27 Mawrth 2024

 

Fel recriwtiaid newydd i amaeth-goedwigaeth a chynhyrchu llus masnachol, bu’n rhaid i Josh ac Abi Heyneke ddysgu’n gyflym ac, yn ôl eu cyfaddefiad eu hun, gwnaethpwyd llawer o gamgymeriadau ar hyd y ffordd, ond newidiodd hynny i gyd pan gawson nhw eu paru â mentor Cyswllt Ffermio.

Roedd Josh wedi bod yn gweithio fel rheolwr prosiect yn y diwydiant technoleg pan wnaeth ef ac Abi, artist a darlunydd, y penderfyniad i adael Llundain a phrynu 10 erw o dir fferm ar y Preseli yn Sir Benfro.

“Doedd ganddon ni ddim syniad am ffermio ond llawer o egni,” cofia Josh.

Roedd y tir ger Hebron yn cynnig “cynfas wag”. Nid oedd yn ddigon o erwau i wneud bywoliaeth o ffermio da byw, felly fe aethon nhw ati i gynhyrchu wyau hwyaid organig, tyfu coedlannau cylchdro byr (SRC) a sefydlu 0.5 erw o lwyni llus gan ddefnyddio amaethyddiaeth adfywiol a thechnegau paramaethu. 

“Fe wnaethon ni'r holl gamgymeriadau roedd hi'n bosib eu gwneud!” cyfaddefa Josh.

Un o'r bobl gyntaf iddyn nhw ei gyfarfod pan symudon nhw i’r ardal oedd y cymydog, Tom Clare.

Mae Tom yn ymgynghorydd amaeth-goedwigaeth ac mae hefyd yn fentor Cyswllt Ffermio, felly fe wnaeth y pâr gais i'w gael fel eu mentor.

Roedd yn drobwynt. “Mae cael y berthynas honno ar sail ffurfiol wedi ein galluogi ni i fwrw iddi a chanolbwyntio ar y manylion. Mae wedi ein helpu ni i fireinio a miniogi sut rydyn ni'n gwneud pethau,” eglura Josh.

Un rhan o’r busnes yw cynhyrchu llus gyda 500 o lwyni o saith math gwahanol wedi’u plannu, a’r uchelgais yw cynhyrchu’r ffrwyth yn fasnachol yn 2025.

Mae amrywiaeth o goed llydanddail brodorol wedi’u plannu ac mae poplys a helyg yn cael eu tyfu i gynhyrchu biomas yn lle mewnforio naddion pren, ac i adeiladu iechyd y pridd a bywyd pryfed a chryfhau storfeydd carbon.

Mae gan y coed a'r llwyni llus symbiosis pwysig ac mae gwreiddiau bas y llwyni ffrwythau yn golygu nad oes cystadleuaeth am ofod rhwng gwreiddiau.

Mae hyn oll yn darparu'r amgylchedd delfrydol ar gyfer eu busnes bridio hwyaid.

Mae ganddyn nhw haid o hwyaid bridiau prin, megis y Khaki Campbell, y Dark Campbell a’r Harlecwin Cymreig, sy’n chwilota ymhlith y coed, yn bwyta plâu ac yn gwrteithio’r pridd.

Mae Josh ac Abi hefyd yn magu mwydod ac mae ganddyn nhw beiriannau torri gwair naturiol ar ffurf defaid.

Mae rhaglen Fentora Cyswllt Ffermio yn rhoi hyd at 15 awr o amser Tom iddyn nhw. “Mae'n berffaith,” meddai Josh. “Ac mae'r elfen rad ac am ddim yn anhygoel!”

Er bod digon o wybodaeth ar gael am ffermio ar ffurf llyfrau a chynnwys ar-lein, mae’n dweud nad oes dim sy’n cymharu â mewnbwn gan fentor a chanddo’r arbenigedd perthnasol.

“Rydyn ni’n dal i wneud camgymeriadau, ond maen nhw’n cael eu lleddfu,” meddai. 

Mae Tom hefyd wedi elwa llawer o fod yn fentor. “Mae’n fraint wirioneddol cael cipolwg ar yr hyn y mae eraill yn ei wneud.

“Mae yna symudiad gwirioneddol yn digwydd ym myd ffermio gyda ffermwyr yn cydnabod mai cyfanrwydd ecolegol yw sail amaethyddiaeth dda, ac mae'n wych bod yn rhan o hynny.”


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint