5 Chwefror 2020

 

Mae gwaith samplu pridd ar fferm ffrwythau a llysiau yng Nghymru wedi dangos y manteision sydd ar gael drwy gynllunio rheolaeth y maetholion mewn garddwriaeth.

Mae Claudia Lenza yn tyfu ffrwythau a llysiau ar 7.6 hectar (ha) yn Llanfihangel Crucornau yn Sir Fynwy.

Y brif fenter sydd ganddi ar The Fruit Farm yw perllan sy'n tyfu 3.2ha o afalau bwyta. Mae hi hefyd yn tyfu 0.6ha o ellyg ynghyd â ffrwythau meddal sy’n cynnwys mefus, mafon, mafonfwyar, cyrens duon, cyrens cochion, eirin Mair a mwyar duon.

Mae yna ardal lysiau hefyd o 1ha lle mae'n tyfu amryw o gnydau gan gynnwys pwmpenni, brocoli, ffa, bresych a saladau.

Mae'r cynnyrch yn cael ei werthu'n bennaf mewn siop fferm ar y safle, ac mae'r fferm yn gweithio tuag at ardystiad organig. 

Gydag 80% o’r costau’n cael eu hariannu drwy Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio, cafodd samplau pridd eu cymryd mewn mannau strategol ar draws y fferm i lywio’r gwaith i gynllunio rheolaeth maetholion yn y berllan a'r mannau sy’n tyfu ffrwythau meddal a llysiau; cymerwyd 20 o samplau i ymdrin â phob parth tyfu.

Dywed Dr Delana Davies, Swyddog Technegol Cyswllt Ffermio, bod gwybodaeth gywir am statws y maetholion yn y pridd yn bwysig wrth ichi dyfu unrhyw gnwd, ond yn arbennig felly yn achos menter garddwriaeth sy'n tyfu amrywiaeth o ffrwythau a llysiau mewn lle cryno.

"Mae'n bwysig cydnabod bod gan wahanol gnydau ofynion amrywiol o ran maetholion, a bod iechyd a chynhyrchiant y cnwd yn dibynnu ar ateb yr anghenion hynny," meddai. 

Gyda set gyflawn o ganlyniadau’r maetholion sydd yn y pridd ym mhob ardal dyfu, mae’n bosibl gwneud argymhellion manwl i bob llain yn ôl y cnwd sydd am gael ei dyfu a chydbwysedd y pridd.

Wrth ddadansoddi’r samplau a gymerwyd yn The Fruit Farm, edrychwyd ar pH y pridd, ffosfforws (P), potasiwm (K) a magnesiwm (Mg).  

Mae lefelau delfrydol ar gyfer pH y pridd yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y planhigyn yn cymryd cymaint â phosibl o faetholion ohono, ac eto i gyd, roedd yr holl samplau o The Fruit Farm yn is na’r targed a argymhellir, sef 6.5, gan amrywio o 4.4 i 5.7. 

"Yr argymhelliad oedd defnyddio pum tunnell yr hectar (t/ha) o galchfaen daear drwy ei daenu ar yr wyneb yn y fan lle mae’r gwreiddiau’n tyfu yn y perllannau a thrwy ei aredig i mewn i'r llain lysiau,” meddai’r Dr Davies. 

Un o brif rolau P mewn planhigion yw hwyluso'r trosglwyddiad egni; mae P yn bwysig o ran ysgogi twf cynnar y planhigion a chyflymu aeddfedrwydd. Y mynegai P gorau o safbwynt maint y cnwd yw 2 yn achos ffrwythau a 3 yn achos llysiau.

Yr argymhelliad oedd na ddylai P, gwrteithiau na thail organig gael eu chwalu ar y 35% o’r tir lle roedd y mynegai P yn 4 neu'n uwch, yn ôl Dr Davies.

"Mae’r eithriadau'n cynnwys cnydau fel salad deiliog, merllys, seleri a hopys lle gall fod yn briodol chwalu P ar fynegai o 4.” 

Drwy brofi’r pridd, tynnwyd sylw hefyd at dir lle roedd mynegai P rhy uchel yn peri risg o drwytholchi; ni ddylai gwrtaith sy'n cynnwys P gael ei chwalu nes bod y mynegai wedi gostwng i 3.

Mae K yn gysylltiedig â symudiadau dŵr, maetholion a charbohydradau drwy feinwe planhigion a’r mynegai gorau posibl o ran maint y cnwd a defnyddio maetholion eraill yw 2+.

Ar y cyfan, roedd lefelau’r K ym mhridd The Fruit Farm yn ddigonol i uchel. Dim ond 35% o’r samplau oedd ychydig yn isel. 

