14 Mawrth 2018

 

Mae ffermwr sy’n tyfu cnydau yn Sir Benfro’n gobeithio hybu ei gnydau a chynhyrchu hyd yn oed mwy ar ôl mapio priddoedd er mwyn paru math o dir â chyfradd hadau.

Mae natur pridd yn gallu amrywio mewn cae unigol ac mae’r teulu Rees yn darganfod beth yw’r gwahaniaethau hynny mewn caeau ar Fferm Dudwell, sy’n fferm 283 hectar yn tyfu cnydau a chadw da byw ger Camros.

Gan weithio gyda Cyswllt Ffermio, mae’r teulu Rees yn gwerthuso pedwar opsiwn mapio pridd mewn dau gae - un ar dir âr a’r llall ar borfa - a bydd yn paru’r rhain â chanlyniadau samplu pridd.

Bydd yr wybodaeth a geir yn cael ei rhannu gyda ffermwyr mewn diwrnod agored a gynhelir gan Cyswllt Ffermio ar fferm Dudwell ym Mai.

Yn ôl Tom Rees, sy’n ffermio gyda’i dad, Charles, bydd mapio’n golygu nad oes raid dyfalu wrth dyfu cnydau.

“Dydym ni ddim o reidrwydd yn edrych ar hyn o safbwynt arbed arian ond i ddefnyddio’r tir yn well i gynhyrchu cnydau.

“Mae’r dechnoleg ar gael felly rydym yn awyddus i’w defnyddio, bydd yn golygu nad oes raid i ni ddyfalu.’’

Yn un o’r caeau sy’n cael ei fapio tyfwyd cnwd o wenith gaeaf a bydd tatws yn cael eu plannu yno'r gwanwyn hwn; porfa yw’r llall.

“Mae gennym ddiddordeb mawr mewn cyfradd hadau amrywiol, i addasu cyfraddau hadau trwy eu paru â mathau o bridd er mwyn tyfu hyd yn oed mwy o gnydau,’’ meddai Tom.

“Mae defnyddio data’n beth da ond rhaid i chi roi’r wybodaeth yr ydych yn ei darganfod ar waith, does dim diben buddsoddi mewn technoleg os nad ydych chi’n gwneud hynny. Yr hyn sy’n allweddol yw manteisio ar dechnoleg a chyfuno’r wybodaeth honno â’ch gwybodaeth eich hun i wneud cynlluniau a chael syniadau.’’


Related Newyddion a Digwyddiadau

Coeden a dyfir ar fferm Rhwydwaith Coed Nadolig Cyswllt Ffermio yn cyflenwi Rhif 10
19 Tachwedd 2024 Mae gan fusnes o Bowys sy'n aelod o rwydwaith o
Estyn allan i’r genhedlaeth iau – Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru yn targedu’r ifanc mewn ymgais i wneud ffermydd Cymru yn fwy diogel
18 Tachwedd 2024 Nid yw bob amser yn hawdd dweud wrth ffermwr
Gwella’r gallu i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd drwy gyrsiau Cyswllt Ffermio
13 Tachwedd 2024 Gall hyfforddiant a sgiliau newydd helpu