderfyniadau ar brotocolau ac ymyraethau pellach, meddai Ms Pedersen.

I helpu hyn, mae partner Mr Morgan, Sarah Smith, yn gwneud archwiliadau sgorio symudedd bob pythefnos, er mwyn gallu gweld problemau cloffni pan maent yn dechrau ymddangos, cyn i’r briwiau ddatblygu.

“Rydym eisiau sicrhau ein bod yn dal pob buwch yn ddigon cynnar cyn i bryder am ei thraed fynd yn broblem ac o’r herwydd, rydym wedi gosod ein sensitifrwydd yn uchel iawn – byddai’n well gennym roi deg buwch drwy’r craets gwartheg a thrin wyth na rhoi wyth drwyddo a methu dwy,” meddai Ms Pedersen. 

Ei chyngor gorau i ffermwyr yw buddsoddi mewn gefail profi carnau i ganfod problemau’n gynnar – mae’r rhain yn costio tua £20.

“Bob tro’r ydych chi’n gweld buwch rydych chi’n meddwl ei bod yn ddolurus, profwch hi, mae’n siŵr o roi gwybod ichi os yw hi mewn poen,” meddai Ms Pedersen.

Yn ystod haf 2020, cyrhaeddodd yr achosion o gloffni yng Nghraig Olway benllanw ar 49% o ganlyniad i straen gwres.

Ond aethpwyd i’r afael â hyn drwy ddefnyddio data i benderfynu pa fuchod i’w trimio a’u trin, a llwyddwyd i leihau’r achosion i’w lefelau presennol o 24%; ac ni chafwyd achosion o friwiau ar wadnau traed y gwartheg yn y pum mis diwethaf.

“Pob clod i Russell a’i dîm am fynd ati o ddifrif i wella’r triniaethau i’r gwartheg a’u gwneud yn fwy cyfforddus, maent bellach wedi cyrraedd yr ochr draw i rai o’r sialensiau mawr,” meddai Ms Pedersen.

Wrth i’r prosiect fynd yn ei flaen, bydd y ffocws yn symud at wella’r llif aer rhag bo’r achosion o gloffni yn cynyddu’r haf hwn ac at ddifa buchod sydd â chloffni cronig pan fo heffrod yn ymuno â’r fuches.

“Ein targed yw cael cloffni mewn llai na 10% o’r fuches, ac rwyf wir yn credu y gallwn wneud hynny o fewn amserlen y prosiect,” meddai Ms Pedersen.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint
Fferm laeth yr ucheldir yn treialu cymysgedd hadau gwndwn llysieuol sydd wedi'u sefydlu gyda hau yn uniongyrchol
16 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yr ucheldir yng Nghymru yn ceisio
Ffermwr llaeth sy’n manteisio ar ‘Gyllid Arbrofi’ yn ceisio gwella bioleg y pridd
15 Ebrill 2024 Mae ffermwr llaeth yn cyflwyno cannoedd o