Mewn system organig, mae angen sicrhau caniatâd gan y corff ardystio cyn ichi gael defnyddio mathau cymeradwy o botash wedi’i brynu, megis sylvinite.

Dywed Dr Davies bod angen mynegai o 0 fel rheol er mwyn dangos bod angen y caniatâd arbennig yma.

Mg sy’n ffurfio craidd canolog y cloroffyl ym meinwe’r planhigyn, felly os yw’n ddiffygiol fe fydd twf y planhigyn yn wael ac yn grebachlyd. 

Mae magnesiwm hefyd yn helpu i danio systemau ensymau penodol sy’n hybu metabolaeth arferol y planhigyn. 

Y mynegrif gorau o ran magnesiwm yn y pridd yw 2. Roedd yr holl samplau a gymerwyd yn The Fruit Farm yn cyd-fynd a’r targed ar gyfer y mynegai Mg neu’n uwch na’r targed.

Serch hynny, mae Dr Davies yn nodi y gall lefelau’r Mg sy’n cael ei ddefnyddio fod yn isel pan fydd y gymhareb K:Mg yn fwy na 3:1. "Roedd cymhareb o’r fath i’w gweld ar sawl un o’r lleiniau,” meddai.

Roedd y cyngor a roddwyd yn y Cynllun Rheoli Maetholion i The Fruit Farm yn cynnwys:

Afalau: dylid ystyried taenu gwrtaith P organig sydd wedi’i gymeradwyo, fel 'Gafsa'. Bydd angen i'r calchfaen gael ei daenu ar yr wyneb o fewn y fan lle mae’r gwreiddiau’n tyfu, gan nad oes unrhyw opsiynau o roi calch yn yr isbridd. Byddai'r hyn sy'n cyfateb i 1,000 kg/ha yn cyfateb i 1kg fesul 10m2. Ni ddylai’r mynegai K gael ei godi’n uwch na 2 gan fod lefelau K rhy uchel yn gallu creu effaith andwyol ar ansawdd storio’r ffrwythau.

Gellyg: mae ar y rhain angen 70kg/ha o botash. Byddai chwalu gwrtaith organig 'wedi’i gymeradwyo' sy'n darparu N, P a K yn addas i’r cnwd hwn. Mae pelenni gwrtaith ieir organig eisoes yn cael eu taenu ar The Fruit Farm, a byddai taenu’r rhain ar gyfradd o 1,000kg/ha yn rhoi 15kg o N, 20kg o P ac 20kg o K.

Mafon: mae ar y ffrwyth hwn angen calch fel y flaenoriaeth. O gofio bod angen mynegai o 2 ar gyfer magnesiwm, argymhellir taenu calchfaen magnesaidd ar y lleiniau. Bydd angen i’r calchfaen gael ei daenu ar yr wyneb yn y fan lle mae’r gwreiddiau’n tyfu gan nad oes unrhyw opsiynau i roi calch yn yr isbridd. Byddai'r hyn sy'n cyfateb i 5 t/ha yn cyfateb i 0.5 kg i bob 1m2. Dylai hyn gael ei ailadrodd ddwywaith y flwyddyn gydag ail brawf pridd yn yr ail flwyddyn i asesu unrhyw newid yn y pH.

Ffa llydan: Does dim angen N i gnydau codlysiau, ond byddai taenu 'Gafsa' yn ôl 100kg/ha a 500kg/ha o sylvinite yn ychwanegu at gydbwysedd y P a’r K yn y drefn honno.

Salad deiliog: gellid aredig pelenni gwrtaith ieir organig, yn cyfateb i 1,000 kg/ha, i'r fan lle mae’r gwreiddiau’n tyfu, gan daenu pelenni ychwanegol, yn cyfateb i 500 kg/ha, ar yr uwchbridd.

Mae Ms Lenza’n dweud bod canlyniadau'r samplu pridd wedi bod yn ddefnyddiol iawn iddi ac yn llawn gwybodaeth; mae'n gobeithio y bydd adfer cydbwysedd rhai o'r maetholion yn gwella iechyd ac egni'r cnydau.

Mae Cynlluniau Rheoli Maetholion ar gael gyda chyllid o 80% gan Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio. Cysylltwch â'ch Swyddog Datblygu lleol neu ffoniwch y Ganolfan Wasanaeth ar 08456 000 813 i gael rhagor o wybodaeth. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn
Gwaith samplo Cyswllt Ffermio yn amlygu cyfleoedd i wella iechyd pridd ar ffermydd Cymru
11 Rhagfyr 2024 Mae adroddiad gan Cyswllt Ffermio ar briddoedd
Sut mae anwybyddu clefydau heintus yn gallu arwain at broblemau sylweddol mewn diadelloedd yng Nghymru
29 Tachwedd 2024 Mae ffermwyr defaid yng Nghymru yn cael eu