10 Mai 2019

 

 

image003 0

Mae’r fuches o 80 o fuchod Stabiliser ar Fferm Orsedd Fawr, sy’n un o Safleoedd Arddangos Cyswllt Ffermio ar 243 hectar (ha) ger Pwllheli, yn rhedeg ar system bori cylchdro ar draws hanner y fferm.

Roedd y ffermwyr, Gwyn a Delyth Parry, wedi gosod targed o besgi gwartheg bîff ar laswellt erbyn 18 mis oed yn 600kg ond maen nhw’n cydnabod bod hyn yn “andros o her”.

Er mwyn sicrhau llwyddiant, rhaid i iechyd yr anifeiliaid a’r gwaith rheoli tir glas fod yn llygad ei le. Yn sgil tywydd gwael at dyfu glaswellt yn 2018 dim ond 25% o’r bustych ar y glaswellt a gyrhaeddodd y targedau o ran oedran a phwysau.

Erbyn hyn, mae’r teulu Parry wedi cyrraedd yr uchafswm stocio ar gyfer eu system organig: mae ganddyn nhw ddiadell o 500 o ddefaid hefyd.

Does dim modd cynyddu niferoedd y stoc, ac felly maen nhw’n anelu bellach at gynyddu’r enillion o’r fenter bîff drwy wella gwerth y stoc.

Er mwyn cyrraedd eu targed o besgi pob anifail ar laswellt yn 18 mis oed, maen nhw’n treialu ffrwythloni artiffisial yn hanner y fuches.

“Drwy ddefnyddio AI bydd gennym ni’r hyblygrwydd i fridio ar gyfer priodweddau penodol, boed yn y fam neu yn yr anifail sy’n cael ei ladd,’’ meddai Mr Parry.

“Bydd perfformiad y lloi potel yn cael ei fonitro a’i gymharu â’r lloi sy wedi’u magu drwy ddefnyddio’n teirw stoc ni er mwyn gweld a allwn ni gyfiawnhau’r gost a’r llafur ychwanegol.

“Rydyn ni’n anelu at ddefnyddio teirw dibynadwy a chydnabyddedig a fydd yn rhoi lloi inni a fydd yn cyrraedd y targedau o ran perfformiad ac yn gadael elw ar eu hôl.’’

I wneud i’r system weithio ar system laswellt ac ar fferm arall, mae technoleg newydd i ganfod pryd mae’r buchod yn gofyn tarw yn cael ei threialu fel rhan o brosiect Cyswllt Ffermio.

Mae coler sy’n canfod buchod sy’n gofyn tarw wedi’i osod ar darw sbaddedig. Mae hon wedi’i chysylltu â thagiau RFID ar y buchod er mwyn dod o hyd i gynnydd yn eu gweithgarwch.

Mae Mr Parry’n awgrymu bod yna fanteision amlwg yn y dull hwn, gan gynnwys gwelliannau genetig cyflym yn y fuches.

“Drwy gyfrwng ffrwythloni artiffisial mi allwn ni ddefnyddio nodweddion genetig teirw o’r radd flaenaf,’’ meddai.

Caiff y buchod eu ffrwythloni ar fferm chwe milltir i ffwrdd o’r Orsedd Fawr ac felly mae’r system sy’n tynnu sylw at fuwch sy’n gofyn tarw yn hollbwysig, meddai Mr Parry.

“Bydd rhybuddion yn codi ar fy ffôn symudol i, yn rhoi gwybodaeth am yr anifeiliaid mae angen i’r technegydd eu ffrwythloni nhw fore trannoeth.

“Mae gynnon ni gyfleusterau da i drin a thrafod yr anifeiliaid ac rydyn ni’n rhedeg y gwartheg ar system padog yn debyg i iawn i fferm laeth felly mae’n weddol hawdd eu symud nhw drwy ddefnyddio system ffensys trydan pan fydd angen.

“Dod â nhw i mewn ar gyfer AI fydd yr her fwyaf, ond maen nhw’n bur ddof.’’

Mae Mr Parry yn cydnabod na fydd y system yn un rad, gan fod un gorsen ynghyd â gwasanaethau ffrwythloni’n costio tua £30, ond mae’n hyderus y bydd hyn yn cael ei adennill yn sgil y cynnydd yn y gwerthoedd bridio tybiedig (EBVs) y mae’n dewis eu defnyddio.

Bydd yn defnyddio AI am chwe wythnos cyn dod â tharw stoc Stabiliser i mewn.

Mae gwybod pryd mae’r fuwch yn gofyn tarw yn eithriadol bwysig o ran rhoi rhaglen AI ar waith yn llwyddiannus, meddai Prys Davies, Swyddog Technegol Cig Coch Cyswllt Ffermio yn y Gogledd.

“Ar y cyfan, mae anifeiliaid bîff yn dangos eu bod nhw’n gofyn tarw yn fwy pendant na buchod llaeth ac yn amlygu llai o bwysau metabolig. Felly, gallwch ddisgwyl gweld cyfraddau beichiogi da os yw’r gwaith ffrwythloni’n cael ei wneud yn dda,’’ meddai.

 

Manteision defnyddio AI:

  • Modd defnyddio ystod o deirw cydnabyddedig o fridiau gwahanol a’u geneteg nhw’n well
  • Mae’n caniatáu dewis a dethol buchod neu heffrod i’w paru er mwyn gwella priodweddau penodol yn y fuches, megis defnyddio teirw sy’n creu epil sy’n lloia’n hawdd mewn heffrod cadw
  • Gwell dibynadwyedd ar gael
  • Dileu’r risg bod y tarw’n anffrwythlon

Anfanteision AI:

  • Yn cymryd amser
  • Heb dechnoleg i ganfod bod buwch yn gofyn tarw, rhaid cadw llygad barcut ar yr anifeiliaid
  • Angen cyfleusterau da i drin yr anifeiliaid i’w ffrwythloni
  • Angen crynhoi buchod a heffrod pan fôn nhw’n gofyn tarw

Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y